Roedd ysgrifennu llyfr yn cymryd amser hir. Roedd y llyfrau yn ddrud iawn. Fe fyddai yna Feibl a Llyfr Gweddiau ym mhob eglwys. Roedd y Beibl ar Llyfr Gweddiau yn sownd yn y pulpud. Byddai Wil Llaw Flewog yn mynd i Eglwys Llandyfrydog i ddarllen y Beibl ar Llyfr Gweddiau. Ond roedd Wil yn lleidr. Un diwrnod penderfynnodd Wil ddwyn y llyfrau. Rhoddodd lian coch amdanyn nhw. Cariodd nhw allan or eglwys. Dechreuodd redeg ar draws y caeau. Yn sydyn, gwelodd ysbryd mawr yn sefyll oi flaen. Ysbryd mynach oedd o. Roedd Wil wedi dychryn yn ofnadwy. Cyn iddo fo ddweud dim, roedd y mynach wedi ei droi yn garreg. Mae Wil yn sefyll yn y cae o hyd. Ond bydd yn rhedeg o amgylch y cae dair gwaith pan fydd y cloc yn taro saith |