GWEITHGAREDDAU HAEN 2
_________________________________________________________________
1. Ysgrifennwch eich atebion wrth ymyl y marc bwled.
a) Rhestrwch dri pheth a wnaeth y gwrachod a oedd yn dangos
bod ganddynt bwerau hudol.
b) Sut yr oedd y gwrachod yn amddiffyn eu hunain?
c) Beth oedd yn godro'r fuwch?
2. Ysgrifennwch baragraff yn disgrifio un o'r cychod ar ddechrau'r stori. Cofiwch ddisgrifio'r cymeriadau a sut yr oedden nhw'n ymddwyn. Fedrwch chi gychwyn eich brawddegau yn wahanol pob tro?
3. Ysgrifennwch ddeialog rhwng dau bryfyn a ddaeth allan o'r sgarff. Be' mae'n rhaid i chwi ei wneud i ddangos bod rhywun yn siarad?
Cofiwch ddarllen eich gwaith yn ofalus cyn ei argraffu, a'i ddangos i'ch athro neu athrawes.