![]() |
||
|
Yn y prosiect hwn fe ddatblygir llythrennedd ar draws y Cwricwlwm. Ym mhrosiect Ysgol Gwenffrwd fe hyrwyddir y defnydd o'r eirfa a'r iaith a berthyn i faes Daearyddiaeth, ac yn benodol y termau sy'n gysylltiedig â'r afon a'i chyffiniau. Manteisiwyd ar y cyfle i gyflwyno geirfa newydd i'r disgyblion ynghyd â sgiliau caffael a dod o hyd i wybodaeth o wahanol ffynonellau, e.e. llyfrau, y We a CDromau. Yn sgìl hyn fe ddatblygwyd sgiliau llithr ddarllen a chip - ddarllen, cyflwyno'r wybodaeth a gasglwyd yn glir ar lafar, neu trwy gofnodi'r prif bwyntiau ar ffurf nodiadau. Atgyfnerthwyd yr eirfa yn ddiweddarach trwy weithgareddau dawns, celf a cherdd, fel bo'r disgyblion yn ei defnyddion hyderus. Ym mhrosiect Ysgol Terrig fe
gyflwynir llythrennedd trwy Wyddoniaeth. Ymdrinnir a gwybodaeth ffeithiol am
greaduriaid. Wrth osod yr wybodaeth ar dudalennaur We fe gafwyd cyfle i
ail ymweld ac atgyfnerthu'r iaith wyddonol sydd yn gysylltiedig â'r thema. Wrth
gynllunior gweithgareddau fe grewyd
cyd-destun a ganiatâi ddefnydd pwrpasol or iaith, gydar trafod wrth y
cyfrifiadur yn gyfrwng iw atgyfnerthu. Wrth
gynnal y gwaith fe welwyd y disgyblion yn elwa o gyfleoedd i holi ac i gynnig
sylwadaun glir, i fynegi barn ac i ddatblygu eu syniadau au
dealltwriaeth. Er
mai prif ffocws y prosiect yn y ddwy ysgol arall, sef Maes Garmon a Glanrafon
oedd rhifedd, roedd cyfle yma hefyd i ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd trwy drafod
creaduriaid y pwll dwr, cynllunior gweithgareddau, trafod a gosod
tudalennaur wefan, yn ogystal ag ymarfer sgiliau trawsieithu wrth drosi
gwybodaeth o'r Saesneg i'r Gymraeg. |
||