Canllawiau Proffesiynol |
...
gwybodaeth ynglyn ag arfer dda, digwyddiadau, prosiectau a defnyddiau newydd.
|
CYNLLUNIO A THREFNIADAETH: MATHEMATEG PEN
____________________________________________________________________________
|
Gweithgareddau
cynhesu ar gyfer y 10 munud agoriadol
1. 3.. 2.. 1.. Dangoswch
Bydd angen pac o gardiau wediu marcio 0 i 9 ar
gyfer pob plentyn ar athro. Maer athro yn dewis rhif heb ei ddangos ir
plant ac yn gwneud datganiad am y rhif fel a ganlyn :
Dwbl fy rhif yw 16.
Mae fy rhif adio 9 yn gwneud 17.
Hanner fy rhif yw 4.
Mae fy rhif yn draean o 24.
Wedyn gofynnwch ir plant Beth
yw fy rhif ? Rhaid sicrhau bod pob ateb yn 1-digid. Maer plant yn
cyfrifor ateb ac yn dewis y cerdyn priodol heb ei ddangos ir plant eraill. Ar
yr arwydd 3.. 2.. 1.. dangoswch mae pawb, gan gynnwys yr athro yn
dangos eu cardiau.
2. Curor Cloc
Bydd angen darn o bapur a phensel ar gyfer pob plentyn. Dewiswch dabl lluosi iw
ymarfer. Maer plant yn cael 1 munud yn erbyn y cloc i ysgrifennu atebion y tabl gan
nodir ateb olaf pan ddawr amser i ben. Dyma eu targed ar gyfer y munud nesaf.
Rhaid troir papur drosodd cyn ail-wneud y dasg.
3. Cardiau Saeth
Bydd angen set o gardiau saeth ar gyfer pob plentyn wediu gosod allan ar y bwrdd
mewn trefn.
Rhowch gyfarwyddiadau ir plant fel y ganlyn :
Dangoswch 23.
Dangoswch 120.
Dangoswch 137.
Dangoswch 305.
Dangoswch 155. Adiwch 10.
Dangoswch 247. Tynnwch 20.
Dangoswch 124. Beth sydd 50 yn fwy ?
Dangoswch 567. Beth sydd 100 yn llai ?
Dangoswch 545. Adiwch 20. Tynnwch 100. Adiwch 2. Beth ywr ateb ?
4. Gwyntyllau
Bydd angen gwyntyll ar gyfer pob plentyn. Rhowch gyfarwyddiadau ir plant fel y
ganlyn :
Dangoswch ddau ddigid sydd yn rhoi cyfanswm o 15.
Dangoswch dri digid sydd yn rhoi cyfanswm o 12.
Dangoswch rif 2-ddigid sydd yn odrif.
Dangoswch rif 3-digid sydd yn eilrif.
Dangoswch rif 2-ddigid sydd rhwng 50 a 75.
Dangoswch rif 2-ddigid sydd yn lluosrif o 9.
Dangoswch rif 3-digid sydd yn lluosrif o 5.
5. Cardiau Dolen
Bydd angen set o gardiau gydag un cerdyn ar gyfer pawb yn y dosbarth gan gynnwys yr
athro. Maer cardiau wedi eu marcio fel y ganlyn :
6 ydw i. 18 ydw i. 36 ydw i.
Adiwch 12. Dyblwch fi. Tynnwch 8.
Maer athro yn darllen ei gerdyn.
Maer plant yn cyfrifor ateb gan chwilio trwy eu cardiau am yr ateb. Maer
plentyn gydar ateb priodol yn darllen y cerdyn nesaf. Mae hyn yn parhau nes i bawb
ddarllen eu cardiau. Rhaid ir cerdyn olaf yn y ddolen rhoir ateb sydd ar
gerdyn yr athro.
6. Y Sgwâr Lluosi
Rhowch sgwâr lluosi ar y bwrdd du neu ar ddalen fawr o bapur.
Dechreuwch gydar holl atebion ar y sgwâr. Ar
ôl gofyn ychydig o gwestiynau, tynnwch yr atebion i ffwrdd (neu eu gorchuddio) fesul
ychydig nes mae canol y sgwâr yn wag. Wedyn, pwyntiwch at y sgwariau gwag gan ofyn
ir plant rhoir atebion priodol.
7. Y Grid Gwag
Rhowch grid ar y bwrdd du neu ar ddarn mawr o bapur ai lenwi gyda rhifau.
Gofynnwch gwestiynau ir plant fel y ganlyn :
Beth yw cyfanswm y rhes cyntaf ?
Beth yw cyfanswm yr ail golofn ?
Beth yw cyfanswm y rhif lleiaf ar rhif mwyaf ar y grid ?
Beth ywr rhif 3-digid mwyaf posibl gan ddefnyddior digidau yn y rhes
cyntaf ?
Beth yw lluoswm y rhif cyntaf yn y rhes cyntaf ar rhif cyntaf yn yr ail res ?
Wedyn tynnwch y rhifau (neu eu gorchuddio) a
gofyn yr un math o gwestiynau eto. Rhaid ir plant geisio cofior rhifau gan
ddelweddur grid llawn.
8. Newid Y Rhif
Rhannwch y plant yn grwpiau yn ôl eu gallu. Bydd angen pac o gardiau chwarae ar gyfer
pob grp. Dewiswch weithrediad megis +9 neu x2 ar gyfer pob grp. Gosodwch y pac wyneb i
lawr ar ganol y bwrdd. Maer plant yn cymryd tro i droi y cerdyn cyntaf drosodd a
newid y rhif gan ddefnyddior weithred briodol (maer cardiau llun yn cyfrif fel
10). Maer grwpiau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Maer tîm cyntaf i
newid eu cardiau i gyd yn ennill.
9. Targed
Bydd angen cardiau wediu labelu o 1 i 100, dis a chownteri. Gosodwch y plant mewn
parau a rhannu un cerdyn i bob pâr. Taflwch y dis gan ddarllen y rhif yn uchel (
maen syniad da i ysgrifennur rhif ar y bwrdd du hefyd er mwyn gwirio cyfrifon
y plant). Mae pob pâr yn adior rhif at y rhif ar eu cerdyn. Taflwch y dis. Y tro
hwn, mae pob pâr yn adior rhif iw cyfanswm newydd. Parhau gydar gêm.
Bob tro mae pâr yn cyrraedd cyfanswm sydd yn gorffen gydar digid 0, maent yn
gweiddi Targed ac yn casglu cownter. Os ydyr rhifau yn mynd yn
rhy uchel, rhannwch gardiau newydd ac ail gychwyn. Y pâr gydar nifer fwyaf o
gownteri ar ddiwedd y gêm sydd yn ennill. |