Wendi
Wlanog
_________________________________________________________________________
Gweithgareddau mathemategol
Nodir y rhan berthnasol o Fframwaith Y
Strategaeth Rhifedd Cenedlaethol (Lloegr) cyn pob gweithgaredd.
Rhaglen addysgu Blwyddyn 1
|
RHIFAU A’R SYSTEM RIFAU
Cyfri, priodweddau rhifau a dilyniannau rhif
-gwybod enwau rhifau a’u hadrodd mewn trefn hyd at o leiaf 20
-cyfrif o leiaf 20 gwrthrych yn gywir
Gweithgareddau
-cyfri cerbydau’r trên ar lafar ac yn ymarferol
-darllen ac ysgrifennu’r rhifau yn drefnus gan ddechrau efo 1 (taflen
1), yna o
unrhyw rif ymlaen ac yn ôl, fesul 2, 3, 5 a 10 ar y taflenni (taflen
2)
-cyfri mewn odrifau (taflen
3)ac eilrifau (taflen
4) ar lafar ac ar y taflenni
-amcangyfri nifer y cerbydau sydd yn cael eu tynnu gan yr injian drên
|
|
GWERTH LLE A
THREFNU
Deall a defnyddio geirfa sy’n ymwneud â chymharu a threfnu rhifau gan
gynnwys trefnolion hyd at o leiaf 20.
Trefnu rhifau at oleiaf 20 a’u lleoli ar drac rhif.
Gweithgareddau
Gwneud trac y rheiffordd efo 20 gwagle a rhoi cwestiynau a chyfarwyddiadau
i’r plant eu cwblhau drwy leoli’r rhifau ar y trac e.e
-
Rhowch lili ar y pumed gwagle.
-
Pa rif sydd ddau yn llai na’r pump? Rhowch
ddafad ar y gwagle yma.
-
Rhowch fag Wendi ar y gwagle olaf. Pa rif ?
|
|
CYFRIFO
Strategaethau cyfrifo’n y pen(+ a -)
Adnabod dyblau agos gan ddefnyddio dyblau sydd eisoes yn hysbys.
Gweithgaredd-Gêm pâr Trên Bach yr Wyddfa
Taflen dyblau a dyblau agos a’r cerbydau wedu’u torri allan yn unigol,(taflen
5) a (
taflen 6).
Set o gardiau digid i 20.
Rhoi’r cardiau ar eu pennau i lawr.
Yn eu tro, y chwaraewyr i godi un cerdyn a gweithio allan cyfanswm y sym
ar y cerbyd. Wedyn dewis y cerdyn digid cywir a’i roi ar y cerbyd, gan
roi’r cerbydau yn eu trefn rifol gywir wrth fynd ymlaen.
Amrywiad: Gellir cyfri yn ôl hefyd |
|
MESURAU
Deall a defnyddio’r eirfa sy’n gysylltiedig ag amser.
Gweithgaredd
-Defnyddio cerbydau’r trên i enwi misoedd y flwyddyn a’r tymhorau gan
roi’r lluniau ac enwau’r plant ar y cerbydau perthnasol. |
|
SIÂP A GOFOD
Plygu siapiau yn eu hanner ac yna eu gwneud yn batrymau cymesurol.
Gweithgareddau
-Lluniau o’r pili pala a’r plant i’w gwneud yn gymesur.
-Gwneud gyda’r gwenyn yn yr un modd gan eu lliwio’n gymesur hefyd.
-Torri siocled Wendi yn ei hanner mewn gwahanol ffyrdd a’i wneud yn gymesur.
|
|
MESURAU
Cymharu màs dau beth drwy gymhariaeth
uniongyrchol gan ddefnyddio geirfa berthnasol.
-
Defnyddio gwrthrychau ym mag Wendi Wlanog i
fesur yn ansafonol, i ddarganfod y pethau trymaf, ysgafnaf a’r rhai sy’n
cydbwyso e.e. rwbiwr, pensil, can diod, siocled, chwistrellwr, ffon.
-
Defnyddio mesurau safonol – kilo, hanner
kilo, 500gram, 200gram, 100gram, 50gram, 10gram i fesur màs y gwrthrychau
uchod.
|
|
RHIFAU A’R SYSTEM RIFAU
Gwerth lle a threfnu
Dechrau dod i wybod beth mae pob digid mewnrhif dau ddigid yn ei
gynrychioli. Dosrannu rhifau i ddegau ac unedau.
Gweithgaredd-Corlannu'r
Defaid
Cyfri a rhoi’r defaid mewn corlannau o ddeg.
Ni ellir rhoi ond 10 dafad mewn corlan.
Bydd y gweddill allan,sy’n gwneud 1 set o 10 a 4 dafad drosodd, yn unig yn y
cae. |
|
CYFRIFO
Dechrau ymwneud â lluosi a rhannu yn ymarferol.
Gweithgaredd- Wyau'r
Gornchwiglen
Cyflwyno rhannu yn ymarferol drwy roi nythod a wyau i’r plant a dweud
wrthynt fod angen 3 ŵy ym mhob nyth. Sawl nyth sydd ei angen? Sawl
ŵy gawn ni mewn 4 nyth?
Gweithgaredd- Petalau'r
Blodau
- cyfri’r petalau fesul 5 gan gyflwyno
lluosi fel adio trosodd a throsodd
- rhoi canol y blodau i’r plant a
hwythau i ddarganfod y nifer o betalau sydd eu hangen
- sawl blodyn sydd ganddom os oes gennym
15 o betalau?
Gweithgaredd- Buwch Goch Gota
Deall adio a thynnu
Deall y weithred o adio a thynnu a dechrau
dod i wybod ffeithiau adio ar gyfer pob pâr o rifau hyd at 10.
Bondiau rhif i 7 gyda smotiau ar
y fuwch goch gota |
|