Logo Straeon Gwerin Môn
Haenau
Gweithgareddau

Y Cynnwys

wpe7.jpg (14503 bytes)

huwc.gif (1500 bytes)

HAEN 2

Erstalwm roedd llawer iawn o ffeiriau yn cael eu cynnal ar Ynys Môn.  Byddai ffermwyr yn dod a'u hanifeiliaid i'w gwerthu yno a'r gwehydd yn dod a'i ddefnydd.  Byddai matiau o Niwbwrch yn cael eu gwerthu ac esgidiau o Lannerchymedd.  Ond gyda'r nos fe fyddai llawer iawn o ymladd yn y ffeiriau rhwng bechgyn o wahanol bentrefi.

Ymhob ffair fe fyddai yna ddyn cryf.  ' Bwli'r ffair ' oedd yr enw ar y dyn cryf yma.  Byddai'n rhaid i'r dyn cryf ymladd yn galed i gadw'r teitl.  Un o'r dynion cryf yma oedd Huw Cymunod.  Roedd pawb yn gwybod mor dda oedd o am ymladd.

Dyma un stori amdano.  Un diwrnod roedd Huw Cymunod yng ngweithdy'r saer.  Roedd y saer wedi gwneud trol.  "Os wnei di gario'r drol yma yr holl ffordd i Gymunod, heb ei rhoi hi i lawr, fe gei di ei chadw hi," meddai'r saer wrth Huw mewn hwyl.

"Iawn," meddai Huw.

Cododd y drol ar ei gefn a chariodd hi drwy'r pentref.   Roedd o'n gallu ei chario'n hawdd.  Doedd y saer ddim eisiau colli'r drol, felly roedd yn rhaid gwneud rhywbeth yn sydyn.  Gwelodd fachgen bach.

" Dyma i ti chwe cheiniog.  Dos i gau giat Cymunod yn sydyn," meddai wrtho.

Rhedodd y bachgen i Gymunod a chau'r  giat.  Pan ddaeth Huw at y giat roedd yn rhaid iddo roi y drol i lawr er mwyn ei hagor.   A dyna sut y collodd Huw y drol. Roedd yn ddyn siomedig iawn.  Mae stori arall amdano yn sefyll ar y sgwar yn Llannerchymedd un noson ffair.  Roedd o yn chwilio am gyfle i ymladd.  Ond roedd pobl Ynys Môn yn gwybod pa mor gryf oedd Huw a doedd neb am fentro. Roedd dyn dieithr yn y ffair.  Doedd o ddim yn adnabod Huw ac fe gytunodd   i ymladd yn ei erbyn.

Er mai dyn bychan oedd o, roedd yn gryfach na Huw.   Roedd Huw yn gwybod yn iawn na allai ei guro.

" You better man.  Shake hands," meddai wrth y dyn dieithr.  Gafaelodd y dyn yn llaw Huw.  Dechreuodd Huw wasgu a gwasgu nes oedd y gwr dieithr yn gorwedd ar y llawr ac yn gweiddi mewn poen.  Roedd Huw wedi ennill eto.  Fo oedd dyn cryfa'r ffair!