GWEITHGAREDDAU HAEN 2                
_________________________________________________________________  nôl...

Defnyddiwch y stori i ateb y cwestiynau hyn.  Cofiwch beth sydd ei angen ar ddechrau a diwedd brawddeg:

Pam nad oedd yr un teulu yn aros yn hir yn y ffermdy?

Sut oedd Ifan yn teimlo cyn iddo weld y bwgan?

Sut newidiodd ei deimladau pan welodd y bwgan?

 

Edrychwch ar y paragraff sy’n dechrau: 

"Yn sydyn gwelodd y ddau y Ladi wen ei hun.."

Rhestrwch y berfau o’r paragraff sy’n gorffen gyda ‘…odd’

 

Newidiwch y brawddegau yma fel bod y ferf yn dilyn yr un patrwm.  Mae’r gyntaf wedi ei wneud i chi:

Roedd y gweision wedi dychryn – Dychrynodd y gweision.

Roedd y forwyn yn eistedd -

Roedd y Ladi Wen wedi diflannu -

 

Edrychwch ar y ddwy linell olaf o’r stori.  Rhestrwch nifer o resymau i egluro beth ddigwyddodd i’r aur.  Ceisiwch amrywio dechrau pob brawddeg, e.e.

Rwyf yn meddwl..

Efallai fod…

Tybiaf mai…