|
|
 |
|
Cyflwyniad
Dylid defnyddior 10 munud cyntaf or wers
mewn amrywiaeth o ffyrdd i ymarfer a mireinio sgiliau gwaith pen. Ar wahanol ddyddiau
gellir dewis gwneud un neu fwy or canlynol :
cyfrif mewn camau o wahanol faint gan gynnwys cyfrif fel
dosbarth
cyfan neu o amgylch y dosbarth;
- ymarfer adalw cyflym o ffeithiau rhif mewn amrywiaeth o
ffyrdd;
darganfod ffeithiau newydd or rhai y maer plant yn
gwybod eisoes;
trafod dulliau o gofio ffeithiau sydd angen cael eu dysgu ar y
cof;
datblygu ac esbonio strategaethau pen newydd;
rhoi esiamplau sydd yn cyfateb i ddatganiad cyffredinol;
datblygu geirfa gan ddefnyddior termau cywir a dysgu
rhai newydd;
adolygu gweithgaredd a wnaethpwyd adref;
paratoi ar gyfer ac arwain i mewn ir brif ran or
wers.
Yn ystod y rhan gyntaf hon or
wers dylid :
cychwyn mewn ffordd glir a phendant;
gwneud bwriad a disgwyliadaur rhan yma or wers yn
glir ir plant;
cynnal cyflymder addas;
darparu amrywiaeth o weithgareddau llafar a gweithgareddau pen
byr
trwy gydol yr wythnos;
- paratoi amrediad da o gwestiynau agored a chaeedig i ofyn
ir dosbarth;
- bod â strategaethau i sicrhau bod yr holl blant yn cymryd
rhan;
- helpur plant i gofio un neu ddau o ffeithiau newydd;
- symud ymlaen yn gyflym ir rhan nesaf or wers.
Sut y gallwn ni sicrhau bod pawb yn
cymryd rhan ?
defnyddio cardiau neur tebyg i ateb;
- gwneud ir plant ddisgwyl am arwydd cyn rhoi eu dwylo i
fyny;
- trafod mewn parau cyn ateb;
- lliwior atebion ar linell rhif - gwirio gan ofyn
Pa rif wnaethoch chi liwion goch?
- gosod cownteri ar sgwâr cant neur tebyg;
- pawb yn ysgrifennur atebion;
- chwarae gemau fel Bingo neu Cardiau
Dolen.
Sut y gallwn ni annog plant i gofio eu ffeithiau
rhif ?
- canolbwyntio ar un ffaith yn unig ai ymarfer mewn
amrywiaeth
- o ffyrdd yn ystod y dydd;
- dysgu parau (6+6) a sgwariau (4x4) yn gyntaf;
- canu tablau gan ychwanegu offerynnau;
- chwarae gemau megis Bingo neu Pedwar Mewn
Rhes gyda nifer gyfyngedig o ffeithiau;
- rhoi sgwâr adio neu luosi ir plant gan ofyn iddynt
groesi allan yr holl ffeithiau maent yn gwybod (gan gynnwys y rhai sydd yn ymddangos dwy
waith - 2x9 a 9x2) - astudior ffeithiau sydd ar ôl;
- gweithio yn ôl or atebion ir ffeithiau -
Sawl ffaith ydych chin gwybod gydag ateb o 12?
|
| _______________________________________________________________ Prif Weithgaredd Addysgu

Maer rhan hon or wers ar
gyfer :
- cyflwyno topig newydd neu ddatblygu gwaith blaenorol;
- datblygu geirfa fathemategol gan ddefnyddio termau cywir a
dysgu rhai newydd;
- defnyddio a chymhwyso cysyniadau a sgiliau.
Yn ystod y rhan hon or wers dylid :
- egluro ir dosbarth yr hyn y byddant yn ei ddysgu
ar hyn a ddisgwylir iddynt baratoi ar gyfer y sesiwn lawn;
- cysylltu gyda gwersi blaenorol;
- cynnal cyflymder y wers trwy gadw diddordeb y plant au
hysgogi i aros ar dasg;
- nodi amser penodol ir plant ar gyfer gorffen eu gwaith
Wrth weithion uniongyrchol
gydar dosbarth cyfan dylid :
- dangos esiamplau au hesbonio yn glir gan ddefnyddio
bwrdd du, siart-fflip neu TDY;
- sicrhau ymgyfranogiad y plant trwy gwestiynu a thrafodaeth
sydd wediu cynllunion ofalus;
- adnabod a chywiro yn syth unrhyw gamsyniadau neu syniadau
maer plant wediu hanghofio;
- defnyddio camgymeriadau fel pwyntiau dysgu positif;
Wrth weithion uniongyrchol gyda
grwpiau dylid :
bod â nifer hydrin o grwpiau (fel arfer dim mwy na phedwar);
- penderfynu sut i gyflwynor tasgau ir grwpiau a sut
y bydd y gwaith grp yn gorffen;
- rheolir lefel o wahaniaethu (er enghraifft, paratoi
tasgau ar yr un thema ar ddim mwy na thair lefel);
- darparu gweithgareddau a thasgau lle na fydd plant yn gorfod
disgwyl yn hir am eu tro;
- eistedd a gweithion ddwys gydag un (neu ddau) grp yn
ystod y sesiwn yn hytrach na symud o gwmpas;
- osgoi torri ar draws trwy sicrhau bod y plant sydd yn
gweithion annibynnol yn gwybod lle i ddod o hyd i adnoddau, beth iw wneud cyn
gofyn am gymorth a beth iw wneud os ydynt yn gorffen yn gynnar;
- gwybod beth fydd pob grp yn ei wneud ar unrhyw adeg ar
hyn sydd yn ddisgwyliedig ganddynt.
Wrth ddarparu gwaith ar gyfer unigolion neu barau o
blant dylid :
- cadwr dosbarth yn gweithio ar weithgareddau,
ymarferiadau neu broblemau tebyg;
- targedu unigolion ar gyfer cwestiynu a chymorth penodol.
|
| ____________________________________________________________________ Sesiwn Plenary

Bydd cynnwys y sesiwn yn dibynnu ar
yr hyn sydd wedii gyflawni yn ystod prif ran y wers. Gellir defnyddior rhan
hon or wers ar gyfer :
- gofyn i blant gyflwyno ac esbonio eu gwaith fel eich bod chi
ar plant eraill yn gallu eu holi amdano;
- helpu plant i gyffredinoli rheol o esiamplau a gynhyrchwyd gan
grwpiau, parau neu unigolion gwahanol;
- asesu gwaith rhai or plant yn anffurfiol a rhoi adborth
er mwyn rhannu syniadau ac arfer dda;
- gofyn ir plant farcio unrhyw ymarferiadau ysgrifenedig
byr a chywiro unrhyw gamgymeriadau;
- helpu plant i adfyfyrio ar yr hyn oedd yn bwysig am y wers
ar hyn sydd angen ei gofio;
- cynllunio gwaith dilynol a gosod targedau ar gyfer yr hyn sydd
angen cael ei ddysgu nesaf;
- gosod tasgau neu weithgareddau iw gwneud adref er mwyn
ymestyn neu atgyfnerthu gwaith ysgol.
Yn ystod y rhan hon or wers
dylid :
- cynnal y momentwm trwy fod â syniad clir or hyn y
dymunwch ei gyflawni;
- crynhoi ffeithiau, syniadau a geirfa allweddol pwysig;
- trafod yn gryno yr hyn y bydd y dosbarth yn ei wneud nesaf;
- dod âr wers i ddiweddglo pendant a gwerthuso ei
llwyddiant.

|