Logo Straeon Gwerin Môn
Haenau
Gweithgareddau

Y Cynnwys

Gwrachod Llanddona  HAEN 1
   
AG00411_1.GIF (6325 bytes)

Heb fod ymhell o bentref Llanddona ar Ynys Môn mae traeth o'r enw Traeth Coch.  Mae'n draeth poblogaidd iawn, ac yn yr Haf fe fydd ymwelwyr yn tyrru yno i fwynhau'r môr a'r tywod melyn.  Flynyddoedd lawer yn ôl daeth criw arall ar ymweliad a Thraeth Coch, ond roedd rhain yn griw pur wahanol a dyma'r stori i chi.

Roedd gwr o Landdona yn cerdded ar hyd Traeth Coch un diwrnod pan glywodd lais yn galw,

"Helpwch ni, rydym ni wedi colli ein rhwyfau mewn storm ac wedi bod ar y môr ers amser hir.  Rydym i gyd yn sychedig iawn."

Edrychodd i gyfeiriad y môr ac yno, er mawr syndod iddo, roedd saith cwch yn llawn o bobl od a rhyfedd yr olwg.  Yn sydyn, cofiodd y gwr am yr arferiad mewn ambell wlad o roi gwrachod drwg mewn cychod heb rwyfau na hwyliau ac yna eu gyrru allan i'r môr heb fwyd na diod.  Mae'n rhaid, meddyliodd y gwr, mai gwrachod yw'r criw yma.

"Ewch i nôl rhaff i ni gael glanio!" gwaeddodd un o'r criw. 
Heb oedi dim rhedodd y gwr i fyny o'r traeth ac i'r pentref.  Ond yn hytrach na nôl rhaff, aeth o ddrws i ddrws yn rhybuddio pawb fod haid o wrachod yn ceisio glanio ar y traeth.  Rhuthrodd pawb i lan y môr, ond yn rhy hwyr.  Roedd gwynt cryf wedi dod o rywle ac wedi chwythu'r cychod i'r lan.

Cyn gynted ag y cafodd y gwrachod eu traed ar dir sych aethant ati i chwilio am ddiod.  Nid oedd pobl Llanddona yn awyddus o gwbl i'r criw rhyfedd yma yfed o'u ffynhonnau hwy ond nid oedd hyn yn broblem o gwbl i'r gwrachod.  Trawodd un ohonynt y tywod gyda'i ffon ac ar amrantiad fe ffrydiodd afon o ddwr clir oer o flaen eu llygaid.  Yfodd y gwrachod yn awchus.  Dychrynodd pobl Llanddona yn fawr o weld hyn.  Nid oeddynt wedi gweld eu tebyg erioed o'r blaen.

Ni fu'r gwrachod yn hir cyn mynd ati i wneud cytiau bychan iddynt eu hunain ar y comin a mynd o dy i dy i chwilio am fwyd.  Roedd ar bawb eu hofn ac ni feiddiai neb eu gwrthod.   Pe byddai unrhyw un yn ddigon gwirion i wneud hynny yna fe fyddai'r gwrachod yn eu melltithio.

Credai rhai yr adeg hynny y gallai'r gwrachod newid i fod yn ysgyfarnogod a gwnai hyn hi'n anodd i'w dal.  Ond roedd un o Landdona o'r enw Goronwy Tudur yn gwybod yn bur dda am eu castiau ac yn feistr corn arnynt.  Un diwrnod aeth allan i'r caeau, a'i wn gydag ef, i edrych ei wartheg.  Er mawr syndod iddo gwelodd ysgyfarnog fawr yn eistedd o dan un fuwch yn sugno llefrith.  Ar unwaith gafaelodd yn ei wn a saethodd hi'n ei choes.  I ffwrdd a'r ysgyfarnog ond yn llawer arafach y tro hwn ac oherwydd hynny llwyddodd Goronwy Tudur i'w dilyn.  Aeth i mewn i dy heb fod ymhell a Goronwy ar ei hôl. Yno yn eistedd o flaen y tân gwelodd wrach a'i choes yn gwaedu.  Gwyddai Goronwy mai hon oedd y wrach a saethodd ychydig ynghynt.  Gan ei fod wedi llwyddo i wneud iddi waedu gwyddai na fyddai modd iddi wedyn ei felltithio ef.

Nid oedd pawb mor ffodus â Goronwy Tudur a pharhâi'r gwrachod i boeni pobl Llanddona.  Roedd y trigolion am roi diwedd unwaith ac am byth ar eu campau a phenderfynwyd cael cyngor gwr o'r enw Cilhaul, sef dewin adnabyddus o Sir Gaernarfon.  Pan glywodd y gwrachod am hyn roeddynt yn ddig iawn ac aeth un ohonynt i chwilio am Gilhaul a cheisio ei rwystro rhag cyrraedd Llanddona.  Gwelodd ef yn cerdded heb fod ymhell o Fiwmares a llwyddodd i'w dwyllo drwy ei anfon i gyfeiriad hollol wahanol.  Mawr oedd y llawenydd ymysg y gwrachod am eu bod wedi llwyddo i dwyllo Cilhaul y dewin enwog.

Erbyn hyn roedd y pentrefwyr wedi cyrraedd pen eu tennyn.  Sut oedd cael gwared â'r gwrachod? Penderfynwyd cynnal cyfarfod i drafod beth i'w wneud nesaf. Cafodd un gwr doeth syniad da.  Gwyddai y byddai'r gwrachod yn arfer dod a phob math o bethau na ddylen nhw i'r wlad trwy eu glanio yn ystod y nos ar Draeth Coch.   Felly, un noson, pan oedd y llanw'n uchel aeth ef a'i ffrindiau i lawr at y môr gan fynd a gwyr y tollau gyda hwy.  Pan gyrhaeddodd criw Llanddona'r traeth roedd y gwrachod wrthi yn cario casgenni a chisitiau oddi ar y cychod i'r lan.  Ni fu'r criw yn hir cyn eu hamgylchynu, ond yn ofer.  Daeth y gwrachod atynt yn heriol ac agor cwlwm y sgarffiau oedd ganddynt am eu gyddfau.  Allan o'r sgarff daeth dwsinau o bryfed.  Dechreuodd pob un hedfan yn fygythiol ar ôl criw Llanddona a'u pigo'n ddidrugaredd.  Rhedodd y pentrefwyr am adref a'u cynlluniau yn chwilfriw.

Methiant fu'r ymdrech i gael gwared o'r gwrachod y noson honno.   Yn wir, bu'r gwrachod yn byw yn Llanddona am flynyddoedd wedyn.  Erbyn heddiw maent i gyd wedi marw ac nid oes yr un wrach yn byw yn Llanddona bellach.