Logo Straeon Gwerin Môn
Haenau
Gweithgareddau

Y Cynnwys

lleidr.gif (2101 bytes)

HAEN 1

Lawer iawn o flynyddoedd yn ôl, cyn bod sôn am argraffwyr, arferai pobl ysgrifennu llyfrau a llaw.  Gwneid llawer o’r gwaith hwn mewn mynachdai.  Byddai’r mynachod yn defnyddio plu gwydd i ysgrifennu, ac inc o wahanol liwiau.  Yr oedd y llawysgrifen yn dlws a chywrain iawn.  Rhoed llawer o sylw i’r llythrennau mawr a byddai rheini yn cael eu lliwio a’u haddurno yn brydferth.  Fel y gallwch feddwl roedd ysgrifennu neu gopio llyfr yn waith araf a drud iawn ac oherwydd y prisiau uchel,  ychydig iawn o lyfrau a welid mewn tai cyffredin yr adeg honno.  Wrth gwrs roedd Beibl a Llyfr Gweddiau ymhob eglwys ond oherwydd eu gwerth mawr,  roeddynt wedi eu rhwymo i’r pulpud gyda cadwyn gref.

Roedd Beibl a Llyfr Gweddiau yn Eglwys Llandyfrydog ar Ynys Môn ac arferai dyn o’r enw Wil fynd i’r eglwys bob hyn a hyn i’w darllen.  Yn anffodus roedd Wil yn dipyn o leidr, yn wir,  Wil Llaw Flewog oedd enw pobl Llandyfrydog arno.  Un diwrnod, a Wil yn yr eglwys yn darllen,  penderfynnodd ddwyn y llyfrau o’r eglwys.  Gafaelodd yn y llian coch oddi ar yr allor a rhoddodd y Beibl,  y Llyfr Gweddi a llestri’r Cymun ynddo.  Gwnaeth barsel twt ac i ffwrdd ag ef ar draws y caeau i gyfeiriad Clorach.

Fel yr oedd yn rhedeg drwy un o gaeau Clorach,  fferrodd Wil,   oherwydd yno yn sefyll o’i flaen,  roedd ysbryd un o’r mynachod. Roedd yn andros o dal a chrynai’r ddaear o dan ei draed.

" Pwy wyt ti?" gofynnodd Wil mewn braw. Ni chafodd ateb i’w gwestiwn oherwydd trodd y mynach ef yn garreg yn y fan a’r lle.

Ac yno y mae hyd heddiw a’i becyn ar ei gefn a’i geg yn hanner agored. Dywed rhai pan fydd y cloc yn taro saith fe fydd yr hen leidr yn rhedeg dair gwaith o amgylch y cae. Ond mae peth amheuaeth ynglyn a hyn oherwydd clustiau o garreg sydd gan Wil wrth gwrs.