|
Amcanion Allweddol
Blwyddyn 7
Trefnu, adio a thynnu rhifau positif a negatif mewn cyd-destun.
Defnyddio cywerthedd ffracsiynau, degolion a chanrannau wrth
ddisgrifio cyfrannau.
Gwybod a defnyddio trefn gweithrediadau
Estyn dulliau cyfrifo yn y pen i gynnwys degolion, ffracsiynau a
chanrannau.
Mireinio dulliau ysgrifenedig o luosi a rhannu rhifau cyfan i sicrhau
effeithlonrwydd, a’u hestyn at ddegolion gyda dau le.
Barnu a yw ateb yn rhesymol a gwirio canlyniadau, gan gynnwys
defnyddio gwybodaeth am y system rhif, talgrynnu er mewn brasamcanu a
gweithrediadau gwrthdro.
Dewis a chyfiawnhau defnyddio dull priodol ac effeithlon ar gyfer
datrys problem.
Defnyddio llythrennau neu symbolau i gynrychioli rhifau neu newidynnau
anhysbys.
Gwybod bod gweithrediadau algebraidd yn dilyn yr un confensiynau a
threfn â gweithrediadau rhifyddol.
Cynhyrchu termau dilyniant, o wybod rheol.
Canfod parau cyfesurynnol sy’n bodloni rheol a phlotio’r rhain ar
grid cyfesurynnol.
Adnabod a defnyddio llinellau paralel a swm onglau ar bwynt, ar linell
syth ac mewn trionglau.
Trawsnewid o’r naill uned fetrig i’r llall.
Darllen a dehongli graddfeydd ar amrywiaeth o offer mesur.
Cymharu dau ddosraniad syml gan ddefnyddio’r amrediad ac un o’r
mesurau o gyfartaledd.
-
Gwybod bod tebygolrwyddau yn gorwedd rhwng 0 ac 1 a chyfrifo
tebygolrwyddau yn seiliedig ar ganlyniadau hafal debygol mewn
cyd-destunau syml.
|