Logo Straeon Gwerin Môn
Haenau
Gweithgareddau

Y Cynnwys

  Neidr Penhesgyn HAEN 2

Ar Ynys Môn mae pentref bach o'r enw Penmynydd.  Ers talwm roedd gwr a gwraig yn byw ar fferm ym Mhenmynydd.  Enw'r fferm oedd Penhesgyn.  Roedd ganddyn nhw un bachgen bach.

Un diwrnod daeth neidr fawr wenwynig i fyw ar y fferm.  Roedd ar bawb ei hofn.  Dywedodd un dyn dieithr fod y neidr am ladd mab bach Penhesgyn.  Roedd pawb wedi dychryn.

Nid oedd neb eisiau i'r neidr ladd y bachgen bach.  Roedd yn rhaid iddo fynd i fyw ymhell, bell i ffwrdd yn Lloegr.  Ymhell oddi wrth y neidr ddrwg.

"Beth wnawn ni?", meddai pobl Penmynydd.  "Mae'n rhaid i ni gael gwared o'r neidr."

"Mae gen i syniad", meddai un dyn clyfar.

Aeth ati i wneud twll mawr yn y ddaear yn agos i nyth y neidr.  Wedi gorffen y twll aeth i'r ty i nôl padell bres fawr.  Rhoddodd y badell bres a'i phen i lawr yn y twll.

Dechreuodd yr haul wenu a daeth yr hen neidr allan am dro.  Yn sydyn, gwelodd rywbeth yn sgleinio.  Aeth at y twll i weld beth oedd yno.  Edrychodd i mewn.  Yno yn edrych arni roedd neidr arall.  Neidr a oedd yn edrych yn union fel hi!  Roedd hi wedi gwylltio'n gacwn.  'Doedd hi ddim yn gwybod mai ei llun hi oedd ar y badell bres.

Roedd yn rhaid dysgu gwers i'r neidr arall.   Brathodd a brathodd, chwythodd yn gas a chwipiodd ei chynffon.  Erbyn gyda'r nos roedd neidr Penhesgyn wedi blino'n lân.  Roedd hi wedi blino gormod i fynd yn ôl i'w nyth.  Gorweddodd wrth y twll ac aeth i gysgu.

Yn ddistaw bach daeth y dyn clyfar at y neidr efo rhaw fawr yn ei law.  Cododd y rhaw a'i tharo ar ei phen.  Roedd wedi lladd neidr Penhesgyn!

"Hwre", meddai pobl Penmynydd.   "Mae'r neidr wedi marw!"  Roedd pawb wrth eu bodd.  Cafodd ei chladdu ar ben y bryn a daeth mab bach Penhesgyn yn ôl i fyw ar y fferm.

Ond un diwrnod aeth y bachgen i ben y bryn i chwilio am y neidr.  Bu'n tyllu a thyllu ac o'r diwedd cafodd hyd iddi.  Dim ond asgwrn pen oedd ar ôl.

"Neidr ddrwg wyt ti", meddai a chiciodd y neidr yn ei phen.  Ond roedd gwenwyn yn yr asgwrn o hyd ac wrth iddo gicio aeth i mewn i droed y bachgen.

Roedd yn rhy hwyr.  Bu farw'r bachgen bach.   Roedd y dyn dieithr wedi dweud y gwir.   Roedd y neidr fawr wenwynig wedi lladd mab Penhesgyn.