Logo Straeon Gwerin Môn
Haenau
Gweithgareddau

Y Cynnwys

HAEN 1

Heb fod ymhell o Aberffraw ar Ynys Môn mae ffermdy o’r enw’r Henllys Fawr. Roedd hwn yn ffermdy arbennig iawn oherwydd bod ysbryd yn byw yno. Ni welodd neb yr ysbryd erioed ond arferai’r teulu glywed ei swn yn y nos. Swn dychrynllyd, swn clepian drysau, swn cerdded i fyny ac i lawr y grisiau, swn crwydro o un ystafell i’r llall nes codi ofn ar bawb oedd yn byw yno. Dro arall fe fyddai’r ty yn cael ei lenwi a golau llachar nes dallu pawb cyn diffodd eto yr un mor sydyn.

Yn hwyr un noson roedd gweision yr Henllys Fawr yn cerdded yn ôl i’r ffermdy wedi noson allan. Wrth iddynt groesi’r iard am y ty, gwelsant wraig fonheddig dal a hardd. Gwisgai ddillad sidan a’r rheini’n disgleirio. Am ei hwyneb roedd gorchudd o sidan tyllog. Cerddai’n araf tuag at y gweision, yna’n sydyn trodd yn olwyn fawr o dan a diflannodd i’r ddaear.

Yr oedd gwalltiau’r gweision yn sefyll ar eu pennau a gwyddent eu bod wedi dod wyneb yn wyneb a bwgan yr Henllys Fawr.   Rhedodd pob un i’r ty yn llawn braw. Am flynyddoedd wedyn bu bwgan yr Henllys Fawr, neu’r Ladi Wen fel yr oedd pawb yn ei galw, i’w gweld yn cerdded o gwmpas y ffermdy.   Rhoddodd dau neu dri o deuluoedd gynnig ar fyw yno, ond nid arhosodd neb yn hir.

Un noson, roedd y teulu wedi mynd i’r eglwys gan adael y forwyn fach ar ôl yn y ty.  Daeth Ifan ei chariad ati i gadw cwmni iddi.  Roedd Ifan yn fachgen mawr cyhyrog ac yn meddwl dipyn ohono’i hun.  O dipyn i beth aeth y ddau i sôn am y Ladi Wen a dechreuodd Ifan frolio nad oedd ofn y bwgan arno fo.  Yna yn sydyn, heb unrhyw rybudd, ymddangosodd y Ladi Wen ar ganol llawr y gegin.   Fferrodd Ifan a’r forwyn fach gan ofn.  Roedd eu hwynebau’n wyn fel y galchen a’u gwefusau’n las a chrynedig. Roedd y ddau wedi dychryn gormod i ddweud gair.

Bu’r Ladi Wen yn cerdded o gwmpas y gegin am ychydig. Yna, agorodd y drws a nodiodd ar Ifan i’w dilyn.  Roedd Ifan druan yn meddwl ei bod ar ben arno ond roedd yn rhaid ufuddhau.  Dringodd i fyny’r grisiau ac aeth i mewn i ystafell gefn dywyll.  Gallai Ifan ei gweld yn pwyntio at un gornel i’r ystafell lle roedd y to a’r trawstiau’n isel.  Yn araf sylweddolodd fod y Ladi Wen eisiau iddo chwilio am rywbeth yn y gornel honno.  Ymestynnodd ei law a dechreuodd chwilota.  Yn sydyn daeth o hyd i rywbeth caled wedi ei rwymo’n ofalus mewn hen hosan.  Agorodd Ifan yr hosan ac ynddi roedd pentwr o aur.

Trodd ei ben i ddangos y trysor i’r Ladi Wen, ond nid oedd sôn amdani,  roedd wedi diflannu’n llwyr.

Ni welwyd y Ladi Wen byth ar ôl hynny ac ni ddaeth yn ôl i boeni teulu’r Henllys Fawr. Ond, ni wyr neb beth ddigwyddodd i’r aur. Mae hynny’n parhau yn ddirgelwch.