GWEITHGAREDDAU HAEN 2             huwc.gif (1500 bytes) 
_________________________________________________________________  nôl...

Defnyddiwch y stori i ateb y rhain.  Cofiwch beth sydd ei angen ar ddechrau a diwedd brawddeg:

Faint o arian cynigodd y saer i’r bachgen?

Pam gollodd Huw y drol?

Pam nad oedd pobl Ynys Mon am ymladd yn erbyn Huw?

 

Rhowch eiriau eraill y gellid eu defnyddio yn lle’r rhain:

erstalwm -

ymladd -

yn sydyn -

 

Ysgrifennwch erthygl i’r papur newydd yn disgrifio digwyddiadau yn un o’r ffeiriau.  Cofiwch gynnal cyfweliadau efo rhai fu’n ymladd efo Huw Cymunod.   Beth sydd angen ei roi i ddangos eich bod yn dyfynnu union eiriau rhywun?