Logo Straeon Gwerin Môn
Haenau
Gweithgareddau

Y Cynnwys

Merch Ifan Gruffydd   HAEN 3

Roedd Ifan Gruffydd yn byw yn Hafod Isaf.  Roedd ganddo un ferch o'r enw Gwen.  Un noson Nadolig aeth Gwen ac Ifan Gruffydd i roi'r fuwch yn y beudy.  Doedd dim golwg o'r fuwch yn unman.  Bu'r ddau yn chwilio ym mhob man ond doedd dim sôn amdani.

Daeth Ifan Gruffydd a Gwen at Gae Lleidr Llandyfrydog.  Yn y cae roedd y Tylwyth Teg yn dawnsio mewn cylch.  Aeth Gwen at y Tylwyth Teg.  Yn sydyn diflannodd Gwen a'r Tylwyth Teg.

Roedd Ifan Gruffydd wedi dychryn.  Ble roedd Gwen?  Aeth pawb ati i chwilio amdani, ond doedd dim golwg ohoni.

"Dos i chwilio am bedwar dyn cryf ac un rhaff newydd sbon," meddai John Roberts.  "Pan ddaw'r Nadolig, dos i Gae Lleidr Llandyfrydog.   Clyma'r rhaff am dy ganol.  Pan weli di Gwen a'r Tylwyth Teg yn dawnsio, neidia i'r cylch.  Wedyn tyn hi allan."

Gwnaeth Ifan Gruffydd yn union fel y dywedodd John Roberts.   Noson Nadolig aeth ef a'r pedwar dyn cryf i Gae Lleidr Llandyfrydog.  Clymodd Ifan Gruffydd y rhaff am ei ganol.

Yn sydyn gwelodd Gwen yn dawnsio gyda'r Tylwyth Teg.  Neidiodd i mewn i'r cylch hud.  Gafaelodd yn Gwen.

"Tynnwch!" meddai Ifan Gruffydd wrth y pedwar dyn cryf. Tynnodd pawb a daeth Ifan Gruffydd a Gwen yn rhydd o'r cylch.  Diflannodd y Tylwyth Teg.

Roedd Ifan Gruffydd wrth ei fodd.  Roedd Gwen wedi dod yn ôl.   Ond doedd Gwen yn cofio dim am yr amser a fu yng ngwlad y Tylwyth Teg!