HAEN 2Llawer iawn o flynyddoedd yn ôl roedd gwraig yn byw ar fferm o'r enw Y Gromlech ym Mhenrhyn Cemaes. Roedd ganddi hi un ferch a dau fab o'r enw John a William. Roedd y pedwar yn byw yn hapus ar y fferm. Un diwrnod penderfynnodd John, y mab hynaf, y byddai yn hoffi gweld y byd. Felly i ffwrdd ag ef i deithio o wlad i wlad. Aeth wythnosau heibio a'r teulu yn Y Gromlech heb glywed gair oddi wrtho. Aeth yr wythnosau yn fisoedd ac erbyn hyn roedd pawb yn dechrau poeni am John. Un diwrnod daeth newyddion trist iawn i fferm Y Gromlech. Roedd sôn fod John wedi marw yn Ffrainc ond doedd neb yn siwr iawn o hynny. Aeth blynyddoedd heibio a dim hanes ohono. Roedd yn rhaid ei fod wedi marw mewn rhyw wlad bell. Erbyn hyn roedd William, brawd John wedi tyfu'n ddyn. Roedd ganddo gariad o'r enw Elen ac roedd y ddau eisiau priodi. Am fod John y bachgen hynaf wedi marw penderfynnodd William ac Elen y byddent yn mynd i ffermio'r Gromlech yn ei le. Ond un noson, rhyw ychydig wythnosau cyn y briodas daeth dyn dieithr i'r fferm. Roedd wedi teithio o bell ac roedd arno eisiau bwyd a lle i gysgu. Cafodd groeso yn Y Gromlech. Rhoddodd y fam a'r ferch swper iddo. Ar ôl iddo gael bwyd dywedodd y dyn dieithr, "Dydych chi ddim yn fy adnabod i? John ydw i, wedi dod yn ôl adref atoch chi ar ôl bod yn teithio'r byd!" Ni allai'r fam a'r ferch gredu eu llygaid. Roedden nhw yn meddwl fod John wedi marw. Ond na, roedd wedi dod yn ôl adref at ei deulu. Rhedodd ei chwaer allan i ddweud y newydd da wrth ei brawd. Ond, doedd William ddim yn hapus o gwbl o glywed y newydd. Roedd yn gwybod y byddai John rwan eisiau ffermio'r Gromlech. Roedd cynlluniau William wedi eu drysu'n lân ac roedd yn wallgof. Yn ei dymer rhuthrodd i'r stabl a neidiodd ar gefn y march glas. Hwn oedd ceffyl cyflymaf y fferm. Carlamodd i ffwrdd heb wybod yn iawn i ble roedd o'n mynd. Roedd yn nesu at ddibyn ond doedd William yn cofio dim amdano. Tros yr ymyl â'r march glas a William ar ei gefn ac i lawr i ganol y môr. Bu pawb yn chwilio am William ymhob man ond doedd dim golwg ohono. Yna un diwrnod aeth dyn o Benrhyn Cemaes i mewn i ogof heb fod ymhell o'r fferm. Yno gwelodd gorff ceffyl a het William wrth ei ochr. Roedd wedi cael hyd i'r ceffyl ond ni chafodd neb hyd i William. Galwyd yr ogof yn 'Ogof y March Glas' a dyna'r enw arni hyd heddiw. |