Logo Straeon Gwerin Môn
Haenau
Gweithgareddau

Y Cynnwys

HAEN 3

Roedd bwgan yn byw ar fferm Henllys Fawr.   Doedd neb wedi gweld y bwgan erioed. Roedd pobl y fferm wedi clywed ei swn.   Roedd ar bawb ei ofn.

Un noson roedd gweision Henllys Fawr yn cerdded yn ol i’r fferm.  Roedden nhw wedi bod allan am dro.  Yn sydyn dyma nhw yn gweld dynes fawr dal.  Roedd hi’n gwisgo dillad hardd.  Dechreuodd y ddynes gerdded at y gweision.  Yna dyma hi’n troi yn olwyn fawr.  Roedd yr olwyn fawr yn dan i gyd.  Wedyn dyma hi yn diflannu.  Roedd y gweision wedi dychryn.  Roedden nhw yn gwybod mai bwgan yr Henllys Fawr oedd y ddynes yma. Ar ôl y noson honno fe fyddai pobl y fferm yn gweld y bwgan o hyd.  Byddai yn cerdded yn aml o amgylch y lle.   Y Ladi Wen fyddai pawb yn ei galw.

Fe fu llawer o deuluoedd yn byw yn yr Henllys Fawr.  Doedd neb yn hapus yno.  Roedd ar bawb ofn y Ladi Wen.  Un noson roedd un teulu wedi mynd i’r eglwys.  Roedd y forwyn fach yn eistedd yn y gegin.  Roedd Ifan ei chariad yno hefo hi.Roedd Ifan yn hoffi brolio.

"Does arna’ i ddim ofn y Ladi Wen," meddai.

Yn sydyn gwelodd y ddau y Ladi Wen yn sefyll ar ganol llawr y gegin.   Roedden nhw wedi dychryn yn ofnadwy.  Aeth y Ladi Wen i fyny’r grisiau.   Aeth Ifan ar ei hôl ac i mewn i un o’r ystafelloedd.  Pwyntiodd y Ladi Wen at gornel dywyll.  Roedd rhywbeth yn cuddio yn y gornel.  Aeth Ifan yno.   Bu’n chwilio a chwilio.  Yn sydyn cafodd hyd i hosan.  Roedd pentwr o aur yn yr hosan.  Trodd Ifan at y Ladi Wen.  Roedd o eisiau dangos yr aur iddi hi.  Ond doedd dim sôn amdani.  Roedd y Ladi Wen wedi diflannu a welodd neb hi byth wedyn.

A beth ddigwyddodd i’r aur ? Does neb yn gwybod !