HAEN 2
Ers talwm roedd gwr o'r enw Ifan Gruffydd yn byw mewn bwthyn bychan ym mhlwy Llandyfrydog. Enw'r bwthyn oedd Hafod Isaf. Roedd gan Ifan Gruffydd un ferch. Ei henw oedd Gwen. Un noson Nadolig roedd Gwen eisiau mynd i weld ei ffrindiau. Cyn iddi gychwyn gofynnodd ei thad iddi roi'r fuwch yn y beudy. Aeth Gwen allan i chwilio am y fuwch. Doedd dim golwg ohoni yn unman. Daeth Ifan Gruffydd allan i chwilio am y fuwch hefyd ond doedd dim sôn amdani. Toc daeth y ddau at gae o'r enw Cae Lleidr Llandyfrydog. Yn y cae roedd y Tylwyth Teg yn dawnsio mewn cylch. Camodd Gwen i mewn i'r cylch hud at y Tylwyth Teg. Yn sydyn diflannodd y Tylwyth Teg a Gwen hefyd gan adael Ifan Gruffydd ar ei ben ei hun. Roedd Ifan Gruffydd wedi dychryn. Aeth pawb ati i chwilio am Gwen ond doedd dim golwg ohoni. Aeth misoedd heibio ond doedd dim sôn amdani. Yna cofiodd Ifan Gruffydd am ddyn o'r enw John Roberts. Roedd John Roberts yn byw ar Fynydd Bodafon. Roedd o'n ddyn clyfar iawn. Efallai y byddai John Roberts yn medru helpu. Dywedodd Ifan Gruffydd y stori wrtho. Meddyliodd John Roberts yn galed ac wedyn meddai wrth Ifan Gruffydd, "Dos i chwilio am bedwar dyn cryf a rhaff gref newydd sbon. Pan ddaw yn noson Nadolig dos yn ôl i Gae Lleidr Llandyfrydog. Clyma'r rhaff am dy ganol a phan weli di Gwen hefo'r Tylwyth Teg, neidia i'r cylch hud a thyn hi allan". Cafodd Ifan Gruffydd hyd i bedwar dyn cryf a rhaff gref newydd sbon. Pan ddaeth yn noson Nadolig aeth y pedwar dyn cryf ac Ifan Gruffydd i Gae Lleidr Llandyfrydog. Roedd y rhaff ar eu hysgwyddau. Clymodd Ifan Gruffydd y rhaff am ei ganol. Yna, yn sydyn gwelodd Ifan Gruffydd y Tylwyth Teg. Roedd Gwen yn eu canol yn dawnsio'n hapus. Neidiodd i mewn i'r cylch hud a gafaelodd yn Gwen. "Tynnwch" gwaeddodd ar y pedwar dyn cryf. Tynnodd y pedwar yn y rhaff a daeth Ifan Gruffydd a Gwen yn rhydd o'r cylch. Diflannodd y Tylwyth Teg. Roedd pawb wrth eu bodd ym mhlwyf Llandyfrydog ac roedd Ifan Gruffydd yn hapus iawn o gael Gwen yn ôl. Ond doedd Gwen yn cofio dim am y flwyddyn a dreuliodd yng ngwlad y Tylwyth Teg. |