CWRICWLWM NEWYDD I GYMRU

CWRICWLWM NEWYDD I GYMRU

CWRICWLWM NEWYDD I GYMRU

Mae fersiwn terfynol cwricwlwm newydd Cymru wedi cael ei gyhoeddi, ond yn ôl Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams:

“Ni ddylai ysgolion frysio wrth geisio cynllunio ar ei gyfer… dylai ysgolion gymryd lle ac amser i ddeall model y cwricwlwm.”

Bydd y cwricwlwm newydd yn orfodol yn 2022 ond yn y cyfamser bydd disgwyl i bob ysgol baratoi ar gyfer y newid, fydd yn ffordd hollol wahanol o addysgu plant. Mae’r newid mwyaf yn debygol o fod mewn Ysgolion Uwchradd, lle bydd pynciau unigol (fel Gwyddoniaeth, Hanes neu Gelf) yn cael eu huno mewn 6 Maes o Ddysgu a Phrofiad:

  • Mathemateg a Rhifedd
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Iechyd a Lles
  • Y Dyniaethau
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Celfyddydau Mynegiannol

Eleni bydd athrawon yn derbyn un diwrnod ychwanegol o hyfforddiant ac mae Kirsty Williams wedi gaddo cyllid o £39 miliwn er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Fodd bynnag, mae llawer o athrawon a phenaethiaid yn poeni nad oes digon o arian yn cael ei wario ar yr holl newidiadau.

Achosodd Storm Ciara a Storm Dennis gryn ddifrod ar eu hôl, gyda nifer fawr o ardaloedd yng Nghymru wedi dioddef llifogydd ofnadwy. Gwelwyd stryd fawr tref Llanrwst, yn y gogledd, o dan ddŵr o ganlyniad i Storm Ciara, tra roedd tref Pontypridd, yn y de, o dan ddŵr ar ôl Storm Dennis. Cafodd bron pob ardal yng Nghymru ei effeithio mewn rhyw ffordd, gyda ffyrdd wedi cau a difrod wedi ei achosi i dai a busnesau. Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi addo £10 miliwn o arian Llywodraeth Cymru i helpu i dalu am y difrod ond yn ôl llawer o bobl mae angen llawer iawn mwy o arian na hynny.

Beth ddylen ni ei wneud i atal y coronavirus?

Mae rhai pethau syml iawn y medrwn ni ei wneud i rwystro lledaeniad unrhyw salwch sy'n cael ei achosi gan feirws:

  • Wrth beswch neu disian, defnyddiwch hances bapur i'w ddal, yna rhoi'r hances yn y bin a golchi eich dwylo'n dda gyda sebon a dŵr neu ddiheintydd llaw.
  • Golchi dwylo ar ôl defnyddio'r toiled.
  • Golchi dwylo cyn bwyta.
  • Golchi dwylo ar ôl cyffwrdd offer sy'n cael ei rannu e.e. offer chwaraeon, bysellfwrdd.
  • Peidiwch â rhannu pethau fel poteli dŵr.
  • Ceisiwch beidio â chyffwrdd eich llygaid, trwyn a cheg heb olchi eich dwylo

Ar hyn o bryd, yng Nghymru, mae'r siawns o ddod i gysylltiad â'r feirws yn isel.

1

DYDDIAU I’R DYDDIADUR

Gŵyl Hindŵaidd Holi

Darllenwch mwy am hyn yn Rhifyn 7

Diwrnod Dim Ysmygu
(No Smoking Day)

Mwy am hyn ar dudalen 6 ‘Dan y Chwyddwydr’

Diwrnod Sant Padrig

Sant Padrig yw nawddsant Iwerddon. Mae’r dathliadau dydd Sant Padrig mwyaf a’r hynaf yn digwydd y tu allan i Iwerddon, yn Efrog Newydd! Mae gorymdaith fawr trwy strydoedd y ddinas a phawb yn mwynhau bwyta ac yfed ac mae’r lliw gwyrdd i'w eld ym mhobman!

Cyhydnos y Gwanwyn

Dyma’r tymor rhwng Gaeaf a Haf. Yr Haf yw 3 mis cynhesaf y flwyddyn, y Gaeaf yw’r 3 mis oeraf ac felly mae’r Hydref a’r Gwanwyn rhwng y ddau. Mae Meteorolegwyr (arbenigwyr y tywydd) yn dweud mai mis Mawrth, Ebrill a Mai yw y Gwanwyn yng Nghymru. Fodd bynnag, yn ôl Seryddwyr (arbenigwyr ar y ddaear, y sêr, yr haul a’r planedau) yr Haf yw’r cyfnod lle mae’r mwyaf o olau dydd, sef Hirddydd Haf, 21ain Mehefin. Mae Cyhydnos y Gwanwyn hanner ffordd rhwng Hirddydd Haf a Byrddydd y Gaeaf, 21ain Rhagfyr. Edrychwch ar Rhifyn 5 am fwy o wybodaeth am hyn.

Sul y Mamau

Mae Stori a Chrefft am hyn yn Rhifyn 7. Dethlir Sul y Mamau ar y 4ydd Sul o’r Grawys (sef y cyfnod rhwng Dydd Mawrth Ynyd a’r Pasg). Enw arall ar y diwrnod yma yng Nghymru yw Sul y Meibion. Erstalwm dyma'r diwrnod oedd morwynion a gweision yn ei gael yn rhydd i fynd adref i ymweld â’u mamau; neu'r eglwys oedd yn ymyl eu cartref, y ‘fam’ eglwys.

Wythnos Pontio’r Cenedlaethau (Intergenerational week)

Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored

Ffŵl Ebrill

Mis Anifeiliaid Anwes Cenedlaethol
(National Pet month)

Mae ein ffrindiau fflwfflyd a phluog yn amlwg yn y rhifyn yma!
Mae mis Anifail Anwes yn hybu pobl i fod yn berchnogion cyfrifol. Mae anifail anwes angen llawer o sylw a gofal - os oes gen ti anifail anwes yna mae'n bwysig gofalu amdano'n ofalus.
Yn Ysgol San Siôr, Llandudno, maen nhw'n gwybod mor braf yw cael y fraint o ofalu am anifeiliaid. Mae ganddyn nhw gasgliad rhyfeddol o anifeiliaid a chreaduriaid yno, pob un gydag anghenion arbennig. Dyma rai o'r anifeiliaid sydd yn eu gofal - cameleon, madfall, sginc a geco, miltroed, ceiliog rhedyn, crwbanod amrywiol a gwahanol fathau o frogaod a malwod, heb sôn am gasgliad o adar fel ieir a ffesantod.
Mae mwy o hanes Ysgol San Siôr ar dudalen 6.

Pesach

Gŵyl y Pasg Iddewig. Mae Pesach (Passover) yn un o wyliau mwyaf pwysig yr Iddewon, pryd maent yn dathlu fod Moses wedi arwain yr Israeliaid i’w rhyddid o wlad yr Aifft. Yn ystod yr ŵyl bydd pobl yn dod at ei gilydd i fwyta pryd bwyd arbennig o’r enw ‘Seder’

Diwrnod y Ddaear
(Earth day)

Big Pedal

Beth am feicio i’r Ysgol?

Dechrau Ramadan

Yn ystod mis Ramadan mae Mwslemiaid yn ymprydio (mynd heb fwyd) rhwng gwawr a machlud haul.

Wythnos Ymwybyddiaeth Brechu (Immunisation awareness week)

Gwelir tudalen 6 - Tyrd i Drafod

2

BARGEN

BARGEN

BARGEN

A hithau’n Ddydd Dim Ysmygu ar Fawrth 11, dyma stori am Idris a’i fam - maen nhw’n taro bargen - ond beth ydi’r fargen tybed?

A hithau’n Ddydd Dim Ysmygu ar Fawrth 11, dyma stori am Idris a’i fam - maen nhw’n taro bargen - ond beth ydi’r fargen tybed?

A hithau’n Ddydd Dim Ysmygu ar Fawrth 11, dyma stori am Idris a’i fam - maen nhw’n taro bargen - ond beth ydi’r fargen tybed?

'Idris - wnei di plîs roi'r ffôn yna i lawr!' roedd llais Mam yn codi'n uwch. Cymrodd Idris un cip arall ar y sgrin cyn rhoi'r ffôn yn bwdlyd, ar y bwrdd.
'Edrych - mae dy fwyd di'n oer rŵan!'
Rhoddodd Mam y botel sôs coch i lawr ar y bwrdd yn galed, a sbonciodd y cyllyll a'r ffyrc. 'Ond mae Cai a Pete yn trefnu rhywbeth a dwi angen ateb...' Estynnodd Idris ei law am y ffôn eto.

'NA!" rhoddodd Mam floedd, a gwyddai Idris mai gadael llonydd i'r ffôn oedd orau. Eisteddodd y ddau i lawr wrth y bwrdd, ond doedd dim llawer o flas ar y bwyd a'r ddau yn eistedd yn dawel, y ffrae yn gwmwl du dros y gegin.
Roedd sgrin y ffôn yn fflachio eto. Llowciodd y ddau eu bwyd, yna cododd Mam ac estyn am y paced sigarennau, a'r leitar.
'Rho dy blât yn y sinc!' meddai Mam cyn mynd allan i'r cefn am smôc.
Cododd Idris ei ffôn, roedd yna lwyth o negeseuon ar y sgrin. Doedd o ddim am gael ei adael allan, a nawr - diolch i reolau gwirion ei fam - roedd ei ddau ffrind wedi gwneud y trefniadau

hebddo. Cododd Idris a rhoi ei blât yn y sinc, edrychodd ar y mwg yn codi o sigarét ei fam, lle'r oedd yn sefyll wrth y drws cefn. Roedd gas ganddo weld ei fam yn ysmygu, pa hawl oedd ganddi hi ddweud wrtho ei fod yn sownd wrth ei ffôn - roedd hithau'n sownd wrth ei phecyn sigarennau meddyliodd .
Agorodd y drws a chychwyn am y llwybr, ac anelu am y parc lle roedd ei ffrindiau.

'Lle wyt ti'n mynd Idris?' galwodd Mam, 'aros funud!' Trodd Idris yn ei ôl.
'Mae'n ddrwg gen i am weiddi,' meddai Mam, 'ond mae'n gas gen i dy weld di yn gwneud dim byd ond syllu ar dy ffôn o hyd.'
Arhosodd Idris ac yna meddai, 'ac mae'n gas gen i dy weld di'n smocio.' Arhosodd Mam yn dawel am amser hir wrth i'r ddau bwyso yn erbyn wal y tŷ.
Ar ôl sbel dywedodd Mam 'Digon teg' cyn ysgwyd llaw Idris. 'Bargen!' meddai, 'Mi roddaf y gorau i'r ysmygu os fedri di anwybyddu dy ffôn weithiau. Fydd hi ddim yn hawdd, ond o leiaf gawn ni drio.'
'Oce,' gwenodd Idris, 'na i drio hefyd, ond gaf i fynd rŵan - mae Cai a Pete yn aros amdana i.' Rhedodd am y parc - ei ffôn dal ar y bwrdd.

Byddi di angen:

  • Pridd neu gompost
  • Rholiau cardfwrdd (tu mewn papur tŷ-bach neu bapur cegin)
  • Twb i ddal y rholiau cardfwrdd (twb hufen iâ neu fenyn)
  • Pecyn o hadau ffa
  • Rhaw fechan

Byddi di angen:

  • Pridd neu gompost
  • Rholiau cardfwrdd (tu mewn papur tŷ-bach neu bapur cegin)
  • Twb i ddal y rholiau cardfwrdd (twb hufen iâ neu fenyn)
  • Pecyn o hadau ffa
  • Rhaw fechan

Byddi di angen:

  • Pridd neu gompost
  • Rholiau cardfwrdd (tu mewn papur tŷ-bach neu bapur cegin)
  • Twb i ddal y rholiau cardfwrdd (twb hufen iâ neu fenyn)
  • Pecyn o hadau ffa
  • Rhaw fechan

PLANNU COEDEN FFA!

Mae mis Mawrth yn amser ardderchog i blannu hadau ffa. Beth am fynd amdani i ti gael gweld dy goeden ffa dy hun yn tyfu, a chael bwyta ffa hyfryd ym mis Gorffennaf?

PLANNU COEDEN FFA!

Mae mis Mawrth yn amser ardderchog i blannu hadau ffa. Beth am fynd amdani i ti gael gweld dy goeden ffa dy hun yn tyfu, a chael bwyta ffa hyfryd ym mis Gorffennaf?

PLANNU COEDEN FFA!

Mae mis Mawrth yn amser ardderchog i blannu hadau ffa. Beth am fynd amdani i ti gael gweld dy goeden ffa dy hun yn tyfu, a chael bwyta ffa hyfryd ym mis Gorffennaf?

3

DOLITTLE

DOLITTLE

DOLITTLE

Wyt ti wedi gweld y ffilm Dolittle?

Mae Dr John Dolittle yn filfeddyg ac yn byw heb gwmni pobl o gwbl yn ei blasty crand y tu ôl i waliau uchel. Ond nid yw ar ben ei hun yn hollol chwaith, yn rhannu ei fywyd mae casgliad o anifeiliaid rhyfeddol.

Cysylltiad â Chymru

Mae'r ffilm wedi ei saethu mewn lleoliadau ar hyd a lled Ynysoedd Prydain, ac ym Mehefin 2018, daeth y criw ffilmio i Gymru, gan ffilmio ar Bont Menai, sy'n croesi o Wynedd i Fôn. Ond nid dyna'r unig gysylltiad â Chymru - mae'r prif actor Robert Downey Jr wedi

seilio ei gymeriad ar y meddyg o Gymro, Dr William Price o Lantrisant.

Pwy oedd William Price?

Ganwyd William Price yn ymyl Caerffili yn 1800 a chafodd gyfle i

ddechrau ei brentisiaeth fel meddyg yn ddim ond 13 oed. Ond roedd William Price yn feddyg ecsentrig iawn -

  • Gwisgai diwnig wen fel un o'r derwyddon, trowsus gwyrdd a gwasgod goch gyda het o groen llwynog ar ei ben
  • Yn groes i arferiad y cyfnod, ni fyddai'n defnyddio moddion arferol, ond yn argymell diet llysieuol i'w gleifion
  • Enwodd ei blentyn yn Iesu Grist, ond pan fu farw'r plentyn, penderfynodd Price amlosgi'r corff - y seremoni gyntaf o'r fath yng Nghymru.

Enw: Mael Evans

Swydd:
Hyfforddwr pêl-droed Global Premier, mewn partneriaeth gyda Bayern Munich.

Lleoliad: Boston, UDA.

Diwrnod arferol:
9.00 am - Teithio i'r gwaith; prynu coffi o 'Dunkin donuts' - arferiad yma! Yna ymlaen i'r Adran Dechnegol, lle bydda i'n creu rhaglenni ymarfer ac yn dehongli perfformiadau.
4.30 pm - Paratoi i fynd ar y cae hyfforddi (fel arfer gwneud un o'r rhaglenni ymarfer). 8.30 pm - Teithio adref.

Pethau gorau am y swydd:
Gweithio mewn diwydiant sydd wedi tanio fy nychymyg ers ro'n i'n ifanc iawn. Hefyd cael defnyddio fy ngradd yn fy ngwaith.

Pethau sydd ddim mor dda am y swydd:
Dim yn cael ymuno yn y chwarae, yn arbennig pan mae'r tymheredd yn –6°C - brrr!

Pam gwneud y gwaith hwn?
Mi wnes i ennill gradd BSc Hyfforddi Pêl-droed, a hon yw swydd fy mreuddwydion!

Hoff bynciau yn yr ysgol?
'Chwaraeon wrth gwrs! Rwy'n chwarae'r trwmped ac yn mwynhau cerdd ac Addysg Grefyddol.

Tips Mae byd pêl-droed yn fyd llai na'r disgwyl, mae manylion bach yn bwysig. Rhaid bod o ddifrif, ond peidio ag ofni gwneud camgymeriadau.

Diolch Mael, a phob lwc gyda dy waith!

4

Be' ydi dy farn di?

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion yn cael eu himiwneiddio i'w gwarchod rhag cael rhai afiechydon. Ond mae dwy farn am imiwneiddio. Beth ydi dy farn di?

Dw i ddim eisiau cael fy imiwneiddio, mae'n gas gen i nodwyddau. Dw i ddim yn meddwl fod angen i mi gael fy imiwneiddio oherwydd mae'r rhan fwyaf o afiechydon peryglus bron wedi diflannu o'r wlad hon beth bynnag. Os daw afiechyd o amgylch, mi fedraf aros adref, fel na chaf i mohono, ac os bydda i'n sâl gallaf fynd at y meddyg i gael moddion.

Dw i'n credu'n gryf mewn imiwneiddio. Pe byddai pawb yn cael pigiad am afiechyd arbennig fel y frech goch, yna byddai'r salwch yn cael ei atal yn llwyr trwy'r byd. Mae'n salwch ofnadwy ac yn gallu bod yn beryglus iawn. Dw i'n credu ein bod ni'n lwcus iawn yng Nghymru. Wrth gael ein himiwneiddio rydym yn cael ein hamddiffyn rhag cymaint o afiechydon ofnadwy

PWYSO A MESUR

POS CALON

Torrwch y 20 triongl ongl sgwâr yma allan a cheisiwch eu gosod gyda'i gilydd i wneud siâp calon.
Mae'r ateb ar dudalen 6.

Her ychwanegol: Oes posib gwneud siâp calon gyda llai na 20 o drionglau neu mwy na 20 o drionglau? Oes patrwm felly?

ANTI DOT
YN DWEUD

ANTI DOT
YN DWEUD

ANTI DOT
YN DWEUD

Tagu! Tagu! Twp 'di 'smygu!

Mae rhai pobl ifanc yn dechrau smygu am fod eu ffrindiau yn rhoi pwysau arnynt i wneud. Ond mae Anti Dot yn meddwl fod hynny'n beth dwl a gwirion iawn i'w wneud. Dyma rai o broblemau all ddod wrth 'smygu:

Mae rhai pobl ifanc yn dechrau smygu am fod eu ffrindiau yn rhoi pwysau arnynt i wneud. Ond mae Anti Dot yn meddwl fod hynny'n beth dwl a gwirion iawn i'w wneud. Dyma rai o broblemau all ddod wrth 'smygu:

Mae rhai pobl ifanc yn dechrau smygu am fod eu ffrindiau yn rhoi pwysau arnynt i wneud. Ond mae Anti Dot yn meddwl fod hynny'n beth dwl a gwirion iawn i'w wneud. Dyma rai o broblemau all ddod wrth 'smygu:

5

Mae 11eg Mawrth yn ddiwrnod Dim Ysmygu. Mae ysmygu yn gallu niweidio'r ysgyfaint a'r galon ac mae'n ddrwg i’n hiechyd. Mae sigarennau yn cynnwys cyffur niweidiol o'r enw nicotin, yn ogystal â llawer o ddeunyddiau niweidiol eraill e.e. tar a charbon monocsid.

  • Mae'r ysgyfaint yn organ bwysig yn y corff ac yn rhan o'r system resbiradu.
  • Wrth i ni anadlu i mewn mae'r ysgyfaint yn cymryd ocsigen i mewn i'r corff, yna mae'r ysgyfaint yn cymryd nwy o'r enw carbon deuocsid allan o'r gwaed, a byddwn yn cael gwared â'r nwy hwnnw wrth anadlu allan.
  • Rydym yn anadlu aer trwy'r trwyn a'r geg, yna mae'r aer yn

symud i lawr trwy bibell o'r enw'r tracea.

  • Mae'r aer yn mynd o'r geg a'r trwyn i'r tracea, bydd yr aer yn cynhesu a bydd unrhyw faw neu lwch yn cael ei ddal fel nad ydi'n mynd i lawr i'r ysgyfaint.
  • Wedi cyrraedd yr ysgyfaint bydd yr ocsigen yn cael ei symud i'r gwaed ac yna ymlaen i bob rhan o'r corff.

Pam cael anifeiliaid yn yr ysgol?

Mae'r ysgol yn unigryw, rydan ni'n cael cyfle gwych i ddeall anghenion y creaduriaid.Mae'n rhoi cyfrifoldeb i ni sef bod yn rhaid i ni ofalu yn iawn am bob un ohonynt. Mae'n rhaid eu bwydo ac weithiau chwistrellu dŵr dros rai ohonynt sydd angen amgylchfyd llaith. Rydan ni wrth ein boddau yn gwneud cysylltiad efo'r anifeiliaid yma - dim yn aml gewch chi ddod i adnabod cameleon yng Nghymru!
Mae ysgolion eraill yn dod yma weithiau a byddwn yn cynnal gweithdai anifeiliaid ar eu cyfer. Efallai y byddan nhw, fel ni, yn dod yn ysgolion eco rhyw ddiwrnod. Bob dydd mae'n rhaid i ni gasglu wyau. Erbyn hyn mae'n ieir ni wedi dodwy bron i 100,000 o wyau!

Manteision eraill?

Mae'n llawer gwell na dim ond darllen am y creaduriaid - rydan ni'n cael dealltwriaeth ddyfnach amdanynt, ac mae'r dysgu yn hwyl!

Beth rydych chi'n mwynhau fwyaf?

Rydan ni wrth ein boddau yn gafael yn y creaduriaid ac yn eu hastudio. Rydan ni'n hoffi helpu'r athrawon, mae'n rhoi cyfrifoldebau i ni. 'Yn fy llaw mae gen i fath arbennig o gameleon, Cameleon Ffug Ciwbaidd. Dwi'n rhyfeddu at ba mor hardd ydi o, fel crocodeil bach. Tybed beth sydd ar ei feddwl! Rydan ni wedi

ysgrifennu cerddi am yr anifeiliaid.
Weithiau mae plant yn mynd i'r swyddfa i ddarllen efo'r ci, neu i ymdawelu.

Anfanteision?

Weithiau rydan ni'n ffraeo pwy sy’n cael bwydo neu ofalu am anifail arbennig. Hefyd mae 150 o ieir yn gwneud llawer o bŵ - mae'n rhaid gofalu amdanyn nhw a'u bwydo. Gwaith caled, ond yn werth y drafferth!

Dywedwch un peth anhygoel am eich hoff anifail.

  • Mae gan y cameleon dafod sydd ddwywaith yn hirach na'i gorff, ac mae'n saethu allan i ddal locust.
  • March y môr a chameleon yw'r unig anifeiliaid sy'n gallu symud eu dwy lygad i gyfeiriadau gwahanol!
  • Mae gan y Falwen Affricanaidd enfawr fwy o ddannedd na siarc gwyn!
  • Does gan Froga Corniog yr Ariannin ddim cyhyrau yn ei wddf, felly mae'n defnyddio ei lygaid i wthio'r bwyd i lawr ei wddf!

Beth am yr amgylchfyd?

Heb y gwenyn ni fyddai planhigion yn cael eu peillio.

Mae gennym 10 cwch gwenyn yn yr ysgol sy'n gartref i tua hanner miliwn o wenyn!

Yr ochr fusnes?

Rydan ni'n gwerthu wyau i siopau, ac mae'n ieir yn cynhyrchu tua 20,000 o wyau mewn blwyddyn. Rydym yn gwerthu mêl yn Ffair Fêl Conwy, ac yn gwneud elw o tua £1000 bob tro. Byddwn yn defnyddio rysáit cyfrinachol Mr Jones i wneud catwad efo'r afalau o'n perllan. Rydan ni'n gwerthu wyau'r ffesant euraidd ar y we. Mae blwyddyn 2 wedi gwneud breichledau meddylgarwch, wedi eu hysbrydoli gan y gwenyn. Mae 10% o werthiant y breichledi yn mynd tuag at brosiectau meddylgarwch. Byddwn hefyd yn gwerthu planhigion egsotig, fel rhedyn coediog o Awstralia.

6

ANIFEILIAID ARWROL

ANIFEILIAID ARWROL

ANIFEILIAID ARWROL

Mae ein ffrindiau o ffwr a phlu wedi chwarae rhan bwysig mewn hanes ac mewn llawer o
achosion wedi achub bywydau nifer fawr o bobl. Dyma hanes rhai o’r anifeiliaid hynny:

CANERIS YN Y PYLLAU GLO

CANERIS YN Y PYLLAU GLO

CANERIS YN Y PYLLAU GLO

'Ymhell o dan y ddaear mewn pwll glo, un o’r peryglon mwyaf yw’r ffaith bod nwyon gwenwynig yn gallu casglu. Mae rhai o’r nwyon yma yn gallu achosi ffrwydriad, ac eraill (fel carbon monocsid) yn gallu niweidio neu ladd pobl sy’n ei anadlu. Darganfyddodd gwyddonydd o’r enw John Scott Haldane fod adar fel canêris yn ddelfrydol i’w defnyddio i ddarganfod nwyon gwenwynig fel hyn gan fod eu cyrff yn sensitif iawn i’r nwyon. Roedd glowyr yn mynd a chanêris i lawr y pwll glo ac yn cadw golwg manwl arnynt; os oedd y canêri yn mynd yn sâl neu yn marw roedd yn rhybudd i’r glowyr fod angen iddynt ddianc o’r lle hwnnw. Daeth y traddodiad o ddefnyddio canêris mewn pyllau glo i ben yn 1986.

nwyon gwenwynigpoisonous gases

COLOMENOD YN Y RHYFEL

COLOMENOD YN Y RHYFEL

COLOMENOD YN Y RHYFEL

Chwaraeodd golomennod ran hanfodol yn y Rhyfel Mawr a’r Ail Ryfel Byd oherwydd eu bod yn ffordd effeithiol o ddanfon negeseuon.
Defnyddiwyd dros 100,000 ohonynt yn ystod y Rhyfel Mawr ac roedd y mwyafrif ohonynt yn llwyddiannus wrth gario eu negeseuon. Mantais colomen yw ei gallu anhygoel i gael hyd i’w ffordd adref a hefyd y cyflymdra y gall hedfan.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf collodd un golomen enwog o’r enw Cher Ami ei choes a’i llygad a saethwyd hi yn ei brest, ond daliodd i hedfan a bu’n llwyddiannus wrth ddanfon ei neges. O ganlyniad i hyn cafodd criw mawr o filwyr Americanaidd eu hachub. Cerfiodd un o’r milwyr goes bren iddi a chafodd ei rhoi ar long oedd yn hwylio yn ôl i America. Enillodd Cher Ami nifer o fedalau am ei dewrder!

Yr anifeiliaid cyntaf i fynd i'r gofod oedd pryfaid, a gafodd eu hanfon mewn roced o'r enw Nazi V2 ym 1947. Y mwnci cyntaf i gyrraedd y gofod oedd Albert II, a gyrhaeddodd uchder o 134km. Ar ôl hyn, ym 1950, aeth llygoden i fyny i uchder o 137km. Bu farw bob un o’r anifeiliaid hyn

yn ystod eu taith. Mae’n debyg mai’r anifail mwyaf enwog am fynd i’r gofod oedd ci o’r enw Laika. Laika oedd y peth byw cyntaf i gylchdroi’r ddaear (orbit the earth) ar long ofod y Sputnik II ym 1957. Yn anffodus bu Laika hefyd farw yn ystod ei thaith.

Yr anifeiliaid cyntaf i ddod yn ôl yn fyw o’u taith i’r gofod oedd dau gi o’r enw Belka a Strelka, cwningen, 42 o lygod, dwy lygoden fawr a phryfaid oedd ar fwrdd y Sputnik 5 ym 1960. Ers hynny mae pob math o anifeiliaid wedi teithio i’r gofod, gan gynnwys crwbanod, pysgod, slefrod môr a phryfaid cop!

CŴN ACHUB ST BERNARD

Mae’r cŵn yma yn enwog am eu gallu anhygoel i ddarganfod ac achub pobl o’r eira yn ardal St Bernard yn yr Alpau. Beth am i chi wneud ychydig o waith ymchwil eich hun i ddod o hyd i fwy o wybodaeth?

7

PISTYLL RHAEADR

PISTYLL RHAEADR

PISTYLL RHAEADR

Wedi ei leoli ym Mynyddoedd y Berwyn ger Llanrhaeadr ym Mochnant, hwn yw’r rhaeadr uchaf yng Nghymru a Lloegr. Mae’n syrthio 80m o Lyn Llyncaws, lle'r oedd gwiber (neidr fawr) frawychus yn byw yn ôl chwedl o’r ardal. Mae’r pistyll yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.

MANTELL AUR YR WYDDGRUG

MANTELL AUR YR WYDDGRUG

MANTELL AUR YR WYDDGRUG

Mae hwn yn llythrennol yn drysor o Gymru sydd tua 4,000 o flynyddoedd oed ac wedi ei wneud o ddarn o aur pur. Cafwyd hyd iddo mewn lle o’r enw Bryn yr Ellyllon yn yr Wyddgrug ym 1833

Pwy oedd yn gwisgo’r fantell?

Roedd pobl yn meddwl i ddechrau mai dyn pwysig fyddai’n gwisgo mantell mor hardd ac mor werthfawr, ond wrth edrych yn agosach mae’r maint yn awgrymu mai menyw fechan neu blentyn oedd yn ei gwisgo.

Ble mae’r fantell erbyn hyn?

Yn anffodus nid yw’r fantell wedi aros yng Nghymru ond mae’n bosib ei gweld yn y British Museum yn Llundain. Mae copi ohoni i’w gweld yn Llyfrgell Yr Wyddgrug.

PENCAMPWRIAETH RYGBI’R CHWE GWLAD

PENCAMPWRIAETH RYGBI’R CHWE GWLAD

PENCAMPWRIAETH RYGBI’R CHWE GWLAD

Gydag un gêm i fynd yn y bencampwriaeth, mae Cymru’n eistedd yn y pumed safle ar ôl colli yn erbyn Lloegr. Mae eu siawns o ennill y bencampwriaeth bellach wedi diflannu, ond gyda’u gêm derfynnol yn erbyn Yr Alban yn dal i ddod, mi fydd Cymru yn gobeithio gorffen y gystadleuaeth gyda buddugoliaeth. Mi fydd yn rhaid aros ychydig yn hirach nac arfer am y canlyniadau terfynnol, gan fod rhai o’r gemau wedi eu gohirio oherwydd effaith Coronavirus.

Nofiwr o Gymru yw Georgia Davies ac mae hi’n gobeithio cael ei dewis ar gyfer Tîm Prydain yng Ngemau Olympaidd Tokyo eleni. Byddai hyn y trydydd gwaith iddi gystadlu yn y Gemau Olympaidd, ond mae rhaid iddi gymryd rhan mewn treialon anodd iawn ym mis Ebrill er mwyn sicrhau ei lle!

Dyma ychydig o wybodaeth amdani:

Enw llawn: Georgia Beth Davies

Dyddiad geni: 11.10.90

Taldra: 1.75m

Pwysau: 60kg

Llwyddiannau:

Medal efydd ym mhencampwriaethau’r byd yn Gwangju 2019.
Dwy fedal aur, un arian ac un efydd ym mhencampwriaethau Ewrop yng Nglasgow 2018. Bu’n aelod o dîm Cymru am y trydydd gwaith yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia 2018, gan ennill dwy fedal efydd.
Cyrhaeddodd rownd gynderfynol y ras 100m Dull Cefn yng Ngemau Olympaidd Rio, 2016.

Croesi bysedd y bydd Georgia yn sicrhau lle ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo! Pob Lwc Georgia!:

Bydd dau rifyn o'r Cliciadur yn ymddangos ar Hwb bob tymor. Bydd y rhifyn nesaf ar gael ar ddydd Llun 4ydd Mai. Cofia gysylltu drwy e-bostio cliciadur@cynnal.co.uk - byddwn wrth ein boddau yn clywed dy farn a dy syniadau.

8