GWEITHGAREDDAU HAEN 1
_________________________________________________________________
1. Yn y stori gwelsoch y frawddeg yma:
'Edrychodd y dyn i gyfeiriad y môr, ac yno er mawr syndod iddo gwelodd saith cwch yn llawn o bobl od iawn yr olwg.'
Ewch ati i greu paragraff yn disgrifio'r gwrachod yn un o'r cychod.
Beth am ddefnyddio thesawrws Saesneg i ddod o hyd i eiriau da i ddisgrifio'r gwrachod, ac yna eu cyfieithu i'r Gymraeg. Defnyddiwch hwy yn eich paragraff.
2. Edrychwch ar y paragraff sy'n dechrau â'r frawddeg:
'Doedd yna ddim diwedd ar driciau'r gwrachod'
Fedrwch chi ddod o hyd i'r holl eiriau sy'n treiglo? Beth am greu tabl a'u rhestru e.e.
gair wedi'i dreiglo |
heb dreiglo |
| driciau | triciau
|