| ______________________________________________________________ Amcanion Allweddol
Dosbarth Derbyn

- Dweud a defnyddio enwaur rhifau mewn trefn mewn cyd-destunnau cyfarwydd.
- Cyfrif gwrthrychau cyffredin yn ddibynadwy hyd at 10
- Adnabod rhifolion 1 i 9.
- Defnyddio iaith megis mwy neu lai, trymach neu ysgafnach, i gymharu dau rif neu faint.
- Mewn gweithgareddau ymarferol a thrafodaethau, dechrau defnyddio geirfan ymwneud
ag adio a thynnu.
- Darganfod un yn fwy neu un yn llai na rhif o 1 i 10.
- Dechrau perthnasu adio â chyfuno dau grwp o wrthrychau, a thynnu â tynnu i
ffwrdd
- Trafod, adnabod ac ailgreu patrymau syml.
- Defnyddio iaith megis cylch neu mwy i ddisgrifio siâp a maint solidau a siapiau fflat.
- Defnyddio iath bob ddydd i ddisgrifio safle.
- Defnyddio syniadau a dulliau mathemategol datblygol i ddatrys problemau ymarferol.
Blwyddyn 1

- Cyfrif o leiaf 20 gwrthrych yn ddibynadwy
- Cyfrif ymlaen ac yn ôl fesul un gan ddechrau ag unrhyw rif bach, ac mewn degau o sero
ymlaen ac yn ôl i sero.
- Darllen, ysgrifennu a threfnu rhifau o 0 hyd at o leiaf 20; deall a defnyddio geirfa
cymharu a threfnur rhifau hyn.
- O fewn yr amrediad 0 i 30, dweud y rhif sydd 1 neu 10 yn fwy neun llai nag unrhyw
rif penodol.
- Deall y weithred o adio, ac o dynnu (fel tynnu i ffwrdd neu
gwahaniaeth) a defnyddior eirfa gysylltiedig.
- Gwybod ar y cof bob pâr o rifau sydd â chyfanswm o 10.
- Defnyddio strategaethau pen i ddatrys problemau syml gan ddefnyddio cyfrif, adio, tynnu,
dyblu a haneru, egluro dulliau a rhesymu ar lafar.
- Cymharu dau hyd, màs neu gynhwysedd drwy gymharun uniongyrchol.
- Awgrymu offer ac unedau mesur safonol neu ansafonol i amcangyfrif, ac yna mesur, hyd,
màs neu gynhwysedd.
- Defnyddio iaith bob dydd i ddisgrifio nodweddion siapiau 2-D a 3-D cyfarwydd.
Blwyddyn 2

- Cyfri, darllen, ysgrifennu a threfnu rhifau cyfain hyd at o leiaf 100; gwybod beth mae
pob digid yn ei gynrychioli (gan gynnwys 0 mewn gwerth lle)
- Disgrifio ac ymestyn dilynianau rhif symyl (gan gynnwys odrifau/eilrifau, cyfri ymlaen
neun ôl fesul un neu ddegau o unrhyw rif dau ddigid, ac yn y blaen).
- Deall fod tynnu yn wrthdro i adio; nodi y broses dynnu syn cyfateb i sym adio
arbennig ynghyd ar gwrthdro.
- Gwybod ar y cof yr holl ffeithiau adio a thynnu ar gyfer pob rhif hyd at o leiaf 10.
- Defnyddio gwybodaeth y gellir adio mewn unrhyw drefn i wneud cyfrifiadau yn y pen yn fwy
effeithlon.
- Deall y broses o luosi fel adio wedi ei ailadrodd neun disgrifio array
- Gwybod a defnyddio haneru fel y gwrthdro i ddyblu.
- Gwybod ar y cof ffeithiau ar gyfer tablau lluosi 2 a 10.
- Amcangyfrif, mesur a chymharu hydoedd, mas a chynhwysedd, gan ddefnyddio unedau
safonol.; awgrymu unedau ac offer addas i wneud mesuriadau or ffath.
- Darllen graddfa symyl Ir rhaniad agosaf a labelwyd, gan gynnwys defnyddio pren
mesur I lunio a mesur llinellau Ir centimetr agosaf.
- Defnyddior enwau mathemategol ar gyfer siapiau 2-D a 3-D cyffredin; dosbarthu
siapiau a disgrifio rhai ou nodweddion.
- Defnyddio geirfa fathemategol I ddisgrifio safle, cyfeiriad a symudiad.
- Dewis a defnyddio dulliau addas a strategaethau cyfrifo effeithlon I ddatrys problemau,
gan egluro sut y datryswyd y broblem.
Blwyddyn 3

- Darllen, ysgrifennu a threfnu rhifau cyfain hyd at o leiaf 1000; gwybod beth mae pob
digid yn ei gynrychioli.
- Cyfri ymlaen neun ôl mewn degau neu gannoedd o unrhyw rif dau neu dri-
digid.
- Adnabod ffracsiynau uned megis ½, 1/3, ¼, 1/5, 1/10, au defnyddio i ganfod
ffracsiynau o siapiau a rhifau.
- Gwybod ar y cof yr holl ffeithiau adio a thynnu ar gyfer pob rhif hyd at 20.
- Adio a thynnu yn y pen lluosri agos i 10 i neu o rif dau-ddigid.
- Gwybod ar y cof ffeithiau tablau lluosi 2, 5 a 10.
- Deall rhannu ac adnabod bod rhannu yn wrthdro I luosi.
- Defnyddio unedau amser a gwybod y berthynas rhyngddynt (eiliad, munud, awr, diwrnod,
wythnos, mis, blwyddyn).
- Deall a defnyddio nodiant £.c
- Dewis a defnyddio dulliau priodol (gan gynnwys lluosi a rhannu) i ddatrys problemau a
fynegir mewn geiriau, gan egluro dulliau a rhesymu.
- Adnabod onglau sgwar.
- Adnabod llinellau cymesuredd mewn siapiau symyl ac adnabod siapiau sydd heb linellau
cymesuredd.
- Datrys problem arbennig drwy drefnu a dehongli data rhifyddol mewn rhestrau, tablau a
graffiau symyl.
Blwyddyn 4

- Defnyddio symbolau yn gywir, gan gynnwys llai na (<), mwy na (>), hafal i (=).
- Talgrynnu unrhyw rif cyfan llai na 1000 Ir 10 neu 100 agosaf.
Adnabod ffracsiynau syml syn amryw ran o un cyfan, a rhifau cymysg; adnabod
ffracsiynau cyfwerth syml.
Defnyddio ffeithiau rhif syn wybyddus a gwerth lle i adio a thynnu yn y pen,
gan gynnwys unrhyw bar o rifau cyfan dau-ddigid.
Cwblhau proses adio a thynnu colofn gyda dau rif cyfan llai na 1000, ynghyd ag adio
colofn o fwy na dau rif cyfan or math hwn.
Gwybod ar y cof ffeithiau tablau lluosi 2, 3, 4, 5 a 10
Canfod gweddill ar ôl rhannu.
Gwybod a defnyddio perthynas rhwng unedau cyfarwydd o hyd, mas a chynhwysedd.
Dosbarthu polygonau, gan ddefnyddio meini prawf megis nifer o onglau sgwar, ydynt yn
rheolaidd ai peidio, nodweddion cymesuredd.
Dewis a defnyddio gweithrediad rhif addas ynghyd â dulliau cyfrifo (yn y pen, yn y pen
gyda gwaith bras ar bapur, dull papur a phensil) er mwyn datrys problemau.
Blwyddyn 5

- Lluosi a rhannu unrhyw gyfanrif positif hyd at 10 000 gyda 10 neu 100 a deall yr
effaith.
- Trefnu set o gyfanrifau positif a negatif
- Defnyddio nodiant degol ar gyfer degfedi a chanfedi.
- Talgrynnu rhif gydag un neu ddau werth lle Ir cyfanrif agosaf.
- Perthnasu ffracsiynau i rannu au cynrychioliad degol.
- Cyfrifon y pen wahaniaeth megis 8006 2993
- Cwblhau proses adio a thynnu colofn gyda dau gyfanrif positif llai na 10 000.
- Gwybod ar y cof ffeithiau lluosi hyd at 10 x 10.
- Cwblhau proses luosi a rhannu byr o gyfanrifau tri-digid ag un un-digid.
- Cwblhau proses luosi hir o gyfanrifau dau-ddigid gyda dau-ddigid.
- Deall arwynebedd wedi ei fesur mewn centimetrau sgwar (cm²); deall a defnyddio y
fformwla mewn geiriau hyd x lled ar gyfer cyfrifo arwynebedd petryal.
- Adnabod llinellau paralel a pherpendiciwlar, a nodweddion petryalau.
- Defnyddior bedair gweithred i ddatrys problemau symyl a fynegir mewn geiriau yn
ymwneud a rhifau a meintiau., gan gynnwys amser, gan egluro eu dulliau au rhesymu.
Blwyddyn 6

- Lluosi a rhannu degolion yn y pen gyda 10 neu 100, a chyfanrifau gyda 1000, ac
egluror effaith
- Trefnu set gymysg o rifau gydag hyd at dri lle degol.
- Nodi ffracsiwn yn ei ffurf symlaf drwy ganslo ffactorau cyffredin.
- Darganfod ffracsiwn o rifau neu feintiau (e.e. 5/8 o 32, 7/10 o 40, 9/100 o
400centimetr).
- Deall canran fel y nifer o rannau ym mhob 100, a canfod canranau symyl o feintiau
syn rifau cyfain bach.
- Datrys problemau symyl yn ymwneud â cymhareb a cyfranedd.
- Cwblhau proses adio a thynnu colofn gyda rhifaun cynnwys degolion.
- Didwython gyflym ffeithiau rhannu syn cyfateb i dablau lluosi hyd at 10 x
10.
- Cwblhau proses luosi a rhannu byr o rifau yn cynnwys degolion.
- Cwblhau proses luosi hir o gyfanrif tri-digid gydag un dau-ddigid.
- Defnyddio onglydd i fesur ongl lem ac aflem ir radd agosaf.
- Cyfrifo perimedr ac arwynebedd siapiau cyfansawdd symyl y gellir eu rhannun
betryalau.
- Darllen a phlotio cyfesurynnau yn y pedwar cwadrant.
- Adnabod a defnyddio y gweithrediad addas (gan gynnwys cyfuniad o weithrediadau) i
ddatrys problemau a fynegir mewn geiriau, yn ymwneud â rhifau a meintiau, gan egluro eu
dulliau au rhesymu.
- Datrys problem drwy echdynnu a dehongli gwybodaeth a gyflwynir mewn tablau, graffiau a
siartiau.
|