|
Dyma gasgliad o 10 o storiau gwerin Môn (5 ar gyfer blwyddyn 3/4 a 5 ar gyfer blwyddyn 5/6). Addaswyd y storiau, a ysgrifenwyd yn wreiddiol gan athrawon Môn yn y 60au, gan Mrs Gwenda Thomas ar ran ysgolion Cylch Cefni. Maer storiau wedi eu graddoli er mwyn sicrhau bod deunydd ar gyfer y mwyafrif o ddarllenwyr. Cewch ddewis y fersiwn or stori trwy bwyso ar 1, 2 neu 3. 1 ywr anoddaf. Gellir defnyddio'r storiau ar y sgrîn gan unigolion neu grwpiau bach neu eu hargraffu gyda'r gweithgareddau i'w defnyddio yn y dosbarth. Gellir hefyd eu cadw ar ddisg feddal i'r plentyn weithio arnynt yn y dosbarth neu yn y cartref (os oes ganddynt gyfrifiadur). Wrth ddarllen y stori fe welwch bod y geiriau anodd wedi eu lliwion goch. Trwy glicio ar y geiriau coch fe fydd bocs ac esboniad ynddo yn agor ar y sgrin. (Cofiwch gau y bocs ar ôl darllen yr esboniad). Wedi i chi ddarllen y stori mae yna weithgareddau difyr ich helpu chi i ddysgu. Cliciwch ar y gair gweithgareddau ar ochr chwith y dudalen. |