HAEN 3Ers talwm roedd gwraig yn byw ar fferm ym Mhenrhyn Cemaes. Enw'r fferm oedd Y Gromlech. Roedd ganddi hi ddau fab ac un ferch. Enw'r bechgyn oedd John a William. Roedden nhw yn byw yn hapus iawn ar y fferm. Un diwrnod aeth John, y bachgen hynaf, i ffwrdd i weld y byd. Roedd o eisiau gweld y gwledydd i gyd. Ond ar ôl ychydig o wythnosau dechreuodd teulu'r Gromlech boeni. Doedden nhw ddim wedi clywed gair oddi wrth John. Ble allai o fod? Aeth misoedd heibio ond doedd dim sôn am John. Un diwrnod daeth dyn dieithr i'r Gromlech. "Mae John wedi marw yn Ffrainc." meddai'r dyn dieithr. Roedd pawb yn drist iawn. Lawer iawn o flynyddoedd wedyn roedd William eisiau priodi. Enw ei gariad oedd Elen. Am fod John wedi marw roedd Wiliam ac Elen yn cael ffermio'r Gromlech yn ei le. Roedd William wrth ei fodd. Un noson, ychydig cyn i William briodi, daeth dyn dieithr i'r fferm. Roedd o wedi blino ac eisiau bwyd a lle i gysgu. Ar ôl cael bwyd dywedodd y dyn dieithr, "John ydw i. Rydw i wedi dod yn ôl adref atoch chi." Roedd pawb wrth eu bodd. Roedden nhw yn meddwl fod John wedi marw. Ond, roedd William yn flin iawn. Fe fyddai John rwan eisiau ffermio'r Gromlech. Rhedodd i'r stabl. Neidiodd ar gefn y march glas. Roedd y march glas yn geffyl cyflym iawn. Carlamodd i ffwrdd. Roedd o wedi gwylltio yn ofnadwy. Doedd o ddim yn gwybod yn iawn i ble roedd o yn mynd. Roedd yna ddibyn wrth ymyl ond doedd William yn cofio dim am y dibyn. Aeth y march glas dros y dibyn a William ar ei gefn. Glaniodd y ddau yng nghanol y môr. Bu pawb yn chwilio am William a'r march glas. Un diwrnod cafodd dyn o Benrhyn Cemaes hyd i gorff y march glas mewn ogof heb fod ymhell o'r fferm a het William wrth ei ochr. Roedd y dyn wedi cael hyd i'r ceffyl ond chafodd neb hyd i William. Cafodd yr ogof ei galw yn 'Ogof y March Glas ' a dyna'r enw ar yr ogof hyd heddiw. |