Roedd pobl Llanddona yn flin iawn. Roedd gwrachod wedi dod i'r pentref. Roedden nhw'n byw mewn cytiau ac yn mynd o dy i dy i chwilio am fwyd. Roedd ar bawb eu hofn. Byddai'r gwrachod yn dwyn ac yn chwarae pob math o driciau drwg ar bobl y pentref. Gallai rhai o'r gwrachod newid i fod yn ysgyfarnogod. Gwelodd ffermwr ysgyfarnog fawr yn eistedd o dan un o'i wartheg yn yfed y llefrith. Roedd y ffermwr yn ddig iawn. Doedd neb eisiau'r gwrachod yn Llanddona. Fe aethon nhw i ofyn i Cilhaul y dewin doeth i ddod yno i'w helpu. Roedd Cilhaul yn byw yn Sir Gaernarfon. Ond ni wnaeth Cilhaul gyrraedd Llanddona. Roedd un o'r gwrachod wedi ei yrru y ffordd arall. Cofiodd rhywun fod y gwrachod weithiau yn dod â phethau na ddylen nhw i'r wlad. Roedd y pethau yma yn cyrraedd ar gychod yn y nos. Fe fyddai'r gwrachod yn eu cario o'r cychod i'r lan. Un noson aeth pobl Llanddona i lawr i'r traeth i geisio eu dal. Daeth y gwrachod atyn nhw. Roedd ganddyn nhw sgarffiau am eu gyddfau. Agorodd y gwrachod y sgarffiau a daeth dwsinau o bryfed allan ohonyn nhw. Dechreuodd y pryfed hedfan ar ôl pobl y pentref a'u pigo. Rhedodd pawb am adref nerth eu traed. Roedd y gwrachod yn rhy glyfar i bobl Llanddona. Allai neb gael gwared ohonyn nhw. Erbyn heddiw mae'n nhw i gyd wedi marw a does yr un wrach yn byw yn Llanddona. |