GWEITHGAREDDAU HAEN 1                           lleidr.gif (2101 bytes)  
_________________________________________________________________  nôl...

Defnyddiwch y stori i ateb y cwestiynau yma. Atebwch mewn brawddegau llawn:

Pam na welwyd llawer o lyfrau mewn tai?

Beth fyddai pobl Llandyfrydog yn galw Wil a pham?

Pa eiriau o’r stori sy’n disgrifio sut yr oedd Wil yn teimlo wrth iddo weld yr ysbryd?

 

Ewch drwy’r stori a nodwch y berfau sydd yn dod ar ddechrau brawddegau.   Mae’r gyntaf wedi ei gwneud i chi:

Gwneid

 

Dewiswch dair berf ac ysgrifennwch frawddegau eich hunain gan eu defnyddio ar y dechrau.

 

Galwyd Wil yn Wil Llaw Flewog.  Ceisiwch feddwl am restr o lysenwau sydd yn ddisgrifiadau da.  Nid oes angen enwi person, ond beth am feddwl am lysenw i rywun sydd yn bêl-droediwr da, neu rywun sydd yn dda am chwarae gemau cyfrifiadur?