GWEITHGAREDDAU HAEN 3               
_________________________________________________________________  nôl...

Atebwch y cwestiynau yma am y stori:

Sut oedd pobl y fferm yn gwybod fod bwgan yno?

Sut oedd y teuluoedd fu’n byw yn Henllys Fawr yn teimlo?

Beth oedd y Ladi Wen eisiau i Ifan ei wneud?

 

Yn y stori mae’n dweud: 

"Byddai yn cerdded yn aml o amgylch y lle."

Rhestrwch rhai o’r pethau eraill y byddai’r bwgan yn ei wneud.

 

Dychmygwch eich bod yn cael sgwrs efo’r Ladi Wen.  Pa gwestiynau y byddech am ei gofyn iddi?  Ysgrifennwch eich cwestiynau a chofiwch roi marc cwestiwn ar ddiwedd pob cwestiwn.  Gallwch feddwl am yr atebion fyddai’r Ladi Wen yn ei rhoi.