Logo Straeon Gwerin Môn
Haenau
Gweithgareddau

Y Cynnwys

lleidr.gif (2101 bytes)

HAEN 2

Erstalwm fe fyddai pobl yn ysgrifennu llyfrau gyda’u dwylo. Doedd yna ddim argraffwyr ar gael yr adeg honno a doedd gan neb gyfrifiadur na theipiadur.  Felly fe fyddai pobl yn defnyddio plu gwydd i ysgrifennu.

Byddai llawer o lyfrau yn cael eu gwneud gan y mynachod yn y mynachdai.  Arferent ddefnyddio inc o wahanol liwiau a byddai’r gwaith bob amser yn dlws iawn.   Wrth gwrs roedd ysgrifennu llyfr yn cymryd amser hir a byddai’r llyfrau yn ddrud iawn i’w prynu.

Am eu bod mor ddrud ychydig iawn o lyfrau fyddai i’w gweld mewn tai yr adeg honno.    Fe fyddai Beibl a Llyfr Gweddiau ym mhob eglwys wrth gwrs ond am eu bod mor werthfawr fe fyddai’n rhaid eu rhwymo i’r pulpud rhag i neb eu dwyn.

Roedd eglwys ym Mhlwyf Llandyfrydog ar Ynys Môn.   Yn yr eglwys roedd Beibl a Llyfr Gweddiau.   Bob hyn a hyn fe fyddai dyn o’r enw Wil Llaw Flewog yn mynd i’r eglwys i’w darllen.  Roedd Wil Llaw Flewog yn dipyn o leidr.  Un diwrnod penderfynnodd ddwyn y Beibl a’r Llyfr Gweddiau.   Ar yr allor roedd llian coch.  Lapiodd y llyfrau, a’r llestri Cymun hefyd,  yn y llian coch a rhedodd dros y caeau.

Yn sydyn, fel yr oedd yn rhedeg ar draws un o gaeau Clorach,   gwelodd ysbryd yn sefyll o’i flaen.  Ysbryd un o’r mynachod oedd o.   Roedd Wil wedi dychryn yn ofnadwy.

Cyn i Wil druan gael cyfle i gael ei wynt ato trodd y mynach ef yn garreg yn y fan a’r lle.    Ac yn wir i chi, os ewch chi heibio caeau Clorach heddiw,  fe allwch chi weld Wil a’r pecyn ar ei gefn a’i geg yn hanner agored.  Mae rhai yn dweud y bydd yn rhedeg o amgylch y cae dair gwaith pan fydd y cloc yn taro saith.  Ond clustiau o garreg sydd gan Wil ac felly, go brin ei fod yn clywed swn y cloc !