Bocsys
Bywiog
_________________________________________________________________________
Bocsys Bywiog
Gwaith ymarferol cynhwysfawr yn
seiliedig ar gasgliad o siapiau 3D. Rhydd y gweithgareddau gyfle i
ddatblygu cysyniadau ac iaith fathemategol.
Mae’r gweithgareddau yn canolbwyntio ar :
faint, siap, màs, patrwm.
Anghenion
Casgliad o barseli o wahanol faint a siap
wedi eu lapio mewn papur deiniadol. Gellir casglu faint a fynnir o barseli
a yn ogystal gellir ychwanegu sŵn drwy ddefnyddio amrywiol lenwadau
fel pasta, reis, cregyn, gro etc. i wneud sŵn unigryw.
Gellir hefyd roi pwysau amrywiol tu mewn i’r
bocsys fel bod y rhai mwyaf o ran maint yn ysgafnach na rhai llai.
Y Parseli
- Bocsys gwag o wahanol faint a siap yn
cynnwys ciwbiau, ciwboidau, silindrau, sfferau, cônau, pyramidiau
gwahanol, prismau gwahanol,tetrahedronau.
- Papur lapio o wahanol ansawdd, lliw a
phatrwm. Hefyd defnyddio rhai a dyluniad mathemategol arnynt e.e.
cylchoedd, trionglau, llinellau syth, llinellau crwm.
- Gwahanol lenwadau yn y parseli i
wahaniaethu pwysau a sŵn.
Sut i ddefnyddio’r bocsys
Mae’r gweithgareddau’n seiliedig ar
waith ymarferol gyda lle amlwg iawn i waith llafar a llawer o drafodaethau
cychwynnol gyda’r plant.
- Didoli’r parseli yn ôl siap 3D
- Didoli’n ôl lliw
- Didoli yn ôl patrwm y papur lapio
- Didoli’n ôl màs
- Didoli’n ôl maint
- Didoli’n ôl sŵn
Siap a maint fel priodwedd i’r bocsys
Y prif amcan fydd cael y plant i
ganolbwyntio ar briodweddau pwysig siap ac i finiogi eu dealltwriaeth o’r
rhain.
Geirfa : mawr,
bach, mwy, llai, cymaint, yr un faint â, sgwâr, petryal, cylch, triongl,
hirsgwar, hirgrwn, pentagon, hecsagon, octagon, ciwb, ciwboid, silindr,
sffêr, pyramid, prism, tetrahedron, solid, wyneb, crwm, gwastad, fflat,
cornel, ongl, ymyl, ochr
Gweithgaredd 1
- Trafod beth allai fod yn y parsel gyda’r
plant fel eu bod yn meddwl am y gwagle sydd y tu mewn iddo ac yn felly
yn cychwyn cael y cysyniad o gyfaint.
- Gwaith procio’r dychymug yn codi o hyn
– creu storïau am beth sy’n y bocs.
- Cael bocs o’r un maint a gweld beth yn
wirioneddol sy’n ffitio i mewn iddo.
- Symud ymlaen at focs arall a’r plentyn
i feddwl eto am rywbeth o’r maint iawn fuasai’n gallu ffitio i’r
bocs. Ar ôl peth ymarfer dylai’r cysyniad o gyfaint ddatblygu.
Gweithgaredd 2
Gellir didoli’n ôl lliw, siap, maint
(mawr, bach etc.), papur lapio, siapiau sy’n gwneud brithwaith neu
ddim yn gwneud
Mae’n bwysig fod y plant yn gallu gosod
meini prawf eu hunain i’r setiau ar ôl cyfarwyddyd cychwynnol.
- Gwneud is-setiau e.e. set o giwbiau yn
cael ei rhannu i giwbiau bach a chiwbiau mawr, set o siapiau efo
wynebau tair ochrog yn cael eu rhannu’n tetrahedron a pyramidiau.
(taflen 2)
Eto mae’n bwysig fod y plant yn dewis y
meini prawf
Gweithgaredd 3
- Tynnu sylw at nifer ymylon, ochrau,
wynebau, corneli ac onglau y siap fel bod plentyn yn dod i wybod beth sy’n
gwneud siap arbennig yn unigryw.
Sawl wyneb sydd i’r siap 3D yma?
Pa siap yw’r wyneb yma?
Sawl ymyl grom sydd ar hwn?
- Dangos y gwahaniaethau rhwng siapiau 3D
fel bod y plant yn gallu eu hadanbod yn gynt.
Gweithgaredd 4
Y plant i chwilio am:-
- Siapiau gyda mwy na tri
wyneb; siapiau gyda llai na chwe wyneb.
- Bocs gyda’r siap yma
arno ( dal cylch i fyny neu driongl, sgwar etc.)
- Pob bocs gyda un wyneb
crwm a dau wyneb gwastad crwm.
- Bocs gydag ochrau fflat yn unig.
- Bocs gyda ongl sgwâr.
- Bocs sydd yr un siap â
hwn a dal ciwb, ciwboid, silindr etc. i fyny.
- Taflen
3:- chwilio am
siapiau solid sydd ar y daflen ymysg y bocsys.
- Taflen
4:- cyfateb y
disgrifiad i’r lluniau o siapiau 3D ar y daflen.
- Ar ôl ymgyfarwyddo efo’r
siapiau a’u nodweddion yna cyflwyno’r enwau ar y
siapiau 3D (taflen 5)
Patrwm fel priodwedd i’r bocsys
Bydd y posibiliadau yma yn
dibynnu ar y papur lapio a ddefnyddiwyd. Bydd y sgiliau o gymharu, sylwi
ar y tebygrwydd a’r gwahaniaethau yn cael eu meithrin.
Geirfa
: syth, crwm, siapiau, lluniau, gloyw, afloyw, streipiau, igam
ogam, triongl, petryal, sgwâr, hirgrwn, diamwnt, cylch, crwn,
cornel, ochr, wyneb, ongl,
Gweithgaredd 1
Gall y plant chwilio am
Gweithgaredd 2
-
Gall y plant wneud patrymau
gyda’r bocsys –
- bocs plaen, bocs llinell
syth, bocs llinell grwm
- bocs llun,bocs plaen,bocs
gloyw etc.
- cofnodi eu patrwm ar
daflen (taflen 6)
Gweithgaredd 3
Gwaith pen yn codi o’r gweithgareddau
- gorffennwch y patwrm 2,4
6, - - -
- 5, 10, 15, -, -,
- clap clap cic; clap,
clap,-
- 5 + 0 = 6, 4 + 1 = 5, 3 +
2 = 5, etc.
Gweithgareddau
Pwyso
Gwaith Data yn codi o'r bocsys
Gweithgareddau
Arian
Gweithgareddau Rhif
|