Logo Straeon Gwerin Môn
Haenau
Gweithgareddau

Y Cynnwys

  Neidr Penhesgyn HAEN 3

Roedd gwr a gwraig yn byw ar fferm Penhesgyn.  Roedd ganddyn nhw un mab bach.  Un diwrnod daeth neidr fawr i fyw ar y fferm.  Roedd ar bawb ofn y neidr.

Daeth dyn dieithr i'r fferm.
"Mae'r neidr am ladd y bachgen bach," meddai'r dyn dieithr.  Roedd teulu Penhesgyn wedi dychryn.  Roedd yn rhaid i'r bachgen fynd i fyw ymhell, bell i ffwrdd yn Lloegr.  Roedd pawb yn drist iawn.

"Rydw i am ladd y neidr," meddai un dyn clyfar wrth deulu Penhesgyn.  Gwnaeth y dyn clyfar dwll yn y ddaear wrth ymyl nyth y neidr.   Rhoddodd badell bres, fawr yn y twll.

Gwenodd yr haul a daeth y neidr allan am dro.  Gwelodd rywbeth yn sgleinio.  Aeth i weld beth oedd yna.  Roedd neidr arall yn edrych arni.   Roedd neidr Penhesgyn wedi gwylltio.  Doed hi ddim yn gwybod mai gweld ei llun oedd hi yn y badell bres.

Dechreuodd ymladd gyda'r neidr ddieithr.  Doedd hi ddim eisiau neidr arall ym Mhenhesgyn.  Erbyn gyda'r nos roedd hi wedi blino'n lân.  Aeth i gysgu'n sownd.  Daeth y dyn clyfar at y neidr.  Roedd ganddo raw fawr yn ei law.   Cododd y rhaw a'i tharo ar ei phen.  Roedd o wedi lladd neidr Penhesgyn!

Cafodd y neidr ei chladdu ar ben y bryn. Daeth mab bach Penhesgyn adref i fyw.  Roedd pawb yn hapus.

Un diwrnod aeth y bachgen i ben y bryn.  Roedd o eisiau gweld y neidr.  Cafodd hyd i asgwrn pen y neidr yn y pridd. Ciciodd yr asgwrn yn galed.   Roedd gwenwyn yn yr asgwrn.  Aeth y gwenwyn i mewn i'w droed.  Bu farw'r bachgen bach.  Roedd y dyn dieithr wedi dweud y gwir.  Roedd y neidr wedi lladd mab Penhesgyn.