Heb fod ymhell o Landdeusant mae fferm o'r enw Clwchdernog. Ar ddechrau un tymor aeth gwraig o'r enw Sian i Glwchdernog i weini. Ychydig a wyddai fod bwgan yn y ffermdy. Un o Lannerchymedd oedd Siân ac roedd yn ôl y sôn wedi bod yn gweini mewn sawl ffremdy cyn dod i Glwchdernog. Un noson, a Siân yn ei gwely, daeth y bwgan i mewn i'w hystafell. Ni allai ei weld ond gwyddai ei fod yno achos gallai glywed ei swn yn llenwi'r llofft, rhyw swn fel rhwygo brethyn. Nid oedd ofn ar Siâ n. Yn hytrach cododd i fyny yn ei gwely, trodd i gyfeiriad y swn a dywedodd yn hamddenol, "Os wyt yn rhwygo brethyn, rhwyga lathen i minnau hefyd." Ar hynny daeth twrw fel taran, twrw a barhaodd drwy'r nôs. Ni chysgodd y forwyn yr un winc y noson honno. Pan ddaeth y bore, cododd Siân, gwisgodd yn gyflym a rhedodd am y pentref. Ymhen dim o amser roedd stori'r bwgan yn dew hyd y lle. O dipyn i beth daeth pobl Môn i gyd i wybod yr hanes a daeth bwgan Clwchdernog yn enwog iawn. Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach aeth gwr gweddw o'r enw John Hughes i Glwchdernog. Roedd John Hughes yn awyddus iawn i briodi morwyn y fferm. Yn sydyn ac yntau yn eistedd yn y gegin gefn daeth yr ysbryd i'r ystafell. Clywodd John Hughes yr union swn a glywodd Siân flynyddoedd lawer ynghynt, sef swn fel petai llathenni o ddefnydd yn cael ei rwygo. Ni chynhyrfodd John Hughes. Trodd i gyfeiriad y swn a gofynnodd yn bwyllog, "Ydw i wedi dy ddigio di ? " "Nac wyt." oedd ateb y bwgan "Ydi'r forwyn sydd yn mynd i fod yn wraig i mi wedi dy ddigio di ?" "Nac ydi." atebodd y bwgan. "Wel pam felly wyt ti yn dod yma i boeni pobl y ty ?" Atebodd y bwgan, "Yn agos i 'r Ffynnon Wen mae trysor wedi ei guddio. Mae'r trysor yn perthyn i'r baban naw mis oed sydd yn byw yng Nghlwchdernog. Pan gaiff ef y trysor, fe fyddaf innau yn hapus." Gwrandawodd John Hughes yn astud. Wedi clywed yn union ym mhle roedd y trysor wedi ei guddio aeth i nôl rhieni'r baban a rhai o'r gweision ac aethant at y Ffynnon Wen. Bu cloddio mawr am amser hir. Yna yn sydyn daethant o hyd i gist fawr haearn. Codwyd hi yn araf o'r ddaear. Agorodd John Hughes hi. Roedd yn llawn o aur ac arian a llawer o bethau gwerthfawr eraill. Aed a hi i'r ffermdy ac i ystafell y babi. Ac yn wir i chi, byth oddi ar hynny, ni fu son am fwgan Clwchdernog. |