Yn Llanddeusant mae fferm o'r enw Clwchdernog.
Roedd morwyn yn byw ar y fferm. Enw'r forwyn oedd Siān. "Os wyt ti yn rhwygo defnydd, wnei di rwygo defnydd i mi hefyd."meddai Siān Dechreuodd y bwgan wneud twrw mawr. Bu'n gwneud twrw mawr drwy'r nos. Doedd Siān ddim yn medru cysgu. Yn y bore aeth Siān i ddweud wrth bawb am y bwgan. Daeth y bwgan yn enwog iawn. Ymhen llawer iawn o flynyddoedd aeth dyn i Glwchdernog. John Hughes oedd enw'r dyn. Roedd o eisiau priodi'r forwyn. Pan oedd o yn eistedd yn y gegin daeth y bwgan i'r ystafell. Dechreuodd y bwgan wneud y swn eto. Swn fel tasa fo yn rhwygo defnydd. Gofynnodd John Hughes i'r bwgan, "Pam wyt ti yn dod i'r ty yma i boeni pawb ?" Meddai'r bwgan, "Mae trysor wedi cael ei guddio wrth ymyl y Ffynnon Wen. Babi bach y ty yma bia'r trysor. Dos i nōl y trysor a'i roi o i'r babi. Mi fydda i yn hapus wedyn. " Aeth John Hughes a theulu Clwchdernog i chwilio am y trysor. Cawsant hyd i gist fawr yn y ddaear. Yn y gist roedd aur ac arian. Aeth John Hughes ā'r gist i'r ty ac i ystafell y babi. Ac yn wir i chi welodd neb y bwgan yng Nghlwchdernog wedyn. |