Deunyddiau Dysgu

      
GWEITHGAREDDAU: 

Gweithgareddau Mathemategol Ieithyddol Ymarferol - Casgliad o dedis
_________________________________________________________________________

Gweithgareddau Mathemategol Ieithyddol Ymarferol

 

Ym mhob dosbarth babanod bron gofynnir i’r plant ddod â’ theganau sy’n ymwneud â’r thema i mewn i’r ysgol. Mae’r gweithgareddau isod yn ymwneud â defnyddio y math yma o gasgliad i ddatblygu gweithgareddau mathemategol.

Casgliad o dedis a ddefnyddiwyd yn y cyswllt yma; oddeutu 20 o eirth o bob maint, lliw a llun.

Gweithgareddau

  • Didoli i setiau yn ôl:- lliw,maint, rhif, ansawdd defnydd.

Didoli’r setiau yn is – setiau

 e.e.tedis gyda ffwr melyn
8 9
tedis bach melyn             tedis mawr melyn

Storiau rhif

Gwahanol gyfuniadau o wneud 2, 3, 4, 5, sef cychwyn y cysyniad o fondiau rhif.

Disgrifio’r tedis

Sylwi sawl clust, coes, troed, braich, pawen, ceg, trwyn sydd gan un tedi, dau dedi etc. Sawl clust sydd gan 4 tedi? Sawl pawen sydd gan 3 tedi?

Stori’r Tair Arth

Trafod siap, maint y tŷ.

Dodrefn o wahanol faint. Bach, mawr, cul, llydan, tew, tenau, trwm, ysgafn, uchel, isel. Mesur ansafonol gyda bys, rhychwant, troed, cufydd.

Dillad o wahanol faint i ffitio’r tair arth (wedi eu dethol o’r casgliad.)

Gwneud uwd i’r tair arth o wahanol ansawdd: garw, llyfn, canolig (ceirch "jumbo", ceirch cyffredin a Ready Brek ) Amcangyfri sawl llestr sydd ei angen. Faint o ddŵr sydd ei angen i wneud uwd i’r 3 arth.

Trafod Elen Benfelen – taldra, pwysau mewn cymhariaeth â’r eirth.

 

Ffrindiau’r Tedis

Rhannu’r tedis rhwng y tair arth. Y cysyniad o rannu .

Cyfri sawl troed sydd gan 4 tedi – y cysyniad o luosi.

Creu sefyllfa gyda’r tedis a chreu stori rif ar y cyd gan ei gwneud yn lyfr mawr.

Siop y tedis

Prynu a gwerthu tedis. Prisio, talu a chael newid.