Yn agos iawn i bentref Llanddona ar Ynys Môn mae traeth o'r enw Traeth Coch. Llawer iawn o flynyddoedd yn ôl roedd dyn o Landdona yn mynd am dro ar hyd y traeth. Yn sydyn clywodd rhywun yn galw arno fo, "Helpwch ni, helpwch ni!" Edrychodd y dyn i gyfeiriad y môr, ac yno ar y dwr gwelodd saith cwch yn llawn o bobl od iawn yr olwg. "Rydym ni wedi bod mewn storm ar y môr ac wedi colli ein rhwyfau," galwodd y bobl o'r cychod. "Ewch i nôl rhaff i ni gael glanio." Nid oedd Ifan yn hoffi golwg y bobl ddieithr yma. A dweud y gwir roedd o bron yn siwr mai gwrachod oedden nhw, wedi cael eu hel o'u gwlad am wneud drygau. Felly, rhedodd bob cam i'r pentref i ddweud wrth bobl Llanddona fod gwrachod yn ceiso glanio ar Draeth Coch. Roedd pobl y pentref wedi dychryn yn ofnadwy. Rhedodd pawb i lawr i'r traeth i geisio eu rhwystro, ond roedden nhw yn rhy hwyr. Roedd y gwynt wedi chwythu'r cychod i'r lan. Pan ddaeth y gwrachod allan o'r cychod roedden nhw yn sychedig iawn ond doedd pobl Llanddona ddim am eu helpu. Felly, er mawr syndod i bobl y pentref trawodd un o'r gwrachod y tywod gyda'i ffon ac yn wir i chi daeth dwr clir oer allan ohono fo. Roedd pawb wedi synnu. Aeth y gwrachod ati wedyn i wneud cytiau bychan iddynt eu hunain a mynd o dy i dy i chwilio am fwyd. Roedd gan bawb eu hofn ac fe fyddai pobl y pentref yn gofalu rhoi bwyd iddyn nhw bob amser rhag ofn i'r gwrachod ddial arnyn nhw. Doedd yna ddim diwedd ar driciau'r gwrachod. Roedd ambell un yn gallu newid i fod yn ysgyfarnog a phan oedd hyn yn digwydd fe fyddai hi'n anodd iawn eu dal. Ond roedd yna ddyn o'r enw Goronwy Tudur o Landdona yn deall triciau'r gwrachod i'r dim. Ffermwr oedd Goronwy Tudur ac un diwrnod roedd o allan yn y caeau a'i wn o dan ei fraich. Yn sydyn, gwelodd ysgyfarnog fawr yn eistedd o dan un o'i wartheg yn sugno'r llefrith. Roedd Goronwy Tudur wedi gwylltio'n gacwn. Gafaelodd yn ei wn a saethodd hi'n ei choes. Rhedodd yr ysgyfarnog i ffwrdd mor gyflym ag y gallai ac i mewn i dy oedd heb fod ymhell. Rhedodd Goronwy Tudur ar ei hôl ac i mewn i'r ty. Yno gwelodd hen wrach yn eistedd wrth y tân a'i choes yn gwaedu. Roedd Goronwy Tudur yn gwybod mai hon oedd y wrach a saethodd ychydig ynghynt. Am ei fod o wedi llwyddo i wneud iddi waedu roedd o'n gwybod na allai'r hen wrach honno chwarae triciau arno fo byth wedyn. Doedd pawb ddim mor lwcus â Goronwy Tudur. Roedd
y gwrachod drwg yn dal i boeni pobl Llanddona ac erbyn hyn roedd pawb wedi cael digon.
Penderfynodd pobl y pentref ofyn i ddyn o'r enw Cilhaul ddod i'w helpu. Dewin
oedd Cilhaul ac roedd o'n byw yn Sir Gaernarfon. Pan glywodd y gwrachod am y dewin
roedden nhw yn flin iawn. "Dyna'r ffordd i Landdona" meddai'r wrach gan bwyntio i gyfeiriad hollol wahanol. "Llawer o ddiolch i ti" meddai Cilhaul heb feddwl ei fod yn cael ei dwyllo. Ni chyrhaeddodd y dewin Landdona ac roedd pawb yn y pentref yn siomedig iawn. Roedd y gwrachod wrth gwrs wrth eu bodd. Beth allai'r pentrefwyr ei wneud? Roedd yn rhaid meddwl am ryw gynllun arall. Yna, cafodd un dyn syniad da. Gwyddai y byddai'r gwrachod weithiau yn dod â phethau na ddylen nhw' i'r wlad. Byddai'r pethau yma yn cyrraedd ar gychod yn y nos. Felly, un noson pan oedd y llanw'n uchel aeth ef a'i ffrindiau i lawr i'r traeth. Aeth dynion y tollau hefyd gyda'r pentrefwyr er mwyn dal y gwrachod drwg wrth eu gwaith. Pan gyrhaeddodd pobl Llanddona'r traeth roedd y gwrachod wrthi'n brysur yn cario casgenni a chistiau o'r cychod i'r lan. Gwelsant y pentrefwyr yn dod ond doedd ganddyn nhw ddim ofn. Am eu gyddfau roedd sgarffiau. Yn sydyn agorodd pob un y cwlwm yn y sgarff ac allan ohono daeth dwsinau o bryfed. Dechreuodd y pryfed hedfan ar ôl y pentrefwyr a'u pigo'n frwnt. Rhedodd pawb am adref. Roedd cynlluniau pobl Llanddona wedi eu drysu unwaith eto. Bu'r gwrachod yn byw yn y pentref am flynyddoedd wedyn. Erbyn heddiw maent i gyd wedi marw ac nid oes yr un wrach yn byw yn Llanddona bellach. |