Datblygu Iaith y Plentyn Ifanc
(Dan 5 oed)
______________________________________
Bydd iaith y plentyn ifanc yn datblygu trwy chwarae. Bydd cynllunio
cyfleoedd addas i ddibenion datblygu iaith yn gofyn am sefyllfaoedd chwarae amrywiol a
diddorol.
Nodir isod y sgiliau sydd angen eu datblygu gydar
plentyn ifanc.
- Y gallu i gyfathrebun hyderus.
- Cymdeithasun rhydd a hapus.
- Datblygu gallu dychmygol y plentyn - yn gyntaf mewn
sefyllfaoedd (strwythuredig) yn yr ysgol e.e. y t bach twt, gwisgo i fyny, gemau tu allan.
- Y gallu i ddysgu hwiangerddi, cerddi, rhigymau - i ymarfer
siarad (yn gyntaf) ac yna dod yn ymwybodol o sn a rhythm iaith.
- Cynorthwyor plentyn i allu ailadrodd stori ynglyn â
rhyw ddigwyddiad neu brofiad personol.
- Helpur plentyn i ddatblygun gorfforol, i
ddatblygu sgiliau cydweithredol (meim, drama, addysg gorfforol a dawns).
- Datblygu yn y plentyn ifanc ymwybyddiaeth o rythm mewn
miwsig, trwy guro dwylo, stampio, offerynnau taro syml.
- Datblygu diddordeb mewn llyfrau - dweud storïau, edrych ar
lyfrau, darllen storïau.
- Datblygu meddwl ymchwilgar - Pam? Sut? Pryd? Beth?
Sut i helpur plentyn ennill sgiliau iaith?
- Siarad gydar plentyn mor aml ag sydd bosibl. Siarad am
bethau yn y cartref, teganau, anifeiliaid anwes, ffrindiau, dillad, bwyd. Pethau yn yr
ardd, allan ar y stryd, yn y parc. Mae tynnu sylw at bethau on cwmpas yn bwysig.
- Siarad am y pethau maer plentyn yn gallu clywed,
gweld, cyffwrdd, trin, arogli. Mae cyffwrdd, trin, arsylwi a gweld yn bwysig. Mae plant
bach yn dysgu trwyr pethau hyn i gyd. Maer cartref/ysgol, yr ardd, y stryd yn
llawn o bethau diddorol. Rhaid dangos y rhain ir plentyn, sgwrsio amdanynt ai
helpu i gymryd diddordeb.
- Gwrando ar y plentyn (mae gwrando yn sgil arbennig). Mae
plant bach yn dynwared pobl. Maen bwysig iddynt ddynwared yn gywir. Bydd i oedolyn
wrando ar y plentyn yn rhoi hyder iddo/iddi siarad a rhannu profiadau.
- Dweud a darllen storïau ir plentyn. Mae helpur
plentyn i wrando yn bwysig hefyd. Gellir gwneud hyn trwy ddweud neu ddarllen stori syml.
Gall lluniau fod yn help mawr, gall plentyn siarad am y darlun ac am y stori y mae newydd
glywed.
- Helpur plentyn i ddysgu hwiangerddi a rhigymau. Mae
gan lawer o hen hwiangerddi a rhigymau rhythm a sn. Maer sn yn bwysig a gall
dysgur rhigymau hyn fod yn hwyl. Maent yn rhoi digon o ymarfer ir plentyn
ifanc ymarfer siarad, a dweud.
- Dangoswch eich diddordeb yn y plentyn ifanc trwy drosglwyddo
y rhodd o iaith. Mae plant ifanc yn dysgu siarad yn y cartref ac yn yr ysgol. Rhaid i
iaith gael ei datblygu ai hymestyn yn y blynyddoedd cynnar.
IAITH, LLYTHRENNEDD A CHYFATHREBU |
MATHEMATEGOL |
GWYBODAETH A DEALLTWRIAETH OR BYD |
| Siarad Gwrando
Darllen
Ysgrifennu |
Defnyddio iaith fathemategol mewn
cyd-destun perthnasol. Cofio rhigymau, caneuon
storïau |
Siarad am eu cartref
a ble maent yn byw. Deall defnydd nifer o ffynonellau
gwybodaeth.
Defnyddio iaith wyddonol |
IAITH
FEL GRYM I DDYSGU |
PERSONOL A CHYMDEITHASOL |
CREADIGOL |
CORFFOROL |
| Cyd chwarae, cydweithio. Mynegi teimladau
Gwrando ar storïau
Ymateb yn gadarnhaol i brofiadau ieithyddol newydd |
Arsylwi a gwerthfawrogi eu gwaith
eu hunain ac eraill. Hybu datblygiad :
Sgiliau mynegiannol a chyfathrebu |
Cyd chwarae Gwrando ac ymateb |
Len Jones |