HAEN 1Dau gan mlynedd yn ôl roedd gwraig weddw yn byw ar fferm y Gromlech ym Mhenrhyn Cemaes. Roedd ganddi ddau fab ac un ferch. Roedd y pedwar yn eithaf cyfforddus eu byd ac yn cael digon o bopeth. Er hynny, un diwrnod, daeth rhyw awydd dros John, y mab hynaf, i fynd i weld y byd. Gadawodd ei gartref ac aeth i deithio o wlad i wlad. Aeth wythnosau heibio a 'r teulu heb glywed yr un gair wrtho a phan aeth yr wythnosau yn fisoedd dechreuodd pawb bryderu. Un diwrnod daeth newyddion trist i'r Gromlech. Roedd lle i gredu fod John wedi marw yn Ffrainc ond nid oedd sicrwydd o hyn. Aeth y misoedd yn flynyddoedd ac roedd y teulu bellach wedi derbyn y ffaith fod y bachgen wedi marw mewn rhyw wlad bell. Erbyn hyn roedd William, yr ail fab, wedi tyfu'n ddyn, ac ar fin priodi. Gan ei fod yn credu fod John ei frawd wedi marw, penderfynodd y byddai ef ac Elen ei wraig yn mynd i ffermio'r Gromlech. Ond un noson dywyll aeafol, rhyw bythefnos cyn y briodas, daeth gwr dieithr i ddrws y Gromlech a gofyn am swper a llety. Wedi cael pryd o fwyd gan y fam a'r ferch dywedodd y dieithryn, "Pan oeddwn i yn y ty yma ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, roeddwn i yn bwyta hefo chi, yn chwarae hefo chi, yn cysgu hefo chi ond heddiw does neb yn y fy adnabod i yma." Ni allai'r fam na'r ferch gredu eu llygaid. Roedd John yn ôl! Rhedodd y ferch allan i ddweud y newyddion da wrth bawb a welai. Y cyntaf i glywed oedd William ei brawd. Roedd ef wedi dychryn yn arw o glywed y newydd. Gwyddai fod ei gynlluniau efo ffermio'r Gromlech wedi eu chwalu am byth gan mai John, y mab hynaf oedd a'r hawl i'r fferm. Yn ei wylltineb rhuthrodd i'r stabl a daeth â'r march glas allan. Hwn oedd ceffyl cyflymaf y fferm, ac ar hwn y byddai'n arfer marchogaeth o gwmpas y wlad. Carlamodd ymaith ar gefn y ceffyl heb wybod yn iawn i ble roedd yn mynd. Roedd yn nesu at ddibyn ond yn ei ddicter roedd wedi anghofio popeth amdano. Trosodd ag ef ar gefn y march glas ac i lawr i ganol y môr a'i donnau. Bu chwilio mawr amdano ym mhob man ond yn ofer. Yna, un diwrnod aeth un o'r pentrefwyr i mewn i ogof heb fod ymhell ac yno gwelodd gorff ceffyl a het William wrth ei ochr. Er chwilio a chwilio ni chafwyd hyd i William a phery ei ddiflaniad yn ddirgelwch. Galwyd yr ogof yn 'Ogof y March Glas' a dyna yw'r enw arni hyd heddiw. |