Logo Straeon Gwerin Môn
Haenau
Gweithgareddau

Y Cynnwys

HAEN 2

Yn agos i bentref Aberffraw mae fferm o’r enw’r Henllys Fawr.  Lawer o flynyddoedd yn ôl roedd bwgan yn byw ar y fferm.  Doedd neb wedi gweld y bwgan erioed ond fe fyddai’r teulu yn clywed ei swn yn aml.   Byddai’n crwydro o gwmpas y ffermdy yn y nos gan godi ofn ar bawb.

Un noson roedd gweision yr Henllys Fawr yn cerdded yn ôl am y ffermdy wedi noson allan.  Yn sydyn gwelsant wraig fonheddig yn cerdded tuag atyn nhw. Roedd ganddi ddillad hardd amdani.  Cerddodd yn araf tuag at y gweision.   Yna trodd yn olwyn fawr a honno’n dan i gyd ac wedyn diflannu.  Roedd y gweision wedi dychryn.  Roedden nhw yn gwybod mai bwgan yr Henllys Fawr oedd y wraig fonheddig yma.

Am flynyddoedd wedyn fe fyddai pobl y fferm yn gweld y bwgan neu’r Ladi Wen fel y gelwid hi yn crwydro o gwmpas y lle.   Fe fu llawer o deuluoedd yn byw yn y ffermdy ond doedd neb yn aros yno yn hir.   Roedd ar bawb ofn y Ladi Wen.

Un noson roedd teulu’r Henllys Fawr wedi mynd i’r eglwys.    Roedd y forwyn fach yn eistedd yn y gegin gyda Ifan ei chariad.    Roedd Ifan yn meddwl ei hun ac yn hoff o frolio.

"Does gen i ddim ofn bwgan yr Henllys Fawr," meddai wrth y forwyn fach.

Yn sydyn gwelodd y ddau y Ladi Wen ei hun yn sefyll ar ganol llawr y gegin.   Roedd y ddau wedi dychryn yn fawr.  Dechreuodd y wraig gerdded o amgylch yr ystafell am ychydig.   Yna nodiodd ar i Ifan ei dilyn i fyny’r grisiau.  Aeth Ifan ar ei hol yn ofnus ac i mewn i un o’r ystafelloedd cefn.   Gwelodd hi’n pwyntio at un gornel i’r ystafell.  Roedd yn rhaid fod rhywbeth yn cuddio yn y gornel honno.  Aeth Ifan yno a dechrau chwilota.  Yn sydyn daeth o hyd i hosan ac yn yr hosan roedd pentwr o aur.  Trodd Ifan i ddangos y trysor i’r Ladi Wen.  Ond doedd dim golwg ohoni.  Roedd wedi diflannu.

Ni welodd neb y Ladi Wen wedi hynny ac ni ddaeth yn ôl i’r Henllys Fawr.  A beth ddigwyddodd i’r aur ?  Mae hynny’n dal yn ddirgelwch.