Erstalwm roedd llawer iawn o ffeiriau ar Ynys Môn. Byddai anifeiliaid, defnyddiau, matiau ac esgidiau yn cael eu gwerthu yno. Yn y nos fe fyddai llawer iawn o ymladd yn y ffeiriau. Ym mhob ffair fe fyddai yna ddyn cryf. Enw un o'r dynion cryf yma oedd Huw Cymunod. Roedd pawb ar Ynys Mon yn gwybod am Huw Cymunod. Un diwrnod roedd Huw Cymunod yng ngweithdy'r saer. Roedd y saer wedi gwneud trol. "Os wnei di gario'r drol yr holl ffordd i Gymunod, heb ei rhoi hi i lawr, fe gei di gadw'r drol," meddai'r saer mewn hwyl. "Iawn," meddai Huw. I ffwrdd a fo a'r drol ar ei gefn. Roedd o'n gallu cario'r drol yn hawdd. Roedd y saer yn dechrau poeni. Doedd o ddim eisiau colli ei drol. "Dos i gau giat Cymunod yn sydyn," meddai'r saer wrth rhyw fachgen bach. Rhedodd y bachgen bach a chau y giat. Pan ddaeth Huw Cymunod at y giat roedd yn rhaid iddo fo roi'r drol i lawr er mwyn ei hagor. "Rwyt ti wedi rhoi y drol i lawr," meddai'r saer wrth Huw, felly rwyt ti wedi colli'r drol." Roedd Huw yn siomedig iawn. Un noson ffair roedd Huw yn sefyll ar y sgwar yn Llannerchymedd. "Pwy sydd eisiau ymladd hefo fi ?" gwaeddodd. Ond roedd pobl Ynys Môn yn adnabod Huw a doedd neb eisiau mentro. Roedd dyn dieithr yn y ffair. Doedd y dyn dieithr ddim yn adnabod Huw. "Fe wna i ymladd hefo chdi," meddai'r dyn dieithr. "Iawn," meddai Huw. Dechreuodd y ddau ymladd. Roedd y dyn dieithr yn gryfach na Huw. Roedd Huw yn dechrau poeni. "You better man. Shake hands," meddai Huw wrtho. Gafaelodd y dyn dieithr yn llaw Huw. Yn sydyn dechreuodd Huw wasgu a gwasgu llaw y dyn nes oedd y dyn dieithr yn gorwedd ar y llawr. Roedd o yn gweiddi mewn poen. Roedd Huw wedi ennill eto. Fo oedd dyn cryfaf y ffair !
|