GWEITHGAREDDAU HAEN 1                      BWGAN CLWCHDERNOG
_________________________________________________________________  nôl...

Defnyddiwch y stori i ateb y rhain. Atebwch mewn brawddegau llawn:

Sut oedd Sian a John Hughes yn teimlo wrth iddynt glywed y bwgan?

Eglurwch y frawddeg "Ymhen dim o amser roedd stori’r bwgan yn dew y lle"

Beth yw’r gair arall am ddefnydd sydd yn y stori?

 

Edrychwch ar y rhain o’r stori:

..gofynnodd yn bwyllog…

…gwrandawodd yn astud…

…dywedodd yn hamddenol…

 

Ychwanegwch at y disgrifiadau yma yn yr un ffordd:

Cysgodd yn….

Trodd yn ……i gyfeiriad y swn

Agorodd y gist yn ………

 

Meddyliwch am y digwyddiadau oedd wedi arwain at y gist yn cael ei guddio.Ysgrifennwch stori fer i egluro’r hyn ddigwyddodd.