GWEITHGAREDDAU HAEN 3             gllm.gif (1909 bytes) 
_________________________________________________________________  nôl...

Atebwch y cwestiynau yma am y stori:

    Beth oedd y gwrachod yn ei wneud i wylltio pobl Llanddona?

    Pam aeth pobl Llanddona i lawr i’r traeth yn y nos?

    O ble ddaeth y pryfed i bigo pobl y pentref?

Edrychwch ar y berfau yma o’r stori;

Gwelodd.. Cofiodd.. Agorodd.. Dechreuodd… Rhedodd….

Mae’r geiriau yn dod ar ddechrau brawddeg.

Ysgrifennwch y berfau yma yn yr un ffurf:

gyrru -

cario –

Defnyddiwch y geiriau i ail ysgrifennu’r brawddegau yma.  Cofiwch roi’r ferf ar ddechrau’r frawddeg.

    Roedd y wrach wedi gyrru Cilhaul y ffordd arall.

    Roedd y gwrachod yn cario’r pethau o’r cychod i’r lan.


Ysgrifennwch y gair ym mhob rhestr nad yw’n dilyn yr un patrwm sillafu a’r gweddill ac fe welwch frawddeg o’r stori.  Mae’r gynta wedi ei wneud i chi.

rheol eos deor roedd eog roedd

tra ar raced raffl ras

gwag bwa wal gwas bawb 

teithio ei eu eich eiddo

safle hofn haf afal gafael


Dychmygwch eich bod yno pan oedd un o’r gwrachod yn gyrru Cilhaul y ffordd arall.   Pam nad oedd Cilhaul wedi sylweddoli pwy oedd hi?  Oedd hi’n edrych yn wahanol?  Ysgrifennwch ddisgrifiad ohoni.