Mae cynghorau Cymru wedi dweud eu bod yn ceisio eu gorau i ddod o hyd i gartrefi i ffoaduriaid o Afghanistan. Cafodd dros 15,000 o bobl eu hachub o ddinas Kabul gan filwyr y DU ers 15fed Awst, pan gipiodd y Taliban reolaeth yn y wlad. Mae milwyr y DU a gwledydd eraill wedi bod yn Afghanistan ers 2001, ond pan gyhoeddodd Joe Biden, Arlywydd America fod milwyr UDA yn mynd i adael, yna penderfynodd bob gwlad arall y byddent hefyd yn gadael. Wrth i’r milwyr adael roedd llawer o bobl
Afghanistan mewn perygl ac felly roedd rhaid achub dros 100,000 o bobl a’u cludo o’r Maes Awyr yn Kabul.
Pwy yw’r Taliban?
Grŵp Islamaidd eithafol yw’r Taliban, sydd wedi bod yn ymladd i gael rheolaeth yn Afghanistan. Mae’r Taliban am i bawb ddilyn rheolau crefyddol llym iawn ond mae llawer yn credu fod y rheolau yn rhy llym ac yn rhy eithafol. Pan oedd y Taliban yn rheoli’r wlad rhwng 1996 a 2001 cafodd llawer o bethau eu gwahardd ganddynt, gan gynnwys addysg i ferched, teledu, cerddoriaeth a sinema. Roedd yn rhaid i bob dyn dyfu barf ac i bob menyw wisgo burka, sef gwisg hir sy’n cuddio’r corff a’r wyneb. Mae pobl Afghanistan a gwledydd eraill yn poeni y bydd yn rhaid dilyn y rheolau llym yma eto ac felly mae llawer iawn o bobl yn awyddus i ddianc o’r wlad.
Dros gyfnod yr haf daeth llwyddiant i Gymru mewn sawl maes.
Hwrê i...
Hwre i holl athletwyr gwych Cymru am ennill medalau yn y gemau Olympaidd a Paraolympaidd yn Tokyo! (Am fwy o wybodaeth am y medalau cer i dudalen 8 i weld y tablu medalau).
Tirlun Llechi Cymru am gael ei wneud yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. (Am fwy o wybodaeth am y diwydiant llechi cer i dudalen 7).
Beth ydy Safle Treftadaeth y Byd UNESCO?
Mae Safleoedd Treftadaeth yn fannau arbennig ar draws y byd oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn lleoedd pwysig i ddynoliaeth. Maen nhw hefyd yn cael eu gwarchod ar gyfer y dyfodol. Erbyn hyn mae pedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru:
1
![]() |
Miri Mes Dyma ymgyrch gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n annog |
plant i gasglu mes ar gyfer plannu coed derw cynhenid ac i godi arian i’w hysgol neu grŵp cymunedol. I
ddarllen mwy cer i Rifyn 4 Y Cliciadur.
https://bit.ly/3CxSW50.
Mae gen ti tan 18.10.21 i ddanfon y mes at
CNC ac mae gwobr Mesen Aur ar gael i’r
grŵp sydd yn casglu’r mes o’r ansawdd gorau.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, dilyn y linc
https://bit.ly/3AuKFgJ
![]() |
Wythnos Ailgylchu |
![]() |
Diwrnod Heddwch Rhyngwladol |
![]() |
Wythnos Beicio i’r Ysgol |
![]() |
Mis Hanes Pobl DduAm fwy o wybodaeth am bobl ddu yng Nghymru cer i Rifyn 16. |
![]() |
Wythnos Gofod y Byd (World Space Week) |
Eleni mae’r wythnos arbennig hon yn dathlu merched yn y gofod.
Ym mis Gorffennaf eleni
daeth Wally Funk y person
hynaf i deithio i’r gofod, yn
82oed. Cafodd y ddynes
arbennig yma ei gwers
hedfan cyntaf pan oedd yn
9 oed, daeth yn beilot yn 17 oed ac ar hyd ei
hoes mae wedi treulio dros 19,000 o oriau yn
hedfan. Roedd ganddi freuddwyd ar hyd ei
hoes i deithio i’r gofod ac yn y 1960au bu’n
rhan o grŵp o 13 o ferched i gwblhau cynllun
hyfforddi NASA. Er gwaetha pasio’r profion
anodd tu-hwnt, ni chafodd wireddu ei
breuddwyd am nad oedd merched yn cael
hedfan i NASA ar y pryd. Roedd rhaid i Wally
aros dros 50 mlynedd arall i gael mynd i’r
gofod a gwireddu ei breuddwyd pan
deithiodd gyda Jeff Bezos o gwmni Amazon
ar roced y New Shepard ar yr 20.7.21.
![]() |
Diwrnod yr AfalCyfle i warchod ac i ddathlu'r ffrwyth arbennig yma. I ddarllen am bwysigrwydd ffrwythau a llysiau cer i Rifyn 16. |
![]() |
Calan GaeafI ddarllen mwy am hen arferion Calan Gaeaf yng Nghymru (ac i ddarllen stori am ysbrydion) cer i Rifyn 10. |
![]() |
Diwrnod Tân GwylltI ddarllen ffeithiau ffrwydrol am dân gwyllt cer i Rifyn 16. |
![]() |
Sul y CofioI ddarllen am y pabi coch cer i Rhifyn 16. |
![]() |
Wythnos Gwrth-Fwlio |
2
Byddi di angen:
Tip:Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd tynnu llun dolffin gelli di gael hyd i lun neu dempled ar y we neu ddefnyddio papur olrhain (tracing paper). |
3
Rhwng y 31ain o Hydref a’r 12fed o Dachwedd bydd Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (UN Climate Change Conference) yn digwydd yn Glasgow. Nôd y gynhadledd yw dod ag arweinwyr y byd at ei gilydd i gydweithio i helpu’r amgylchedd ac i roi camau yn eu lle i leihau cynhesu byd-eang. Bydd COP26 yn gyfle i weithredu ar frys ar dargedau Cytundeb Paris 2015.
Cytundeb Paris 2015
Cytunodd 126 o arweinwyr gwledydd y byd ar darged i leihau cynhesu byd-eang yn COP21 Paris 2015. Y targed oedd gwneud yn siŵr na fydd tymheredd y byd yn codi yn fwy na 2°C, ac yn ddelfrydol yn ddim ond 1.5°C, a hynny er mwyn cael hinsawdd niwtral erbyn canol y ganrif.
Greta Thunberg
Gwestai enwog mewn digwyddiadau newid-hinsawdd yw Greta Thunberg. Rhoddodd Greta ei haraith enwog ‘How dare you’ yn Efrog Newydd 2019. Dilyna’r linc i weld yr araith:
Fodd bynnag, mae Greta wedi dweud na fydd yn mynd i’r cyfarfod yn Glasgow eleni oherwydd ei bod yn credu nad yw’n ddiogel i bawb
fod yna oherwydd y Coronafeirws. Yn ôl Greta mae annhegwch yn y ffordd mae brechlynnau Covid-19 yn cael eu rhannu. Nid yw’n cytuno â’r ffaith fod pobl ifanc iach yn cael brechlynnau mewn gwledydd cyfoethog, tra bod pobl fregus mewn gwledydd tlawd yn gorfod mynd heb frechlyn.
Cyfle i ti gael dweud dy ddweud yn COP26
Mae Climate Cymru am fynd â lleisiau Cymru i gynhadledd COP26, gan gynnwys lleisiau plant a phobl ifanc. Dyma gyfle i ti, dy ddosbarth neu dy ysgol i roi neges i arweinwyr y byd ynglŷn â’r amgylchedd. Gelli di ysgrifennu cerdyn post neu recordio neges. Mae manylion am hyn, ynghyd â fidio am Gymru, yr hinsawdd a chynhadledd COP26 ar wefan Climate Cymru. https://climate.cymru/cy/adref/
JOHN MERRILL
CERFLUNYDD
Cerflunydd sy’n gweithio’n bennaf gyda choed derw ac ar raddfa fawr yw John Merrill. Mae’n gweithio yn ardal Glyn Ceiriog, ger Llangollen. Mae gwaith trawiadol John i’w weld mewn nifer o leoliadau yng Ngogledd Cymru, tybed oes 'na ddarn o waith yn ymyl ble rwyt ti’n byw?
4
'Does gen i ddim ofn!' meddai Ben
am y pedwerydd gwaith, 'does
gen i ddim ofn y tywyllwch, a
does dim y fath beth ag ysbryd.'
Gafaelodd yn Moron y gath a'i
gwthio allan o'r babell, cyn cau'r
sip. 'Dydi'r gath ddrewllyd yna
ddim yn cael cysgu yma beth
bynnag!' chwarddodd, a neidio ar
y gwely gwynt. 'Na, does gen i
ddim ofn, a dw i'n gwybod mai
trio ein dychryn ni mae Taid, felly
paid â chymryd dim sylw!'
Doedd Macsen ddim mor siŵr.
Pan gytunodd i aros mewn pabell
yng ngardd Taid, roedd yn olau
dydd a'r haul yn gwenu. Ond
wedi iddi nosi, roedd yr ardd yn lle
gwahanol iawn. Roedd Ben ei
gefnder yn ddeuddeg oed a
doedd arno ofn dim. Doedd
Macsen ddim yn siŵr o'r antur
yma, yn arbennig efo stori Taid yn
fyw yn ei gof.
'Hen filwr ydy'r ysbryd,' meddai
Taid gan nodio'n ddoeth, 'hen
filwr o gyfnod Owain Glyndŵr,
medda' nhw ... ac mae o'n dal yma
yn chwilio am y ffordd yn ôl i'r
castell.'
'Ydach chi wedi ei weld o Taid?'
holodd Macsen, ond ysgwyd ei
ben wnaeth Taid cyn ychwanegu
'Naddo sdi, dw i heb ei weld, ond
mi glywes i sŵn un tro...'
'Sut sŵn Taid?' chwarddodd Ben,
doedd stori Taid ddim am ei
ddychryn - dim o gwbl!
Roedd Ben a Macsen yn mynd i’r
un ysgol a Ben oedd y ceffyl
blaen. Doedd dim yn ei ddychryn.
O! Fe hoffai Macsen fod mor
ddewr â'i gefnder.
Wedi gwthio'r gath allan o'r babell
tyrchodd y ddau yn eu bagiau.
'Be sydd gen ti i fwyta?' holodd
Ben.
'Haribo,' gwenodd Macsen, 'a
Coke.'
Eisteddodd y ddau ar y gwely
gwynt, wedi eu lapio yn eu sachau cysgu. Roedd
pobman yn dawel, dim ond sŵn slyrpian a
chnoi.
'Wyt ti'n meddwl fod Taid wedi
clywed sŵn yr hen filwr go iawn?'
mentrodd Macsen.
'Naddo siŵr, dim ond trio ein
dychryn ni mae o.' Torrodd Ben
wynt yn uchel a chwarddodd y
ddau.
'Ddylia hynna ddychryn yr hen
filwr yna!' meddai gan wasgu'r
can Coke a'r paced Haribo gwag.
Roedd y babell yn dywyll, a
doedd golau'r ffôn yn dda i ddim i
oleuo'r corneli tywyll. Doedd yr un
o'r ddau yn siŵr beth i'w wneud
nawr fod y bwyd wedi gorffen.
'Shsh... be' oedd hwnna?'
sibrydodd Ben.
'Be'? Glywes i ddim byd.' Teimlai
Macsen ei galon yn dechrau curo.
'Hwnna!' sibrydodd Ben wedyn.
Arhosodd y ddau yn hollol
lonydd, ond fedrai Macsen
glywed dim.
'Jocian!' chwarddodd Ben a
phwnio Macsen yn ei ochr.
Swatiodd y ddau wedyn yn
eu sachau cysgu gan wrando ar sŵn
y nos. Draw yn y coed tal roedd
tylluan yn hwtian a heb fod
ymhell roedd anifail bach yn
rhedeg trwy'r dail.
Yna'n sydyn neidiodd rhywbeth ar
do'r babell a throdd Ben y golau i
gyfeiriad y sŵn. Yno, roedd siâp
du yn crafangu am y babell, dwy
law anferth gydag ewinedd
miniog yn ceisio dod i mewn.
Roedd ei ben yn flewog ac roedd
ganddo ddwy lygad werdd yn
fflachio.
'Waaa!' bloeddiodd Ben, a
thaflodd y ffôn i'r awyr.
'Be sy?' holodd Macsen yn syn.
'Yr hen filwr ydi o...' gwichiodd
Ben.
Chwarddodd Macsen, agorodd y
sip a rhuthrodd y siâp dychrynllyd
i mewn.
'Miaw.'
'Ond does dim ffasiwn beth ag
ysbryd yn nac oes Moron!'
meddai Macsen wrth wylio Ben
yn rhuthro am y tŷ.
Mae'r ysgol wedi ail-ddechrau ac efallai dy fod wedi cael dillad ysgol newydd ar ddechrau'r tymor. Beth yw dy farn di am wisg ysgol? Wyt ti'n cytuno fod angen gwisg arbennig, neu a wyt ti'n credu y dylai disgyblion gael yr hawl i ddewis beth i'w wisgo?
5
Y Plastigion Cyntaf
Cafodd deunydd synthetig (deunydd wedi ei greu
drwy broses gemegol), ei ddefnyddio gyntaf gan
Americanwr o'r enw Wesley Hyatt yn 1869. Yn y
cyfnod hwnnw, roedd galw mawr am ifori (gan amlaf o gyrn eliffantod) i greu
nwyddau, ac roedd yn rhaid difa eliffantod i gael ifori.
Llwyddodd Hyatt i gynhyrchu deunydd cryf fedrai gael
ei siapio i edrych fel ifori a phren, ac felly nid oedd
cymaint o alw am ddeunyddiau naturiol. Ar y dechrau
felly cafodd plastig ei greu i geisio gwarchod byd natur.
Potel Blastig
Mae Bae Ceredigion yn gartref i’r grŵp mwyaf o ddolffiniaid yn Ewrop, wedi eu rhannu dros 60 milltir o arfordir. Mae poblogaeth o dros 250 o ddolffiniaid trwyn-potel (bottlenose dolphin) yn byw yn y bae, ac maen nhw’n olygfa gyffredin rhwng mis Mai a mis Tachwedd. Yr amser gorau i’w gweld yw’n gynnar yn y bore, gyda’r nos ac yn syth ar ôl llanw uchel, ac mae Grŵp Monitro Dolffiniaid a Chanolfan Bywyd Gwyllt y Môr, Cei Newydd yn gwneud gwaith ymchwil i ddysgu mwy amdanynt ac yn helpu i’w gwarchod.
Gelli di hefyd deithio ar dripiau cwch o Gei Newydd er mwyn ceisio gweld y creaduriaid arbennig yma.
Ffeithiau Ffab am y Dolffin Trwyn-Potel:
6
Erbyn diwedd y 19eg, roedd tua 17,000 o bobl yn gweithio mewn chwareli ac roedd galw mawr am lechi Cymru. Roedd llechi Cymru'n cael eu hallforio o amgylch y byd, a daeth nifer o borthladdoedd bach yn bwysig yn y diwydiant allforio llechi. Un o'r rhain oedd Porthmadog; yno byddai llongau'n cael eu hadeiladu yn arbennig ar gyfer allforio llechi Blaenau Ffestiniog. Yn y cyfnod cynnar byddai'r llechi yn cael eu defnyddio yn Lloegr, Iwerddon a Ffrainc, ond pan oedd y diwydiant ar ei anterth byddai llechi’n cael eu hallforio i:
Mae llechi Cymru yn parhau i gael eu hallforio heddiw.
Ffansi Ffaith?
Roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio llechi gan eu defnyddio ar do caer Segontiwm yng Nghaernarfon.
Roedd y gwaith yn galed ac yn beryglus. I osgoi taith hir yno ac adref byddai dynion yn dod i ardal y chwarel i aros mewn tai arbennig o’r enw ‘barics’. Byddai dynion o Fôn yn codi am dri'r bore ar fore Llun i gyrraedd eu gwaith yn Chwarel Dinorwig, Llanberis. Bydden nhw'n mynd adre wedyn ar brynhawn Sadwrn.
Byddai 'criw' o ddynion yn gweithio ar y graig a byddai gan bob un ei waith arbennig ei hun. Dyma waith rhai ohonynt:
7
Enw: Cai Patchett
Oed: 9
Ysgol: Ysgol Waunfawr
Hoff bynciau yn yr ysgol: Addysg Gorfforol a Gwyddoniaeth.
Diddordebau: Mynd ar fy iPad, mynd a'r cŵn am dro, cerdded mynyddoedd a phêl-droed.
Fedri di ddweud ychydig am dy antur a beth wnaeth dy ysgogi i fynd amdani: Mi gerddais fyny tri chopa dros dri diwrnod. Roedd y rhain yn cynnwys mynyddoedd uchaf yr Alban, Lloegr a Chymru. Mi wnes i ddringo Ben Nevis, Scafell Pike a’r Wyddfa. Roeddwn i'n cerdded i godi arian i'r Gymdeithas Awtistig Genedlaethol, ac i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr. Mae hynny'n bwysig i mi gan fy mod i'n Awtistig fy hun.
Uchelgais: Bod yn rheolwr busnes llwyddiannus.
Unrhyw dips i eraill fyddai'n hoffi gwneud rhywbeth tebyg: Cofia orffwys pan fyddi angen, a chofia fynd â digon o fwyd, dŵr a dillad addas.
Diolch Cai am ddweud dy hanes a llongyfarchiadau mawr - rwyt ti wir yn SEREN!
CYMRU'N COLLI CYFLE
GEMAU RHAGBROFOL CWPAN Y BYD 2022
Wythnos diwethaf, cafodd tim pel-droed Cymru fuddugoliaeth wych yn erbyn Belarws gyda Gareth Bale yn sgorio hatrig i roi buddugoliaeth o 3-2 i Gymru, ond colli cyfle fu'r hanes yn erbyn Estonia nos Fercher. Gyda gêm ddi-sgôr yn erbyn Estonia, mae Cymru nawr naw pwynt ar ôl gwlad Belg, sydd ar frig y grŵp. Mae'n rhaid i Gymru ennill pob gêm sy'n weddill os am orffen gyda gobaith o fynd trwodd i gemau Cwpan y Byd yn Qatar.
Bydd dau rifyn o'r Cliciadur yn ymddangos ar Hwb bob tymor. Bydd y rhifyn nesaf ar gael ddydd Llun 15fed Tachwedd. Cofia gysylltu drwy e-bostio cliciadur@cynnal.co.uk - byddwn wrth ein boddau yn clywed dy farn a dy syniadau.
8