Canllawiau Proffesiynol

... gwybodaeth ynglyn ag arfer dda, digwyddiadau, prosiectau a defnyddiau newydd.


CYNLLUNIO A  THREFNIADAETH:
TIPS ANITA STRAKER
Ynôlglas.gif (1110 bytes)
____________________________________________________________

       

Beth sy’n cyfrif….

12 tip gan Anita Straker, cyfarwyddwraig y Strategaeth Rhifedd Cenedlaethol, ar gyfer gwers fathemateg ddyddiol.

  • Tynnwch sylw pawb i’r ffaith fod y wers yn barod i gychwyn.
  • Cynheswch gydag ymarfer pen cyflym. Gwnewch hyn yn hwyl a cheisiwch wneud rhywbeth gwahanol bob dydd.
  • Dechreuwch gyda rhywbeth hawdd sy’n galluogi pawb i gymryd rhan – cyfrif fesul deg gan ddechrau a gwahanol rifau neu adrodd tablau am yn ôl.
  • Ceisiwch gynnwys y plant cymaint a phosib. Rhowch gardiau rhif iddynt eu dal i fyny fel ateb i gwestiynau.
  • Gofynnwch i’r plant esbonio sut y maent wedi cyfrifo ateb, un ai ar lafar neu yn ysgrifenedig ar fwrdd du/ gwyn
  • Targedwch grwpiau neu unigolion gyda chwestiynau arbennig
  • Gwnewch waith grwp yn waith y gallwch ei reoli – mae 4 grwp yn ddigon fel arfer, gyda gwaith ar dair haen. Gall y grwpiau yn y "canol" wneud yr un weithgaredd.
  • Gosodwch amser pendant i’r grwpiau gwblhau eu tasgau. Canolbwyntiwch eich sylw ar ddau o’r grwpiau – peidiwch a neidio o un grwp i’r llall. Eisteddwch gyda’r grwpiau hyn a’u dysgu am sawl munud. Targedwch y ddau grwp arall yn y wers nesaf.
  • Tuag at y diwedd, dewch a’r dosbarth yn ôl at ei gilydd ar gyfer mwy o gwestiynnu a datrys unrhyw broblemau a gododd yn ystod y gweithgareddau.
  • Gorffennwch drwy dynnu sylw’r plant at un neu ddau o syniadau a gododd neu ffeithiau a ddysgwyd yn y wers, a beth y dylent gofio erbyn y wers nesaf.
  • Paratowch yn drylwyr, fel eich bod yn gwybod beth yn union yr ydych am i’r plant ei ddysgu, nid dim ond beth maent am ei wneud. Cynlluniwch y cwestiynau yr ydych am eu gofyn.
  • Unwaith neu ddwy yr wythnos rhowch waith i’r plant ei wneud adref sy’n ymestyn gwaith y dosbarth – pôs efallai, neu gęm rhifau i chwarae gyda’u teuluoedd.