HAEN 1Llawer o flynyddoedd yn ôl, roedd gwr a gwraig ac un mab yn byw ar fferm ym Mhenmynydd ar Ynys Môn. Enw'r fferm oedd Penhesgyn. Roedd y rhieni yn meddwl y byd o'u bachgen bach. Ond un diwrnod daeth neidr fawr wenwynig i fferm Penhesgyn. Roedd ar bawb ei hofn. Yn fuan wedi i'r neidr gyrraedd y fferm daeth dyn doeth heibio. Dywedodd y gwr doeth wrth y rhieni y byddai'r neidr rhyw ddiwrnod yn lladd y bachgen bach. Roedd y ddau wedi dychryn yn ofnadwy ac ni wyddai neb yn iawn beth i'w wneud. Penderfynodd y rhieni anfon y bachgen bach i Loegr yn ddigon pell o afael y neidr. Roedd yn rhaid cael gwared o'r neidr beryglus. Dechreuodd pobl Penmynydd feddwl am ffordd i'w lladd. Yn anffodus, am fod ar bawb yn yr ardal ei hofn nid oedd neb eisiau mynd yn agos ati. Ond un diwrnod meddyliodd un dyn clyfar am gynllun da. Aeth ati i wneud twll mawr yn y ddaear ychydig lathenni o nyth y neidr. Tra 'roedd ef yn tyllu roedd ei ffrind yn gwylio rhag ofn i'r neidr ddod allan o'i nyth. Wedi gorffen y twll, aeth y dyn i'r ffermdy i nôl badell bres fawr. Rhoddodd hi a'i hwyneb yn isaf yn y twll. Ymhen ychydig ddiwrnodau daeth yr haul i'r golwg. Penderfynodd yr hen neidr ddod allan o'i nyth i fwynhau'r gwres. Gwelodd y badell bres yn disgleirio ac ymlusgodd at y twll i weld beth oedd yno. Pan edrychodd i lawr gwelodd neidr arall gymaint â hi ei hun yn edrych arni. Ni wyddai neidr Penhesgyn mai adlewyrchiad ohoni ei hun a welai yn y badell. Roedd wedi gwylltio'n gacwn. Hi oedd meistres Penhesgyn ac nid oedd gan yr un neidr arall hawl i fod yno! Dechreuodd ymosod yn ffyrnig ar y neidr arall. Brathodd a brathodd, chwythodd yn ffyrnig a chwipiodd ei chynffon. Erbyn gyda'r nos roedd yn rhy flinedig i lusgo yn ôl i'w nyth. Gorweddodd wrth y twll ac aeth i gysgu. Yn araf bach daeth y gwr cyfrwys at y twll a lladd y neidr ag un ergyd. Roedd pobl Penmynydd wrth eu bodd. Nid oedd eisiau poeni am y neidr yn awr. Daeth holl bobl y cylch yno i'w gweld a chladdwyd hi ar ben y bryn. Daeth y bachgen bach yn ei ôl i'r fferm ac roedd pawb wrth eu bodd ym Mhenhesgyn. Roedd y neidr yn farw a'r mab yn fyw! Wedi bod adref am ychydig ddiwrnodau, penderfynodd y bachgen y byddai yn hoffi mynd i weld y neidr. Wedi'r cwbl, roedd hon wedi achosi cynnwrf mawr yn yr ardal. Felly un diwrnod aeth gyda rhai o'r gweision i ben y bryn lle claddwyd y neidr. Dechreuodd pawb symud y pridd ond nid oedd dim i'w weld ond asgwrn pen y neidr. "Cymer hon", meddai'r bachgen, gan roi cic i'r pen, "Rwyt ti wedi achosi digon o drafferth i bawb." Ond esgidiau tenau iawn oedd gan y bachgen, ac wrth iddo gicio, aeth darn o'r asgwrn pen drwy'r lledr a'i bigo yn ei droed. Yn anffodus, roedd peth o'r gwenwyn yn yr asgwrn o hyd. Aeth y gwenwyn i droed y bachgen bach ac er mawr dristwch i bawb fe fu farw. Ac felly daeth geiriau'r gwr doeth yn wir. Roedd y neidr fawr wenwynig wedi lladd unig fab Penhesgyn. |