Wrth ymyl Llanddeusant mae fferm o'r enw Clwchdernog. Roedd morwyn yn gweini ar y fferm. Enw'r forwyn oedd Siān. Roedd bwgan yn y ffermdy ond doedd Siān yn gwybod dim am y bwgan. Un noson a Siān yn ei gwely daeth y bwgan i mewn i'r ystafell. Roedd yn gwneud swn fel petai yn rhwygo brethyn. Wnaeth Siān ddim dychryn. Gofynnodd i'r bwgan, "Os wyt ti yn rhwygo brethyn, wnei di rwygo peth i mi hefyd." Dechreuodd y bwgan wneud twrw mawr. Bu'n gwneud twrw drwy'r nos ac ni chysgodd Siān yr un winc y noson honno. Yn y bore aeth Siān i'r pentref. Dywedodd wrth bawb yn y pentref am y bwgan. Daeth bwgan Clwchdernog yn enwog iawn. Ymhen llawer iawn o flynyddoedd aeth gwr gweddw o'r enw John Hughes i Glwchdernog. Roedd o eisiau priodi morwyn y fferm. Yn sydyn ac yntau yn eistedd yn y gegin gefn daeth y bwgan i mewn i'r ystafell. Dechreuodd y bwgan wneud y swn eto. Swn fel petai yn rhwygo brethyn. Wnaeth John Hughes ddim cynhyrfu. Gofynnodd i'r bwgan. "Ydw i wedi dy ddigio di ?" "Nac wyt," oedd ateb y bwgan. "Ydi'r forwyn wedi dy ddigio di," "Nac ydi," oedd ateb y bwgan. "Wel pam wyt ti yn dod i'r ty yma i boeni pawb ?" Atebodd y bwgan, "Yn agos i'r Ffynnon Wen mae trysor wedi ei guddio. Baban bach y ty yma biau'r trysor. Pan gaiff ef y trysor mi fydda i'n hapus." Aeth John Hughes a theulu Clwchdernog i chwilio am y trysor. Bu pawb yn brysur yn cloddio am amser hir. Yn sydyn, daethant o hyd i gist fawr haearn. Roedd y gist yn llawn o bethau gwerthfawr. Cariwyd y gist i'r ty ac i ystafell y babi. Ac yn wir i chi, ni fu son am fwgan Clwchdernog byth wedyn. |