|
Mynegai Thema i Lyfrau
Stori a Llun i Blant
Crëwyd y Mynegai isod
yn 2000 gan Wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Gwynedd. Y bwriad oedd creu
adnodd a fyddai o ddefnydd i athrawon a llyfrgellwyr yn bennaf i hwyluso’r
gwaith o chwilio am ddeunyddiau addas yn y Gymraeg i blant ar thema
arbennig.
Ceisiwyd cyfyngu’r llyfrau a
nodwyd i lyfrau diweddar a gyhoeddwyd yn ystod y deng mlynedd diwethaf.
Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn llyfrau stori a llun, ac yn addas i’r
ystod oedran Bl 0 – Bl 3.
Nid yw pob teitl mewn print,
ond dylent fod ar gael oddi wrth eich Gwasanaeth Llyfrgell neu Wasanaeth
Llyfrgell i Ysgolion lleol. Bydd y Mynegai yn cael ei ddiweddaru pob rhyw
ddwy flynedd.
Byddem yn ddiolchgar o dderbyn
unrhyw awgrymiadau neu ychwanegiadau gennych at y Mynegai hwn. Dylid
cyfeirio unrhyw ohebiaeth at:
Llyfrgellydd Plant a Phobl
Ifanc,
Canolfan Llyfrgell Caernarfon,
Allt Pafiliwn,
Caernarfon.
Gwynedd
LL55 1AS.
|