Logo Straeon Gwerin Môn
Haenau
Gweithgareddau

Y Cynnwys

wpe7.jpg (14503 bytes)

huwc.gif (1500 bytes)

HAEN 1

Flynyddoedd yn ôl roedd llawer o ffeiriau yn cael eu cynnal ar Ynys Môn.  Deuai'r ffermwyr a'u hanifeiliaid i'w gwerthu yno a deuai'r gwehydd a'i ddefnydd.  Byddai yno fatiau o Niwbwrch ac esgidiau o Lannerchymedd.   Yn ystod y dydd yn y ffeiriau fe fyddai cryn brynu a gwerthu ond erbyn gyda'r nos byddai pethau yn mynd ychydig yn flêr.  Dyna pryd y byddai llawer o ymladd rhwng bechgyn o wahanol bentrefi.

Ym mhob ffair roedd un a elwid yn 'fwli'r ffair', hynny ydi, y dyn cryfaf yn y ffair.  Byddai'r bwli yn gorfod ymladd yn galed i gadw'r teitl yma.   Un o'r rhain oedd dyn o'r enw Huw Cymunod.  Roedd pawb drwy Ynys Môn yn gwybod am gryfder Huw Cymunod ac mor dda oedd o am ymladd.  Mae stori amdano unwaith yng ngweithdy'r saer gyda'i ffrindiau.  Roedd y saer newydd orffen gwneud trol i rywun.    Wedi gorffen dywedodd y saer mewn hwyl wrth Huw,

"Os medri di gario'r drol yma yr holl ffordd i Gymunod, heb ei rhoi hi i lawr,  chdi fydd piau hi".

Cymerodd Huw y saer ar ei air. Cododd hi yn ddiymdrech a'i chariodd trwy'r pentref fel petai ond rhyw focs bychan.  Wrth weld ei drol yn mynd am Cymunod gwyddai'r saer fod yn rhaid iddo wneud rhywbeth yn sydyn.  Gwelodd fachgen bach a gwaeddodd arno, "Dyma i ti chwe cheiniog, rhed o flaen Huw a chau giat Cymunod yn dynn".

Gwnaeth y bachgen yn union fel y dywedodd y saer wrtho.   Rhedodd am Cymunod a chauodd y giat.  Pan ddaeth Huw at y giat roedd yn rhaid iddo roi y drol i lawr wrth gwrs er mwyn ei hagor.  A dyna sut y collodd Huw y drol.   Mae stori arall amdano mewn tafarn ar noson ffair.  Roedd dau was yno yn cam ymddwyn a galwodd gwraig y dafarn ar Huw. Daeth Huw at y ddau, ac er eu bod yn ddynion mawr trwm. fe afaelodd  ynddynt  un ymhob braich. Cododd hwy i fyny nes oedd eu pennau yn cyffwrdd y nenfwd.  Sobrodd y ddau ar unwaith.

Un noson ffair roedd Huw yn sefyll ar y sgwar yn Llannerchymedd yn herio unrhyw un i gymryd ei deitl o 'fwli'r ffair' oddi arno.  Yr oedd pobl Ynys Môn yn gwybod am ei gryfder ac yn cadw draw.  Ond  roedd gwr yno a oedd yn byw gryn bellter i ffwrdd ac nid oedd ef yn adnabod Huw.   Penderfynnodd gymryd yr her.

Er mai dyn ysgafn ac ystwyth iawn oedd hwn ni allai Huw yn ei fyw ei daro.  Dawnsiai'r gwr o gwmpas Huw a'i daro'n ddidrugaredd.  Cyn pen dim roedd trwyn Huw druan fel pot pupur a gwyddai yn iawn na allai ei guro.  Dywedodd wrth y dyn dieithr,

"You better man. Shake hands."

Aeth pobl y ffair yn dawel, achos fe wyddai pawb am gastiau Huw.  Estynnodd y gwr dieithr ei law a gafaelodd Huw ynddi gyda'i law anferth.   Dechreuodd wasgu a gwasgu nes roedd y gwr druan yn gorwedd ar y llawr yn gweiddi mewn poen.  Pan oedd Huw yn gwybod ei fod yn saff, gollyngodd ei afael.  Roedd Huw Cymunod unwaith eto wedi cadw ei deitl o 'fwli'r ffair'.