Darllen yn y Blynyddoedd Cynnar
________________________________________![]()
Mae pob plentyn angen dysgu darllen; maen allwedd i addysg gyflawn. Maer gair printiedig yn elfen holl bresennol yn ein byd a chan fod y byd llyfrau yn fyd cyfoethog i bob oed, o fethu darllen caiff y plentyn ei amddifadu o ddimensiwn angenrheidiol yn ei ddatblygiad.
Maen bwysig i ni ddeall mai proses yw darllen. Nid methu darllen un diwrnod a gallu y diwrnod nesaf mae plentyn. Nid oes ychwaith un ffordd arbennig o wneud ir broses yma ddigwydd; felly mae amrywiol ffyrdd y gellir eu defnyddio i ddysgu plant i ddarllen.
Yn anad dim, maen rhaid meithrin chwaeth ac agweddau cadarnhaol tuag at lyfrau or cychwyn cyntaf.