Darllen yn y Blynyddoedd Cynnar


________________________________________Yn ôl..

AWGRYMIADAU AR SUT I ANNOG Y PLENTYN I FAGU ANNIBYNIAETH FEL DARLLENWR
  • Y PLENTYN YN DARLLEN UN NEU DDAU O LYFRAU CYFARWYDD
  • Cyflwyno llyfr newydd

Trafod y stori - y cynnwys, brawddegau ac arddull y llyfr. Tynnu sylw at brif strwythur llyfr a thrafod lluniau'r llyfr cyfan.

Pwysleisio rhai o'r geiriau newydd gyda llais uchel - rhain fydd raid i'r plentyn eu hadnabod o'r ciwiau gweledol a synnwyr y darn.

Gofyn iddo pa sn mae'n ddisgwyl glywed yn y gair sy'n cael ei bwyntio allan ar y dudalen neu awgrymu fod y gair newydd 'coes' ar y dudalen. Ydy o yn gallu ei ganfod?

Y plentyn i ddarllen -

a) gyda help - cydbwyntio a chyd ddweud y stori gan bwysleisio'r geiriau newydd gyda goslef llais.
b) gyda nemor dim help. Ei feithrin i ddefnyddio'r amrywiol giwiau e.e.
Edrych trwy'r llyfr ar y lluniau i ti gael dweud wrthyf beth sydd yn y stori ac wedyn darllen hi dy hun.
Pwyntio y testun gyda'r plentyn a pheidio symud os yw'r plentyn yn gwneud camgymeriad y gall ei gywiro.
Os yw'n cael trafferth helpwch i gywiro.
  
1. 'Coed' ddywedaist ti rwan. Ydy hwnna i'w glywed yn iawn yn y frawddeg?
2. Ydy 'coed' yn gwneud synnwyr yma dywed, edrych ar y llun eto.
Ydy 'coed' y bachgen yn gwaedu?
3. Os yw'r plentyn yn ei gael yn iawn gofyn iddo pa sn sydd ar ddechrau diwedd 'coed' ac ydy'r gair i'w weld o faint cywir?
Cyfle i'r plentyn sicrhau ei fod yn iawn.
4. Cael y plentyn i ddarllen y frawddeg eto gan roi 'coes' yn lle 'coed' y tro yma i weld os yw'n gwneud synnwyr.
5. Os yw'r plentyn yn methu ar y ciwiau i gyd awgrymu fuasai 'coes' yn ffitio yma i wneud synnwyr yn y stori.
    
PWYSIG

Dylid canmol pan mae'n ceisio defnyddio'r ciwiau amrywiol i gywiro ei hun. Os caiff amser a gwerth ei roi gan yr athrawes ar y math yma o ddadansoddi yna bydd y plentyn yn gweld gwerth o ‘i wneud ei hun.

YNA, ail ddarllen y stori yn ystod yr yn cyfnod.