NÔL I'R YSGOL

NÔL I'R YSGOL

NÔL I'R YSGOL

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams y camau nesaf i ysgolion Cymru. Er bod ysgolion wedi bod ar agor i nifer o blant a phobl ifanc, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion wedi bod yn cael eu haddysg gartref.
Camau nesaf i ysgolion Cymru:

  • 29 Mehefin - agor yr ysgol i bawb.
  • 27 Gorffennaf - ysgolion yn cau dros yr Haf.
  • Mis Medi - y flwyddyn addysgol nesaf yn dechrau.
  • Hanner tymor yr hydref - pythefnos o wyliau.

A fydd popeth yn ôl fel arfer?
Ni fydd popeth yn union fel o'r blaen, bydd rhai newidiadau:
Rhai o'r newidiadau hynny fydd:

  • blynyddoedd ysgol yn cael eu rhannu i grwpiau
  • amser dechrau ac egwyl ar adegau gwahanol i sicrhau llai o blant a phobl ifanc gyda'i gilydd
  • llai o ddisgyblion mewn dosbarthiadau
  • blynyddoedd ysgol yn cael eu rhannu i grwpiau
  • amser dechrau ac egwyl ar adegau gwahanol i sicrhau llai o blant a phobl ifanc gyda'i gilydd
  • llai o ddisgyblion mewn dosbarthiadau

Mae ysgolion yn Lloegr wedi ail-agor ers 1af Mehefin, gyda disgyblion o rai blynyddoedd yn unig yn mynd yn ôl. Bydd ysgolion yr Alban yn ail-agor mis Awst.

Pwy yw'r athrawon gorau?
Mae nifer fawr o rieni a gofalwyr wedi bod yn cymryd rôl athrawon. Beth sy’n gwneud athro da? Mae nifer fawr o blant ac oedolion wedi mwynhau'r profiad o fod adref yn dysgu, ac mae adroddiadau fod nifer mwy nag arfer o oedolion am hyfforddi i fod yn athrawon. Sut fyd addysg wyt ti'n meddwl bydd y dyfodol? Beth am anfon dy syniadau Y Cliciadur?

EISTEDDFOD T

EISTEDDFOD T

EISTEDDFOD T

Oherwydd y sefyllfa gyda’r Coronafeirws cafodd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ei gohirio tan 2021 ond yn ei lle cafwyd yr Eisteddfod rithiol gyntaf erioed, sef Eisteddfod T. Denodd Eisteddfod T dros 6,000 o gystadleuwyr mewn dros 80 o gystadlaethau. Yn ystod yr wythnos cafwyd cystadleuthau traddodiadol fel canu, dawnsio a llefaru ynghyd â phethau ychydig yn wahanol fel meimio i ganeuon a thalentau anifeiliaid anwes. Roedd yn sicr yn Eisteddfod llawn bwrlwm a chwbl unigryw!

'BLACK LIVES MATTER'

'BLACK LIVES MATTER'

'BLACK LIVES MATTER'

Yn ddiweddar, mae protestiadau gwrth-hiliaeth wedi cael eu cynnal dros y byd i gyd, gan gynnwys yma yng Nghymru. Mae miloedd o bobl wedi cymryd rhan yn y protestiadau ac ar y cyfan maen nhw wedi bod yn rhai heddychlon. Cychwynnodd y protestiadau yn dilyn marwolaeth dyn du o’r enw George Floyd ym Minneapolis, Unol Daleithiau America ar 25ain o Fai eleni. Bu farw ar ôl i blismon gwyn bwyso ar ei wddf wrth ei arestio.

Mewn protest ym Mharc Bute, Caerdydd roedd tua 2,000 o bobl yn cymryd rhan ac yn gwrando ar nifer o siaradwyr yn trafod yr *anghyfiawnder mae pobl ddu yn ei wynebu dros y byd. Un o’r siaradwyr oedd Andrew Ogun ac yn ôl Andrew, sydd yn ddyn du, roedd marwolaeth George Floyd weditanio matsien ym mhobl Cymru. Aeth ymlaen i ddweud “Mae pobl yn rhwystredig, mae pobl wedi blino, mae pobl eisiau i’w lleisiau gael eu clywed. Allwn ni ddim dweud bod creulondeb yr heddlu cynddrwg yma ag yw yn yr Unol Daleithiau. Ond er hynny, mae’n rhaid i’r rhagfarn yn erbyn pobl ddu newid. Rydw i’n 10 gwaith mwy tebygol o gael fy stopio gan yr heddlu. Dw i wedi cael fy stopio heb ddim rheswm dilys pan ydw i’n gwneud pethau da, yn gwneud pethau artistig, oherwydd sut ro’n i’n edrych.”

Mae Andrew a phobl eraill nawr yn galw am newid yng nghwricwlwm ysgolion Cymru, fel bod ein plant yn dysgu am rôl Cymru a Phrydain yn hanes pobl ddu a’r rôl mae pobl ddu wedi ei chwarae yn hanes Cymru a Phrydain.

*anghyfiawnder - (injustice) pan nad yw pethau yn deg a phobl ddim yn cael eu trin yr un fath â phobl eraill.

1

DYDDIAU I’R DYDDIADUR

Diwrnod y Dywysoges Gwenllian

Pwy oedd Gwenllian?

Ganwyd Gwenllïan yn ferch i Llywelyn ap Gruffudd ac Eleanor de Montford yn llys Garth Celyn, Abergwyngregyn. Bu farw Eleanor ar enedigaeth Gwenllïan, a chyn iddi gyrraedd ei phen-blwydd yn 1 oed bu farw Llywelyn hefyd . Oherwydd hyn, trefnodd Edward I (gelyn Llywelyn) i Gwenllian gael ei hanfon Loegr i gael ei magu. Treuliodd weddill ei hoes yn byw fel lleian mewn priordy yn Sempringham heb syniad yn y byd pwy oedd hi.

Hirddydd Haf

Beth yw Hirddydd Haf?

Mae Hirddydd Haf yn digwydd tua'r 21ain o Fehefin bob blwyddyn. Eleni mae’n cychwyn am 22:43 yr hwyr ar noson yr 20fed. Hwn yw diwrnod hiraf y flwyddyn pan mae pegwn gogleddol y ddaear wedi ei *ogwyddo agosaf at yr haul. Ym mis Rhagfyr ceir Byrddydd y Gaeaf, sef y diwrnod byrraf. Yng Nghymru, sydd yn hemisffer y gogledd, mae Hirddydd Haf yn nodi diwrnod cyntaf yr haf a Byrddydd y Gaeaf yw diwrnod cyntaf y gaeaf. Os ydych yn byw yn hemisffer y de (fel Awstralia) mae’r gaeaf yn dechrau ym mis Mehefin a’r haf yn dechrau ym mis Rhagfyr

*gogwyddo (tilt) yn pwyso tuag at yr haul

Mae mwy o wybodaeth am Fyrddydd y Gaeaf yn Rhifyn 5–tud 6.

Sut a pham mae pobl yn dathlu Hirddydd Haf?

Dros gyfnod Hirddydd Haf, mewn rhannau gogleddol o’r byd fel Norwy, Y Ffindir ac Alasga mae pobl yn cael haul am hanner nos. Tu mewn i Gylch yr Arctig dydi’r haul ddim yn machlud o gwbl! Mae’r gwledydd hyn yn cael dathliadau mawr ac mae Sweden yn cael diwrnod o wyliau cenedlaethol. Mae pobl yn mwynhau teithio i gefn gwlad, casglu blodau gwyllt, gwledda, dawnsio a chanu o gwmpas coelcerth.

Un o’r llefydd mwyaf enwog i ddathlu hirddydd haf yw Côr y Cewri (Stonehenge) yn Lloegr. Mae miloedd o bobl yn tyrru i’r cylch cerrig 4,000 oed yma i weld yr haul yn codi ar ddiwrnod Hirddydd Haf. Mae’r haul yn codi tu ôl i garreg arbennig yr ‘Heel Stone’ ac mae pelydryn o haul yn disgleirio i ganol y cylch cerrig, dim ond ar yr un diwrnod yma o’r flwyddyn mae hyn y digwydd. Credir fod pobl wedi bod yn dathlu Hirddydd Haf yng Nghôr y Cewri ers miloedd o flynyddoedd.
Gallwch weld mwy o hanes am ddathlu Hirddydd Haf ym Mryn Celli Ddu, Ynys Môn yn yr erthygl ‘Trysorau Cymru’ ar dudalen 8.

Sul y Tadau

Diwrnod Rhyngwladol Corsydd

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC): https://bit.ly/2TwKmP8

Os wyt ti’n hoffi natur mae CNC hefyd yn annog pobl i gymryd rhan yng nghynllun monitro peillwyr. Arolwg am greaduriaid a blodau sy’n peillio ydy hwn, y gelli di ei wneud yn dy ardd dy hun heb unrhyw offer na gwybodaeth arbennig. Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu gwyddonwyr gyda gwaith pwysig yn y maes yma. Mae’n bosib gwneud yr arolwg yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Dilyn y linc am fwy o wybodaeth:
https://bit.ly/3g6Tgwu

Diwrnod Annibyniaeth UDA

Mae Unol Daleithiau America yn dathlu ar y dyddiad yma bob blwyddyn i gofio’r diwrnod yn 1776 pryd cafodd y wlad ei gwneud, yn swyddogol, yn wlad annibynol. Cyn 1776 roedd y wlad yn cael ei rheoli gan Brydain.

Diwrnod Bastille yn Ffrainc

Mae’r diwrnod yma yn cael ei ddathlu yn Ffrainc i gofio am bobl gyffredin y wlad yn torri i mewn i garchar y Bastille ym Mharis ym 1789. Hwn oedd dechrau Chwyldro Ffrainc (’French Revolution’) pryd y penderfynodd pobl gyffredin droi yn erbyn y teulu brehinol a'r bobl gyfoethog oedd yn rheoli’r wlad. Cafodd llawer o’r bobl hyn eu dienyddio (torri eu pennau) gan y guillotine.

Pen-blwydd
Harry Potter

Mae’r cymeriad Harry Potter yn rhannu ei ben-blwydd gydag awdur y llyfrau, J. K. Rowling.

2

PEN-BLWYDD HAPUS?

PEN-BLWYDD HAPUS?

PEN-BLWYDD HAPUS?

Roedd Tariq yn cael ei ben blwydd fory. Fel arfer ar ei ben blwydd byddai'n cael parti mawr gyda'i ffrindiau a byddai ei chwaer fawr Amira, yn dod adref o'r ysbyty yn Llundain, lle'r oedd yn feddyg. Fel arfer hefyd byddai'n cael pryd arbennig o fwyd ac yn mynd i lan y môr neu i'r parc i chwarae. Ond y tro yma doedd Tariq ddim wedi edrych ymlaen am ei ben blwydd o gwbl. Doedd arno ddim eisiau i'r diwrnod gyrraedd.
Syllodd Tariq yn drist ar ei draed, a'r hen drainers. Roedd wedi gofyn i'w rieni am bâr newydd o drainers yn anrheg, roedd wedi bod gyda Mam i'r siop chwaraeon cyn i'r byd i gyd gloi, ac wedi eu

trio 'mlaen yn barod. Roedd Mam wedi gwenu ac wedi dweud, 'Gawn ni weld ie?' Bob tro byddai'n mynd am dro gyda'i rieni trwy'r strydoedd gwag, byddai'n mynd heibio'r siop - byddai'r trainers yn dal yno, ar y silff wrth y ffenestr. Ond ddoe, roedd wedi mynd gyda'i fam ar hyd y prom, ac wedi mynd i mewn i'r dre, roedden nhw wedi aros o flaen y siop chwaraeon, roedd y siop ar gau wrth gwrs, fel y rhan fwyaf o siopau'r dref. Rhoddodd Tariq ei dalcen ar y gwydr i gael edrych yn well, ond doedd y trainers ddim yno. Suddodd ei galon, maen rhaid eu bod wedi eu gwerthu. Ond sut a'r siop ar gau?
Llusgodd Tariq ei draed yr holl ffordd adre. Er fod y geifr gwyllt wedi dod i lawr i'r dref ac yn neidio dros y cloddiau i'r gerddi, doedd Tariq ddim wedi codi ei ben i'w gwylio, dim wedi chwerthin a rhedeg i'w gweld yn iawn, fel arfer. Wnaeth Tariq ddim

codi ei lygaid oddi ar ei drainers tyllog yr holl ffordd adref.
Aeth Tariq i'w wely'n ddigalon iawn. Fory fyddai'r penblwydd gwaethaf erioed!
Deffrodd yn fore, ac wedi cofio mai heddiw oedd diwrnod ei ben blwydd, rhoddodd ei ben yn ôl o dan y dwfe. Doedd Tariq ddim am godi. Yna daeth Mam i mewn, 'Ty'd Tariq, mae'n ben blwydd arnat ti. Oeddet ti wedi anghofio?' Meddai Mam gan chwerthin.
'Na, dwi yn cofio.' Meddai Tariq yn dawel, gwisgodd yn araf. 'Crempog i frecwast?' Roedd Mam a Dad wrth y bwrdd, 'Penblwydd hapus iawn Tariq!' Meddai Dad. Cododd y gliniadur ar y bwrdd, 'Edrych mae rhywun eisiau siarad efo ti...' Trodd y sgrîn i wynebu Tariq, yno yn ei dillad

glas yn barod i fynd nôl i'w gwaith roedd Amira, 'Penblwydd hapus Tariq!' Meddai, 'Mi fydda i'n ymuno yn y parti ar y sgrîn heno, pan fydda i'n gorffen gwaith!' Meddai Amira, 'Ond mae yna rhywbeth bach i ti yn y parsel - edrych!' Cododd Dad y parsel o lle'r oedd wedi ei guddio o dan y bwrdd. Agorodd Tariq y papur yn gyflym.
'Waw!' Chwarddodd, ac ymunodd Amira yn y chwerthin 'Rho nhw 'malen i weld os ydyn nhw'n ffitio!'
Yn y p'nawn, aeth Dad a Mam efo Tariq am dro ar y prom, roedd y geifr yn ôl i lawr yn y dref, a'r stryd yn wag, rhedodd Tariq ar ôl y geifr, y trainers newydd fel adenydd am ei draed.

CACEN GAWS MALTESERS

3

Mae Gruffudd Owen yn rhoi sialens llenyddol bob wythnos ar Twitter a YouTube. Beth am fynd ati i farddoni?

Wyt ti’n hoffi tynnu llun?

Mae Orielodl yn rhoi gwersi gwych ar YouTube ar sut i wneud lluniau â geiriau Cymraeg.

Wyt ti awydd dysgu chwarae’r ukulele?

Mae Mei Gwynedd yn rhoi gwersi ukulele yn Gymraeg ar YouTube. Mae’r rhain yn hawdd i’w dilyn ac yn addas i blant.

Mae Sioned Erin Hughes yn mwynhau ysgrifennu am bob math o bethau. Erin enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2018. Gan ei bod adref yn hunanynysu penderfynodd greu Grŵp Llun a Stori ar Facebook gan wahodd plant i anfon lluniau ati er mwyn iddi allu sgwennu stori am y llun iddyn nhw. I ddarllen y storïau dilyna’r linc yma:

Gweler rhestr fer gwobrau Tir na n-Og isod lle mae llyfr a olygwyd gan Sioned Erin Hughes wedi’i enwebu.

Mae cyfres o sesiynau celf i blant gan un o brif gartwnwyr Cymru wedi cael eu gwylio dros 30,000 o weithiau ers eu lansio ar-lein ar ddechrau’r cyfnod o gau ysgolion oherwydd Coronafeirws.
Partneriaeth yw’r Criw Celf rhwng dau o gylchgronau plant Cymru sef Cip a Mellten, y darlunydd Huw Aaron, Urdd Gobaith Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.

Bob prynhawn am 3 o’r gloch, mae Huw Aaron yn cynnal sesiwn fyw neu’n llwytho fideo newydd ar YouTube sy’n dangos i blant sut mae arlunio lluniau dwl neu gartŵns, a sut mae dweud stori trwy luniau.

RHESTR FER GWOBR TIR NA N-OG RHESTR FER GWOBR TIR NA N-OG RHESTR FER GWOBR TIR NA N-OG

RHESTR FER GYMRAEG (CYNRADD)

RHESTR FER GYMRAEG (UWCHRADD)

  • Byw yn fy Nghroen – Gol. Sioned Erin Hughes (Y Lolfa)
  • Tom – Cynan Llwyd (Y Lolfa)
  • Madi – Dewi Wyn Williams (Atebol)

RHESTR FER SAESNEG

4

PWYSO A MESUR

PWYSO A MESUR

PWYSO A MESUR

  1. Ym mha wlad y byddet ti'n cael dy gyfarch yn y bore gyda'r geiriau - Dzień dobry?
    .............................................................. ............................................. ................................................................
  2. Mae tair gwlad yn y byd sydd â dreigiau bach neu fawr ar eu baneri; Cymru yw un wlad wrth gwrs, ond pa ddwy wlad arall sydd gan ddreigiau ar eu baner?
  1. Baneri pa wledydd ydy'r rhain?
  2. Ym mha wlad y byddech chi'n gwario rupee?
    .............................................................. ........................................... ................................................................
  3. Prifddinas pa wlad yw Pretoria?
    .............................................................. ........................................... ................................................................
  4. Ym mha wlad y bydden nhw'n dweud nos da wrthyt ti fel hyn-Goedenacht?
    .............................................................. ........................................... ................................................................
  1. Y Salto Ángel neu Raeadr yr Angel ydi'r rhaeadr uchaf yn y byd, ond ym mha wlad y mae'r rhaeadr?
    .............................................................. .......................................... ................................................................
  2. Ym mha wlad y cynhaliwyd y gemau Olympaidd cyntaf?
    .............................................................. .......................................... ................................................................
  3. I ba wlad hwyliodd llong y Mimosa yn 1865, gan fynd a nifer o Gymry i gychwyn bywyd newydd yno?
    .............................................................. .......................................... ................................................................
  4. Pwy ysgrifennodd Hen Wlad Fy Nhadau, Anthem Genedlaethol Cymru?
    .............................................................. .......................................... ................................................................

Atebion ar dudalen 8

DWEUD DY STORI!

DWEUD DY STORI!

DWEUD DY STORI!

Gelli argraffu'r siart isod, a'i ddefnyddio i dy helpu i greu stori.

Cyfarwyddiadau:

  • Torra'r cardiau i gyd.
  • Dewis 3 cherdyn, un o bob lliw.
  • Defnyddia dy ddychymyg i benderfynu ar dy stori.
  • Gelli godi cerdyn arall os wyt ti eisiau.
  • Gelli chwarae ar ben dy hun, neu gyda ffrind.

5

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae'r enfys wedi bod yn symbol i godi ein calonnau, wrth weld lluniau a modelau wedi eu gosod mewn ffenestri, neu wedi eu peintio ar waliau. Mae'r enfys wedi bod yn symbol o obaith erioed. Ond wyt ti'n gwybod sut mae enfys yn cael ei chreu ym myd natur?

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae'r enfys wedi bod yn symbol i godi ein calonnau, wrth weld lluniau a modelau wedi eu gosod mewn ffenestri, neu wedi eu peintio ar waliau. Mae'r enfys wedi bod yn symbol o obaith erioed. Ond wyt ti'n gwybod sut mae enfys yn cael ei chreu ym myd natur?

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae'r enfys wedi bod yn symbol i godi ein calonnau, wrth weld lluniau a modelau wedi eu gosod mewn ffenestri, neu wedi eu peintio ar waliau. Mae'r enfys wedi bod yn symbol o obaith erioed. Ond wyt ti'n gwybod sut mae enfys yn cael ei chreu ym myd natur?

Beth ydi enfys?

Enfys ydi bwa o liwiau mae'n llygaid ni'n ei weld wrth i olau'r haul dywynnu trwy ddafnau o law, neu ddŵr. Wrth edrych tuag at yr enfys, bydd golau'r haul y tu ôl i ti, a'r glaw o dy flaen di

Pam fod saith lliw yn yr enfys?

Mae goleuni yn edrych fel petai'n wyn, ond mae goleuni'n cael ei wneud o sbectrwm o liwiau. Gallwn weld saith o liwiau yn yr enfys:

fioled, indigo, glas, gwyrdd, melyn, oren, coch.

Ffansi Ffaith?

Nid yw pawb yn gweld enfys yr un fath - bydd enfys yn wahanol i bawb sydd yn edrych arni. Mae hynny oherwydd bod y golau yn cael ei adlewyrchu yn ôl i dy lygaid di, ac mae llygaid pawb yn wahanol.

Golau'n plygu

Wrth fynd i mewn i ddafn o law bydd golau'r haul yn plygu. Yna mae'n plygu eto wrth ddod allan. Bydd y golau'n cael ei wahanu i greu lliwiau gwahanol. Dyna'r lliwiau fydd yn teithio yn ôl i'n llygaid ni fel ein bod gweld enfys.
Mae'r enfys yn gylch o olau, ond gan ein bod ni, fel arfer yn ei weld wrth sefyll ar y ddaear, dim ond hanner y cylch fyddwn ni'n ei weld.

Trysor wrth droed yr enfys

Fedri di ddim cyffwrdd enfys gan mai golau ydi'r lliwiau. Ond mae rhai'n dal i ddweud bod trysor wrth droed yr enfys...

ENFYS MEWN GWYDR

ENFYS MEWN GWYDR

ENFYS MEWN GWYDR

Byddi angen:

  • jar neu wydr uchel
  • 3 cwpan
  • halen
  • lliw bwyd glas, melyn a choch
  • dŵr cynnes

Enw: Fin Calderwood

Byw yn: Pentref o’r enw Pencaenewydd ger Pwllheli.

Camp: Rhedais saith marathon mewn saith diwrnod i gasglu arian i GIG Cymru.

Pam?
Roedd ysgolion wedi cau, felly doeddwn i ddim yn gweithio, ac roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i helpu. Mi gefais syniad o godi arian wrth wneud her gorfforol. Dw i'n hoff o redeg, ond doeddwn i ddim wedi cwblhau marathon cyn yr her!

Teimladau?
Dyna'r peth mwyaf anodd dw i erioed wedi ei wneud, oherwydd faint o filltiroedd oedd angen eu rhedeg pob diwrnod. Ar y trydydd diwrnod cefais anaf i fy mhen-glin ac roedd y boen yn ofnadwy.

Oes gen ti gyngor?
Paratoi. Wnes i ddewis gwneud yr her heb baratoi llawer. Cefais y syniad nos Fercher a chychwynnais ar y dydd Gwener! Mi faswn i'n argymell paratoi, drwy ymarfer rhedeg, ac adeiladu tuag at yr her. Ond, mae'n un o’r pethau gora dw i erioed wedi’i 'neud!

Her arall i ddod?
Dw i'n edrych ‘mlaen rŵan i gwblhau mwy o rasys Ultra Marathon, yn enwedig yr Ultra Pen Llŷn flwyddyn nesaf.

Oes rhywun arbennig yn dy ysgogi?
Neb enwog i fod yn onest, ond mae ffrindiau a theulu yn bwysig. Cefais lawer o gymhelliant wrth feddwl am ffrindiau a theulu, a phobl sydd wedi fy helpu dros y blynyddoedd.

Mae Y Cliciadur yn dymuno'n dda i ti ar dy her nesaf a diolch am ddweud dy hanes.

6

Pwy oedd O.M.Edwards?

Cafodd Owen Morgan Edwards ei fagu ar fferm o'r enw Coed-y-Pry, yn Llanuwchllyn, ger Y Bala. Cafodd ei eni i deulu cymharol dlawd mwn cyfnod pan nad oedd plant o gefndir tebyg yn gallu parhau gyda'u haddysg. Fel arfer roedd yn rhai iddynt fynd i weithio i helpu i gynnal y teulu. Ond llwyddodd O.M.Edwards i fynd i'r brifysgolion yn Aberystwyth a Rhydychen.
Erbyn heddiw rydym yn cofio amdano yn bennaf fel Cymro fu'n brwydro'n galed dros degwch i blant Cymru

Pam fod angen brwydro dros blant Cymru?

Yng nghyfnod O.M.Edwards roedd deddfau ynglŷn ag addysg yn cael eu gwneud yn Llundain. Nid oedd y gwleidyddion yn Llundain yn credu fod addysg Gymraeg yn bwysig. Saesneg oedd iaith pob ysgol trwy Gymru, er bod y mwyafrif o'r plant yn siarad Cymraeg.

Y Welsh Not

Yn y cyfnod hwn, roedd plant Cymru yn cael eu cosbi yn yr ysgol am siarad Cymraeg. Byddai darn o bren gyda'r llythrennau W.N. wedi ei gerfio arno yn cael ei hongian ar gortyn am wddf plentyn oedd yn siarad Cymraeg. Pan fyddai'n clywed plentyn arall yn siarad Cymraeg, byddai'n trosglwyddo'r pren i'r plentyn hwnnw. Ar ddiwedd y diwrnod ysgol, byddai'r plentyn oedd yn gwisgo'r W.N. yn cael ei daro gyda chansen.
Ysgrifennodd O.M.Edwards amdano ef yn cael ei gosbi am siarad Cymraeg yn yr ysgol leol. Dywedodd am y darn pren y Welsh Not - 'Bu'r tocyn hwnnw am fy ngwddf gannoedd o weithiau...' meddai. Yn dilyn ei driniaeth greulon, penderfynodd O.M.Edwards y byddai'n gwneud ei orau i newid y sustem addysg yng Nghymru. Cafodd y swydd o fod yn Brif Arolygwr Ysgolion Cymru, a thra yn y swydd gwnaeth lawer iawn i wneud yn siŵr fod plant Cymru yn cael eu trin yn deg.

Awdur

Roedd O.M.Edwards hefyd yn awdur. Ysgrifennodd nifer o lyfrau i blant ac oedolion, oedd yn eu dysgu am Gymru. Bu'n teithio hefyd, ac ysgrifennodd am y gwledydd y bu ynddynt.
Yn ystod y 1890egau, penderfynodd gyhoeddi cylchgronau ar gyfer plant. Roedd disgwyl mawr yng nghartrefi Cymru am y cylchgronau - Cymru a Chymru'r Plant. Roedd Cymru'r Plant yn gwerthu tua 40,000 o gopiau bob mis, ac mae'n parhau i fod y cyhoeddiad Cymraeg gyda'r mwyaf o ddarllenwyr erioed.

Tudalen o Gymru'r Plant 1892.

Cyn cylchgronau O.M.Edwards, nid oedd llyfrau i blant tebyg ar gael. Roedd Cymru'r Plant yn cynnwys lluniau, storïau a phosau bach ar gyfer plant.

Ffansi Ffaith?

Wyt ti'n aelod o'r Urdd? Roedd Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru yn fab i Syr O.M.Edwards.

Aelod Seneddol

Bu O.M.Edwards yn aelod seneddol dros sir Feirionnydd. Roedd yn aelod o'r blaid Ryddfrydol a chafodd ei ethol yn 1899. Ond nid oedd yn mwynhau gwaith Aelod Seneddol, felly dim ond am flwyddyn y bu yn y senedd.

7

Un o drysorau hynafol mwyaf pwysig Cymru yw Bryn Celli Ddu ger Llanddaniel Fab ar Ynys Môn. Beddrod o’r cyfnod Neolithig, neu Oes Newydd y Cerrig, yw hwn ac mae arbenigwyr yn credu ei fod wedi dechrau cael ei adeiladu tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Ynddo, mae cerrig mawr wedi eu gosod mewn cylch i greu siambr gyda

chyntedd hir yn arwain ato, ac mae’r cyfan wedi ei orchuddio a thomen o bridd. Mae haneswyr yn credu fod llawer o bobl wedi eu claddu yma dros gyfnod hir o amser. O fewn y beddrod mae archeolegwyr wedi darganfod esgyrn dynol, blaen saeth, glain bach o garreg a charreg fawr wedi ei addurno â phatrymau rhyfedd.

Yr hyn sy’n gwneud Bryn Celli Ddu yn fwy diddorol yw ei fod wedi ei osod yn berffaith i gyd-fynd â’r haul yn codi ar ddiwrnod Hirddydd Haf. Wrth i’r haul wawrio ar y diwrnod arbennig yma mae

pelydrau o olau yn cael eu taflu i lawr y cyntedd i oleuo'r siambr gladdu y tu fewn. Tybed na rhoi golau, gwres a bywyd i’r bobl oedd wedi eu claddu yno oedd y bwriad… pwy a ŵyr?

Mae’r ffilm yma ar YouTube yn rhoi mwy o wybodaeth: https://www.youtube.com/watch?v=Ay8ZhWX4nUg

FFEITHIAU FFYRNIG AM CHWARAEON

AR AGOR UNWAITH ETO!

Cawsom hanes Andrea, athrawes o China yn Rhifyn 14. Dyma ddiweddariad ganddi ynglŷn â’r sefyllfa erbyn hyn:

Mae’n ychydig wythnosau ers i mi ysgrifennu am y sefyllfa yn China. Mae hi’n ddechrau Mehefin erbyn hyn ac efallai eich bod yn meddwl tybed sut mae pethau erbyn hyn?

Mae mynd o le i le dipyn yn haws erbyn hyn gan fod y rhan fwyaf o fwytai, siopau, parciau ac ardaloedd hamdden ar agor, ond rhaid gwisgo mwgwd. Rydym wedi agor ysgolion i bob oedran ar wahân i’r Meithrin. Doedd pawb ddim wedi dechrau ar unwaith gan fod rhai blynyddoedd wedi cychwyn ar adegau gwahanol. Mae’r ysgol ychydig yn wahanol ond mae pethau yn well ac yn haws nag oeddwn wedi ei ddisgwyl! Cyn i

ni fynd yn ôl i’r ysgol roedd yn rhaid i’r athrawon gael prawf i ddweud eu bod yn glir o’r feirws,

a chyn mynd i mewn i’r ysgol bob dydd rhaid i ni sganio ein Ap iechyd. Rhaid i ni hefyd giwio 1.5m ar wahân a chael gwirio ein tymheredd. Mae athrawon a disgyblion yn gwisgo mwgwd ar gyfer y gwersi. Rhaid i’r desgiau fod 1.5m ar wahân gyda thua 15 o blant ymhob dosbarth. Felly dydi bywyd ddim yn hollol ‘normal’ ond mae pethau yn llawer gwell erbyn hyn. Rhaid i ni ddal i ddilyn y rheolau er mwyn cadw pawb yn ddiogel!

Bydd dau rifyn o'r Cliciadur yn ymddangos ar Hwb bob tymor. Bydd y rhifyn nesaf ar gael ar ddydd Llun 14eg Medi. Cofia gysylltu drwy e-bostio cliciadur@cynnal.co.uk - byddwn wrth ein boddau yn clywed dy farn a dy syniadau.

8