Canllawiau a Phrosiectau C.A.3botCA3.jpg (2042 bytes)
_________________________________________________
 ...gwybodaeth ynglyn ag arfer dda, digwyddiadau, prosiectau a defnyddiau newydd.

      
CANLLAWIAU I’R ATHRO/ATHRAWES PWNC

AR DDATBLYGU LLYTHRENNEDD

Ydych chi’n …

LLAFAR – Siarad a Gwrando

  • mynnu gwrandawiad astud gan ddisgyblion ar eich cyflwyniad ac ar ymateb cyd-ddisgyblion?
  • rhoi cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau llafar – gwaith pâr, trafodaethau grwp, tasgau chwarae rôl?
  • cynnig arweiniad, ac yn paratoi disgyblion yn ddigonol cyn iddynt gyflawni tasg lafar?

DARLLEN

  • gosod tasg fer ar gyfer parau, ar ôl cyflwyno testun, er mwyn i’r disgyblion gael ailystyried cynnwys y darn darllen?
  • gwneud defnydd o weithgareddau DARTs?
  • rhoi cyfle i’r disgyblion ymarfer darllen mewn parau/grwp gan osgoi gofyn iddynt ddarllen ar goedd heb iddynt baratoi ymlaen llaw.

YSGRIFENNU

  • cyflwyno model o arfer dda i’r disgyblion o’r dasg dan sylw gan neilltuo amser iddynt ddadansoddi nodweddion y ffurf – cyn cyflawni’r gwaith.
  • lle bo angen, cyflwyno ffrâm ysgrifennu i’r disgyblion er mwyn trefnu’u syniadau ac annog ymateg estynedig.
  • rhoi sylw i wallau sillafu ac atalnodi wrth farcio gwaith?
  • annog disgyblion i ystyried eu cywiriadau trwy neilltuo amser iddynt edrych ar eu gwaith wedi iddo gael ei farcio. Er mwyn eu cynorthwyo gellid eu cyfeirio at y Llyfryn Iaith.
  • rhoi cyfle i ddisgyblion gyflawni tasgau ysgrifennu estynedig mewn amrywiaeth o ffurfiau gwahanol?

CYFFREDINOL

  • paratoi disgyblion at dasg, drwy osod tasg lafar i’w paratoi yn syniadol, cyn dechrau ar waith ysgrifennu dilynol?
  • cynnig adborth ar ddiwedd darn o waith gan osod targedau er mwyn hybu cynnydd.
  • cyfeirio’r disgyblion at y deunydd hybu llythrennedd sydd ar wal yr ystafell ddosbarth?
  • atgoffa’r disgyblion o bwysigrwydd bod yn ymwybodol o’r math o iaith a ddefnyddiant ac o gywirdeb eu mynegiant?