Canllawiau a Phrosiectau C.A.3bot3.gif (1370 bytes)
_________________________________________________
 ...gwybodaeth ynglyn ag arfer dda, digwyddiadau, prosiectau a defnyddiau newydd

POLISI LLYTHRENNEDD

DIFFINIAD

RHESYMEG

  • Y mae llythrennedd yn bwysig oherwydd y mae'n galluogi disgyblion i yrngyrraedd at y pynciau a ddysgir yn yr ysgol, eu galluogi i ddarllen er mwyn pleser a gwybodaeth, ac i gyfathrebu'n llwyddiannus. Y mae safon uchel o lythrennedd yn effeithio'n adeiladol ar yr hyn y gall disgyblion ei gyflawni, gan gynyddu eu hunanbarch. Fel yn unrhyw, gymdeithas dechnolegol flaengar, ein nod yw galluogi bobl i ddefnyddio iaith er mwyn gwella eu gallu i feddwl, creu, a chwestiynu ac felly cyfranogi yn llawnach mewn cymdeithas.
  • Trwy feithrin medrau llythrennedd ar draws y cwricwlwm, anela'r ysgol i sicrhau cynnydd parhaus tuag at y safonau uchaf ymhlith y disgyblion mewn mynegiant a chyfathrebiaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig. Y mae'r ysgol yn deall bod angen safonau uchel o lythrennedd i ddatblygu dealltwriaeth y disgyblion o'r hyn a ddysgant, a thrwy hynny godi safonau ar draws y cwricwlwm.

 

  • Cyfrifoldeb ar y cyd yw llythrennedd ac yn rhy bwysig i'w adael yn nwvlo athrawon iaith vn unig.

AMCANION

Amcanion y Polisi Llythrennedd yw sicrhau bod:

a)yr holl athrawon yn ymwybodol o'u rol mewn hyrwyddo medrau llythrennedd

b)yr holl adrannau yn deall sut mae eu harferion yn helpu i ddatblygu medrau llythrennedd

c)strategaeth ysgol-gyfan yn bodoli i hyrwyddo llythrennedd

        ch)safonau addysgol yn cael eu codi ar draws y cwricwlwm.

CANLLAWIAU

Bydd pob disgybl yn:

a)cael arfarniad rheolaidd ar agweddau o'u medrau llythrennedd

b)cael mynediant i gefnogaeth ar gyfer datblygu llythrennedd

c)cael profiad o amrywiaeth o gyfleoedd o fewn pynclau sy' n helpu i ddatblygu llythrennedd yn uniongyrchol

        ch)cael anweiniad ar sut i wella medrau llythrennedd ym mhob pwnc.

Bydd pob athro yn:

a)derbyn arweiniad neu hvfforddiant ar sut y gall gwella medrau iaith godi safonau yn y  pwnc

b)gweithredu canllawiau ysgol gyfan ac adrannol ar ddatblygu llythrennedd

c)gweithredu polisiau ysgol gyfan ac adrannol marcio/asesu iaith cytun

        ch)gweithredu mentrau ysgol-gyfan ac adrannol ar gyfer datblygu llythrennedd.

Bydd pob Adran yn:

a)mabwvsiadu polisi ar gyfer datblygu llythrennedd wedi ei seilio ar bolisi'r ysgol

b)adnabod cvfleoedd yn y ddogfennaeth adrannol ar gyfer datblygu elfennau llythrennedd o fewn y maes

          c)ymgorffori gweithgareddau dosbarth sv'n hyrwyddo datblygiad llythrennedd

        ch)darparu arweiniad i ddisgyblion ar sut i wneud cynnydd

Bydd yr Uwch Dim Rheoli yn:

a)adolygu strategaethau datblygu llythrennedd yr ysgol yn rheolaidd

b)adrodd vn rheolaidd ar ddatblygiad llythrennedd o fewn yr ysgol

c)cymryd camau pellach i wella gallu’r vsgol i wella medrau llythrennedd ei disgyblion